Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Rwy'n ysgrifennu i hysbysu’r Senedd fy mod yn bwriadu gohirio gwiriadau ar nwyddau iechydol a ffytoiechydol sydd i fod i ddechrau ar 1 Ionawr 2023 trwy is-ddeddfwriaeth, a fydd yn ymestyn y cyfnod graddoli trosiannol tan 31 Ionawr 2024.
Roedd disgwyl i fesurau rheoli ffin ar blanhigion, anifeiliaid a chynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ddod i rym ar 1 Ionawr 2023 ond cyhoeddodd Llywodraeth y DU adolygiad radical o drefn ffiniau y DU ym mis Ebrill. Edrychwn ymlaen at ddadansoddi casgliadau yn ei Fodel Gweithredu Targed er mwyn asesu'r gofynion seilwaith, goblygiadau o ran adnoddau ac amserlen cyflenwi. Yn y cyfamser mae angen deddfu i ohirio cyflwyno gwiriadau gan y byddai fel arall yn anghyfreithlon mewnforio'r nwyddau hyn i borthladdoedd Cymru ac eithrio trwy Safle Rheoli Ffin dynodedig nad oes gennym eto.
Bydd mewnforwyr yn rhagweld yr estyniad hwn gan fod cyhoeddiad y DU wedi ymrwymo i ddim gwiriadau newydd tan ddiwedd 2023 tra bo’r ddeddfwriaeth bresennol sy'n gohirio'r gwiriadau hyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2022. Rwy'n llwyr ddisgwyl i'r gwiriadau hyn gael eu gohirio mewn mannau eraill ym Mhrydain hefyd.
Yn ogystal, rwyf yn manteisio ar y cyfle hwn i gyflwyno rhag-hysbysu ar gyfer cynhyrchion sy'n teithio i Gymru o Weriniaeth Iwerddon. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i hepgor y gofyniad i rag-hysbysu ar gyfer mewnforio cynhyrchion penodol sy'n teithio ar y llwybrau hyn wedi gadael Llywodraeth Cymru a phartneriaid awdurdodau lleol â bwlch data sylweddol. Mae'n ein rhoi dan anfantais sylweddol o'i gymharu â'r gweinyddiaethau eraill ym Mhrydain sy'n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â mewnforion o wledydd yr UE a chynnal asesiadau effaith ar bolisïau sy'n dod i'r amlwg.
Mae'r gallu i archwilio gwybodaeth sy'n dod i mewn, i geisio canfod, ac i ymyrryd lle bo angen, felly sicrhau bod rhywfaint o sicrwydd bioddiogelwch o'r pwysigrwydd mwyaf tra nad yw mesurau rheoli ffin llawn ar waith. Bydd cyflwyno rhag-hysbysu i fynd i'r afael â'r bwlch diffyg data hefyd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru a'n partneriaid sicrhau bod adnoddau seilwaith a staff ar y ffiniau yn y dyfodol yn briodol i ateb y galw disgwyliedig a darparu gwerth am arian i fewnforwyr, trethdalwyr a defnyddwyr.
Bydd mewnforwyr yn gyfarwydd â rhag-hysbysu gan y byddant wedi paratoi ar gyfer ei gyflwyno ym mis Ionawr 2022 ac eto ym mis Gorffennaf 2022 er iddo gael ei ohirio braidd yn fyr rybudd. Bydd y rhai sy'n mewnforio o gyfandir yr UE i Loegr neu o lefydd eraill yn y byd hefyd yn gyfarwydd â'r broses. Mae rhag-hysbysu yn gofyn am fewnbwn data cyfyngedig trwy'r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS) ac nid oes gofyniad am unrhyw waith papur neu ardystiad iechyd ychwanegol. Er mai bach iawn yw'r beichiau ar fewnforwyr byddai'r data hwn yn hynod werthfawr i swyddogion ac awdurdodau gorfodi perthnasol, fel awdurdodau lleol.
Rwy'n ysgrifennu at randdeiliaid i ofyn am sylwadau ar y cynigion hyn.