Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Amcan y gofynion hyn yw gofalu bod bwyd sydd i’w fwyta gan bobl a phorthiant sydd i’w fwydo i anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd yn cael eu cynhyrchu’n ddiogel. Rhaid i bawb sy’n cynhyrchu bwyd neu borthiant gadw at y rheolau hyn, gan gynnwys pawb sy’n magu anifeiliaid i’w bwyta neu i gynhyrchu bwyd (er enghraifft wyau a llaeth).

Prif ofynion

Mae cyngor yr FSA i fusnesau ar ddigwyddiadau sy’n ymwneud â bwyd a thynnu a galw bwyd yn ôl yn esbonio sut i riportio digwyddiadau, ymateb iddynt a’u hatal, gan gynnwys sut i dynnu neu alw cynnyrch anniogel yn ôl

Diogelwch bwyd/porthiant; eu tynnu o’r farchnad;  eu galw yn ôl

  • Rhaid peidio â rhoi bwyd neu borthiant anniogel ar y farchnad (sy’n beryglus i iechyd pobl neu nad yw’n ffit i’w fwyta). Ystyrir bod porthiant yn anniogel os yw’n cael effaith ddrwg ar iechyd pobl neu anifeiliaid neu os yw’n gwneud y bwyd a gynhyrchir gan anifeiliaid cynhyrchu bwyd yn anniogel i’w fwyta gan bobl.
  • Os oes rheswm i gredu nad yw bwyd neu borthiant sy’n cael ei roi ar y farchnad yn bodloni’r safonau diogelwch a’i fod wedi mynd o’ch rheolaeth chi, yna rhaid dilyn y drefn a’i dynnu’n syth o’r farchnad a hysbysu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) neu’ch Awdurdod Lleol.
  • Os ydy’r bwyd neu’r porthiant eisoes wedi cyrraedd defnyddiwr y bwyd neu’r porthiant, rhaid rhoi’r rheswm iddo dros ei dynnu o’r farchnad. Rhaid galw’r bwyd yn ôl os nad oes ffordd arall effeithiol o ddiogelu iechyd y cyhoedd.
  • Os ydy’r bwyd rydych wedi’i gyflenwi neu sydd o hyd yn eich meddiant ond eich bod yn bwriadu ei werthu, yn peryglu iechyd neu y gallai wneud hynny, rhaid rhoi gwybod i’r FSA neu’r awdurdod lleol ar unwaith.

Olrhain

  • Rhaid bod systemau neu drefniadau yn eu lle i olrhain mewnbynnau i’ch fferm. Mewnbynnau yw bwyd, porthiant, anifeiliaid cynhyrchu bwyd ac unrhyw sylweddau eraill y disgwylir/bwriedir eu hymgorffori yn y porthiant. Rhaid i gofnodion y fferm ddangos: enw a chyfeiriad eich cyflenwr, natur y cynnyrch sy’n cael ei gyflenwi i chi, a faint ohono, a phryd y cafodd ei gyflenwi i chi.
  • Rhaid wrth system debyg sy’n rhoi gwybodaeth gyfatebol i olrhain eich cynnyrch wedi iddo adael y fferm (allbynnau).
  • Gallwch ddefnyddio system law neu electronig sy’n ffeilio derbynebau yn nhrefn amser. Dylai fod yn gyflawn, yn drefnus, yn ddealladwy ac yn hawdd ei dangos pan ofynnir amdani.

Hylendid bwyd a phorthiant

(Nid yw’r adran hon yn berthnasol i gynhyrchwyr sy’n cyflenwi dim ond ychydig o gynnyrch cynradd i’r defnyddiwr olaf e.e. cynnyrch sy’n cael ei werthu yn y fferm neu i siopau lleol sydd wedyn yn ei werthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr olaf).

  • Storiwch wastraff a phob sylwedd peryglus fel na all lygru cynnyrch bwyd neu borthiant. Mae unrhyw sylwedd a all gael effaith ddrwg ar iechyd pobl neu anifeiliaid yn sylwedd peryglus.
  • Peidiwch â storio porthiant ger cemegau nac wrth unrhyw gynnyrch sydd wedi’i wahardd rhag iddo gael ei fwydo i anifeiliaid.
  • Rhaid storio porthiant meddyginiaethol neu anfeddyginiaethol sydd wedi’i wneud yn benodol ar gyfer categorïau neu rywogaethau gwahanol o anifeiliaid fel na all gael ei fwydo i’r anifail anghywir trwy ddamwain.
  • Rhaid gofalu fod bwyd anfeddyginiaethol yn cael ei storio a’i drin ar wahân i borthiant meddyginiaethol rhag iddo gael ei lygru.
  • Rhaid defnyddio ychwanegion bwyd, cynnyrch milfeddygol, cynnyrch amddiffyn planhigion a bioladdwyr yn gywir gan ddilyn cyfarwyddiadau’r label neu’r milfeddyg o ran y dôs, ei bwrpas a’i storio. Mae hyn yn cynnwys sicrhau nad oes mwy o weddillion plaladdwyr neu gynnyrch milfeddygol yn y bwyd nag a ganiateir.
  • Rhaid cymryd mesurau digonol rhag cyflwyno a lledaenu clefydau i bobl trwy fwyd. Mae hyn yn cynnwys:
    • cynnal y profion statudol ar fuchesi am TB Gwartheg a phrofion TB cyn symud ar wartheg;
    • bod yn ofalus wrth ddod ag anifeiliaid newydd i’r fferm;
    • rhoi gwybod i’r awdurdod cymwys os amheuir bod achos o glefyd.
  • Prynwch borthiant ar gyfer anifeiliaid cynhyrchu bwyd oddi wrth gyflenwyr cofrestredig a/neu gyflenwyr sydd wedi’u cymeradwyo gan yr awdurdod lleol.
  • Cadwch gofnod o bob un o’r canlynol:
    • cynnyrch milfeddygol neu driniaethau eraill sydd wedi’u rhoi i anifeiliaid (dyddiad y driniaeth a hyd y cyfnod cadw o’r gadwyn fwyd);
    • y cynnyrch amddiffyn planhigion a bioladdwyr sy’n cael eu defnyddio;
    • canlyniadau unrhyw brofion sy’n cael eu cynnal ar samplau o anifeiliaid cynhyrchu bwyd, planhigion a phorthiant anifeiliaid neu samplau a gymerwyd at ddibenion diagnostig sy’n bwysig i iechyd anifeiliaid neu bobl, a rhoi’r sylw priodol i’r canlyniadau hyn;
    • unrhyw adroddiadau perthnasol ar archwiliadau sydd wedi’u cynnal ar yr anifeiliaid neu’r cynnyrch sy’n dod o’r anifeiliaid;
    • unrhyw hadau GM sydd wedi’u defnyddio i gynhyrchu porthiant.

Rheolau ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr llaeth amrwd (o unrhyw anifail)

  • Rhaid i gynhyrchwyr ofalu bod yr anifail sy’n cynhyrchu’r llaeth yn bodloni’r canlynol:
    • ei fod mewn iechyd cyffredinol da;
    • heb arwydd o glefyd allai halogi’r llaeth;
    • heb glwyf ar ei chadair/pwrs allai effeithio ar y llaeth;
    • nid oes cyfnod‘cadw o’r gadwyn fwyd’yn effeithio arni yn sgil rhoi cynnyrch neu sylwedd cymeradwy iddi;
    • nid oes cynnyrch neu sylwedd sydd heb ei gymeradwyo wedi’i roi iddi;
    • gofalwch fod y llaeth amrwd yn dod o anifeiliaid sy’n perthyn i fuches/daliad sydd heb dwbercwlosis na brwselosis.
  • Cadwch anifeiliaid sydd wedi’u heintio neu sydd o dan amheuaeth eu bod wedi’u heintio â thwbercwlosis neu frwselosis ar wahân rhag iddynt allu effeithio ar laeth anifeiliaid eraill.
  • Gofalwch fod yr offer godro a’r mannau lle mae’r llaeth yn cael ei storio, ei drin neu ei oeri wedi’u lleoli a’u hadeiladu i amddiffyn y llaeth rhag cael ei lygru.
  • Gofalwch fod y safle lle mae’r llaeth yn cael ei storio:
    • yn ddiogel rhag fermin (gan gynnwys adar a nythod adar) ac yn ddigon pell o lety’r anifeiliaid.
    • â’r offer oeri priodol i oeri’r llaeth at y tymheredd gofynnol.
  • Gofalwch fod arwynebau’r offer sy’n dod i gysylltiad â’r llaeth yn hawdd eu glanhau, a’u diheintio os oes angen.
  • Glanhewch, ac os oes angen diheintiwch arwynebau’r offer sy’n dod i gysylltiad â llaeth ar ôl eu defnyddio, a’u cadw mewn cyflwr da.
  • Cadwch at safonau hylendid wrth odro:
    • cyn dechrau godro, gofalwch fod y tethi, y gadair/ pwrs a’r rhannau cyfagos yn lân;
    • gofalwch fod gennych drefn foddhaol i wybod pa anifeiliaid sydd wedi cael triniaeth feddygol;
    • gofalwch nad ydych yn defnyddio llaeth anifeiliaid ddylai gael ei gadw o’r gadwyn fwyd.
  • Rhowch y llaeth mewn lle glân sydd wedi’i ddiogelu rhag cael ei lygru, yn syth ar ôl godro.
  • Rhaid oeri’r llaeth ar unwaith i:
    • ddim mwy nag 8ºC os yw’n cael ei gasglu bob dydd;
    • ddim mwy na 6ºC os nad yw’n cael ei gasglu bob dydd.

Eithriadau i’r uchod:

A – Os ydy’r llaeth yn dod o fuwch sydd wedi adweithio i brawf TB neu fuwch sydd â TB neu frwselosis arni, peidiwch â gwerthu’r llaeth. Os ydy’r llaeth yn dod o fuwch sydd heb adweithio i brawf TB a’i fod yn cael ei werthu i gyfanwerthwr, rhaid trin y llaeth â gwres cyn ei werthu i’w fwyta gan bobl. Ni fyddwch chwaith wedi mynd yn groes i’r gofyn os ydy’r llaeth amrwd yn dod o ddefaid neu eifr a’ch bod yn bwriadu gwneud caws ohono fydd yn cymryd o leiaf 2 fis i aeddfedu.

B – IOs nad ydych yn oeri’r llaeth ar unwaith, ni fyddwch wedi mynd yn groes i’r gofyn os mai’r bwriad yw prosesu’r llaeth o fewn 2 awr ar ôl ei odro, neu os ydy’r busnes wedi cael caniatâd gan yr awdurdod cymwys (Arolygwyr Hylendid Llaeth) oherwydd y cynnyrch fydd yn cael ei wneud o’r llaeth hwn.

Rheolau ychwanegol ar gyfer cynhyrchwyr wyau

Rhaid cadw’r wyau’n lân ac yn sych, heb arogl cryf, allan o lygad yr haul a’u diogelu rhag eu hysgwyd.

Archwiliadau maes

  • I ofalu bod yr holl gofnodion perthnasol yn cael eu cynnal.
  • I ofalu bod y gofynion uchod yn cael eu bodloni 
    e.e. archwilio storfeydd porthiant a phlaladdwyr.

Archwiliadau gweinyddol (profion TB hwyr)

  • Bydd cosbau trawsgydymffurfio yn cael eu rhoi o 1 Ionawr 2015 am unrhyw brofion TB sy’n ddiwrnod neu fwy yn hwyr.
  • Rydym yn eich annog i drefnu pob prawf TB ymhellach ymlaen llaw rhag ichi orfod wynebu cosbau ariannol sylweddol.

Gwybodaeth pellach

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:

  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion Asiantaeth
  • Safonau Bwyd

neu gweler y daflen Trawsgydymffurfio: cysylltiadau defnyddiol (2022) o fewn y pecyn hwn.