Arolwg Cenedlaethol Cymru: Prawf peilot 2022 (crynodeb)
Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau’r arolwg peilot a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) cyn dechrau’r prif waith maes 2022-23 ar gyfer Arolwg Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd y peilot ym mis Ionawr 2022.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Cefndir a nodau
Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r arolwg peilot a gynhaliwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) cyn dechrau prif waith maes 2022-23 Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Gwnaethom gynnal arolwg peilot bach ym mis Ionawr 2022 a oedd yn treialu'r newidiadau a gynlluniwyd ar gyfer blwyddyn arolwg 2022-23. Defnyddiwyd y canfyddiadau a'r adborth o'r arolwg peilot hwn i helpu i wella a llunio'r holiadur terfynol ar gyfer Arolwg Cenedlaethol 2022-23.
Prif nodau'r arolwg peilot oedd:
- profi'r holiadur terfynol ar gyfer 2022-23, yn arbennig y modiwlau newydd yn yr holiadur
- profi deunyddiau'r arolwg a ddiweddarwyd (taflen ymlaen llaw, taflen yn esbonio diben yr arolwg, a'r cerdyn cyflwyno cyfwelydd)
- profi'r daenlen a ddiweddarwyd ar gyfer mynd ar drywydd ymatebwyr
- casglu adborth gan gyfwelwyr
- darparu rhagor o wybodaeth am hyd y cyfweliad a metrigau eraill proses yr arolwg
Bu cryn newid i'r Arolwg Cenedlaethol yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, o ganlyniad i bandemig y coronafeirws (COVID-19).
Y bwriad oedd y byddai Arolwg Cenedlaethol 2022-23 yn symud yn ôl i drefn fwy traddodiadol o ran un holiadur blynyddol a dim ond newidiadau angenrheidiol yn ystod y flwyddyn, ac un cyflwyniad data blwyddyn lawn.
Byddai'r prif holiadur yn cael ei gynnal dros y ffôn gyda chyfwelydd, ac yna holiadur ar-lein byr, ar gyfer y sampl gyfan.
Ychwanegwyd llwybr cyfweld â chymorth at yr holiadur ar gyfer ymatebwyr na allant ateb cwestiynau'r holiadur dros y ffôn yn annibynnol ond y gallant wneud hynny gyda chymorth aelod o'r cartref, h.y. ymatebwyr byddar. Yn yr un modd, gall pobl na allant ateb ar-lein yn annibynnol gael cyfweliad â chymorth gyda chyfwelydd, dros y ffôn.
Methodoleg
Dilynodd y weithdrefn samplu ar gyfer yr arolwg peilot yr un dyluniad samplu tebygolrwydd ar hap â phrif arolwg 2021-22. Fodd bynnag, dim ond 7 o'r 22 o awdurdodau lleol a ddewiswyd, ond gwnaethom sicrhau bod yr ardaloedd hyn yn gynrychioliadol o ran daearyddiaeth ac o ran lefelau cyfradd ymateb.
Defnyddiwyd y dull pen-blwydd nesaf i ddewis un oedolyn ar hap o'r sampl o gyfeiriadau. Mae'r dull dethol hwn wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer yr Arolwg Cenedlaethol ers mis Ionawr 2021.
Os nad oedd modd cysylltu â chyfeiriad, byddai'r cyfwelwyr yn ‘Cnocio i Wthio’ yn y cyfeiriad er mwyn ceisio cael rhif ffôn.
Canfyddiadau
Arolwg dros y ffôn
Cynhaliwyd cyfanswm o 193 o gyfweliadau, a chynhaliwyd 11 cyfweliad drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roedd hyn yn cynrychioli cyfradd ymateb o 33.3% o gyfeiriadau cymwys; ni chafodd unrhyw achosion anghynhyrchiol eu hailgyflwyno. Roedd y gyfradd ymateb gyfartalog yn is na'r disgwyl, o gymharu â'r prif arolwg. Mae'r cyfraddau ymateb yn gyffredinol yn tueddu i fod ychydig yn is ym mis Ionawr. Fodd bynnag, roedd pump o'r saith ardal beilot – Ceredigion, Abertawe, Wrecsam, Gwynedd a Thorfaen – yn sylweddol is nag ym mhrif arolwg 2021-22. Roedd hyn yn bennaf o ganlyniad i gyfradd gysylltu is na'r arfer yn yr ardaloedd hyn (o gymharu â'r prif arolwg), yn ogystal â chyfraddau gwrthod uwch yn ardaloedd Torfaen, Gwynedd a Chonwy.
Disgwylir y bydd cyfradd ymateb uwch yn y prif arolwg, drwy sicrhau y gwneir nifer gofynnol o alwadau cyn codio cyfeiriad fel un dim cyswllt, a thrwy gwmpasu pob ardal yng Nghymru.
Hyd canolrifol y cyfweliad ar gyfer y rhan dros y ffôn oedd 29.9 munud a hyd cymedrig y cyfweliad oedd 30.8 munud (ac eithrio anghysondebau ac allanolynnau). Er bod hyn oddeutu pum munud yn hwy na'r targed o ran hyd y cyfweliad ar gyfer y prif arolwg gellir esbonio'r cynnydd gan y ffaith bod rhai is-samplau wedi'u cyfeirio'n bwrpasol at gyfran uwch o bobl yn yr arolwg peilot nag a fydd yn digwydd yn y prif arolwg. Gwnaed hyn er mwyn cael amseriadau mwy cywir ar gyfer modiwlau a chwestiynau perthnasol yr holiadur. Hefyd, wrth i'r cyfwelwyr ddod i'r arfer â modiwlau newydd yr holiadur, disgwylir y bydd hyd cyffredinol y cyfweliad yn lleihau ychydig yn ystod misoedd cyntaf blwyddyn yr arolwg.
Gwelwyd bod deunyddiau'r arolwg yn gweithio'n dda ar y cyfan, a dim ond ychydig o fân ddiwygiadau a nodwyd gan y cyfwelwyr i'w hystyried.
Nododd y cyfwelwyr fod yr holiadur yn gweithio'n dda ar y cyfan, ac ni chafwyd unrhyw broblemau mawr yn ystod y cyfnod maes. Fodd bynnag, nododd yr adborth rai adrannau y gellid eu symleiddio er mwyn gwella llif yr holiadur i'r ymatebydd. Yn eu plith roedd y canlynol: yr awgrym y byddai'r cwestiwn am eiddo yn well ar y dechrau wrth gadarnhau'r cyfeiriad; dylid cysylltu'r adrannau am waith a chymwysterau; a gellid newid y drefn gyfeirio fel nad yw'r cwestiwn am gar/fan yn cael ei ofyn ddwywaith.
Yr arolwg ar-lein
Cynhaliwyd cyfanswm o 166 o gyfweliadau ar-lein.
Hyd canolrifol y cyfweliad oedd 12.4 munud a hyd cymedrig y cyfweliad oedd 14.2 munud (ac eithrio anghysondebau ac allanolynnau).
Dangosodd y data fod 95 o'r ymatebwyr wedi cael eu taleb drwy'r post, a bod 71 o'r ymatebwyr wedi cael eu taleb drwy e-bost.
Mae'n werth nodi y caiff yr adran am y daleb ei newid yn y prif arolwg er mwyn gofyn am y wybodaeth ofynnol ar ddiwedd yr adran dros y ffôn yn hytrach nag ar-lein. Un o fuddion hyn yw y caiff pawb sydd â mynediad at y rhyngrwyd eu cyfeirio at yr e-daleb yn awtomatig.
Casgliadau ac argymhellion
Ystyriwyd rhai mân ddiweddariadau ar gyfer y deunyddiau, gan gynnwys y daflen am ddiben yr arolwg a'r cerdyn post.
Ar gyfer y prif arolwg, dylid ystyried addasu'r broses is-samplu ar gyfer rhai modiwlau er mwyn lleihau hyd y cyfweliad, ac ymdrin â'r materion a nodwyd o ran llif a geiriad rhai o'r modiwlau newydd yn yr holiadur.
Manylion cyswllt
Dani Evans a Elena Stylianopoulou: Swyddfa Ystadegau Gwladol
Mae’r adroddiad llawn ar gael ar gais.
Mae’r safbwyntiau a fynegwyd yn yr adroddiad hwn yn perthyn i’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd Llywodraeth Cymru
Chris McGowan
arolygon@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 69/2022
ISBN Digidol 978-1-80391-939-3