Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022: Memorandwm esboniadol - Nodiadau esboniadol
Memorandwm Esboniadol yn ymgorffori’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol a'r Nodiadau Esboniadol
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
1. Mae’r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022 (“y Ddeddf”) a basiwyd gan Senedd Cymru ar 12 Gorffennaf 2022 ac a gafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 08 Medi 2022. Fe’u lluniwyd gan Grŵp yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo’r sawl sy’n darllen y Ddeddf. Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â’r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.
Cefndir y ddeddf a chrynodeb ohoni
2. Mae Senedd Cymru (“y Senedd”) wedi pasio tair Deddf sy’n ymwneud â threthu; Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (‘DCRhT’), Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (‘DTTT’) a Deddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 (‘DTGT’). Cyfeirir at y tair Deddf hyn gyda’i gilydd fel ‘Deddfau Trethi Cymru’ yn y Ddeddf.
3. Mae’r Ddeddf yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud newidiadau, drwy reoliadau, i Ddeddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny, os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol neu’n briodol gwneud y newidiadau hynny at unrhyw un neu ragor o’r pedwar diben a bennir yn y Ddeddf.
4. Gellir gwneud y rheoliadau naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, neu mewn achosion brys yn unig, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (trafodir hyn ymhellach isod).
Sylwebaeth ar yr adrannau
Adran 1: Pŵer i ddiwygio Deddfau Trethi Cymru etc.
5. Mae adran 1(1) yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau sy’n addasu Deddfau Trethi Cymru a rheoliadau a wneir odanynt os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod yr addasiadau’n angenrheidiol neu’n briodol at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn neu mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor ohonynt—
6. Is-adran 1(1)(a) – sicrhau na osodir treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi pan fyddai gwneud hynny yn anghydnaws ag unrhyw rwymedigaethau rhyngwladol. Gellid defnyddio’r pŵer yn adran 1 at y diben hwn, er enghraifft, pan ymrwymir i gytundeb masnach neu gytundeb trethiant dwbl â gwlad arall a phan fo gosod treth gwarediadau tirlenwi neu dreth trafodiadau tir mewn achos penodol yn groes i’r cytundeb hwnnw.
7. Is-adran 1(1)(b) – diogelu rhag osgoi trethi mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir. Efallai y bydd Gweinidogion Cymru am gymryd camau o’r fath pan fônt o’r farn y bydd diwygio’r ddeddfwriaeth yn sicrhau nad oes unrhyw amheuaeth ynghylch y ffordd y bwriedir ei chymhwyso, yn ogystal ag mewn achosion pan fanteisir ar fwlch. Ni ddiffinnir osgoi trethi yn y Ddeddf ac felly mae’n cymryd ei ystyr naturiol.
8. Is-adran 1(1)(c) – ymateb i newidiadau a wneir i’r trethi rhagflaenol sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar y symiau a delir gan yr Ysgrifennydd Gwladol i mewn i Gronfa Gyfunol Cymru. Diffinnir y trethi rhagflaenol yn adran 1(4) fel treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.
9. Is-adran 1(1)(d) – ymateb i benderfyniad llys neu dribiwnlys sy’n effeithio, neu a allai effeithio, ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru neu reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. Ni fydd y penderfyniadau hyn o reidrwydd yn benderfyniadau ynghylch darpariaethau Deddfau Trethi Cymru eu hunain, neu eu rheoliadau cysylltiedig. Gall penderfyniadau sy’n effeithio ar y trethi rhagflaenol neu benderfyniadau ynghylch pwyntiau cyfreithiol cyffredinol hefyd effeithio ar weithrediad Deddfau Trethi Cymru a’u rheoliadau cysylltiedig.
10. Mae adran 1(2) yn nodi bod cyfyngiadau penodol ar y pŵer cyffredinol a ddarperir i Weinidogion Cymru gan adran 1. Nodir y cyfyngiadau hynny yn adrannau 2(4), (5) a (6) ac fe’u trafodir ymhellach isod.
11. Mae adrannau 1(3) ac 1(4) yn darparu cyfres o ddiffiniadau.
Adran 2: Rheoliadau o dan adran 1 - atodol
12. Mae adran 2(1) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 osod treth gwarediadau tirlenwi a threth trafodiadau tir a gosod neu estyn atebolrwydd i gosb.
13. Mae adran 2(2) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 gael effaith ôl-weithredol, cyn belled ag:
- nad yw’r rheoliadau yn gosod unrhyw gosb newydd neu’n estyn atebolrwydd i unrhyw gosb bresennol yn ôl-weithredol (adran 2(2)(a))
- nad yw rheoliadau sy’n creu neu’n cynyddu atebolrwydd i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi yn ôl-weithredol yn cael effaith o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd yn nodi eu bwriad i wneud rheoliadau o’r fath (adran 2(2)(b))
- nad yw rheoliadau sy’n lleihau neu’n tynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth gwarediadau tirlenwi yn ôl-weithredol yn cael effaith o ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad pan fydd Gweinidogion Cymru yn gwneud datganiad llafar neu ddatganiad ysgrifenedig i’r Senedd yn nodi eu bwriad i wneud rheoliadau o’r fath (adran 2(2)(c)).
14. Mae adran 2(3)(a) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol.
15. Mae adran 2(3)(b) yn caniatáu i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 wneud darpariaeth gysylltiedig, ganlyniadol, atodol etc.
16. Nid yw adrannau 2(1) i 2(3) yn rhestr gynhwysfawr o’r hyn y caniateir i reoliadau a wneir gan ddefnyddio’r pŵer yn adran 1 ei wneud.
17. Mae adran 2(4)(a) yn atal y pŵer yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu Rhan 2 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhan honno. Mae’r darpariaethau hynny’n ymwneud yn bennaf â chreu Awdurdod Cyllid Cymru a’i lywodraethiant.
18. Mae adran 2(4)(b) ac (c) yn atal y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 rhag cael ei ddefnyddio i addasu rheoliadau sy’n pennu cyfraddau a bandiau ar gyfer treth trafodiadau tir neu gyfraddau treth ar gyfer gwarediadau tirlenwi. Mae gan Weinidogion Cymru eisoes y pŵer i addasu’r cyfraddau a’r bandiau treth hynny drwy gyfrwng rheoliadau, sy’n ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.
19. Mae adran 2(5) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag gwneud darpariaeth sy’n ymwneud ag ymchwilio i droseddau.
20. Mae adran 2(6) yn gwahardd rheoliadau a wneir o dan adran 1 rhag newid unrhyw weithdrefn gan y Senedd ar gyfer gwneud offerynnau statudol o dan Ddeddfau Trethi Cymru. Er enghraifft, os bydd darpariaeth yn Neddfau Trethi Cymru yn darparu bod rhaid i offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaiff rheoliadau o dan adran 1 addasu’r ddarpariaeth honno fel bod rhaid i’r offeryn gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.
21. Mae adran 2(7) yn darparu nad yw’r pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 yn effeithio ar unrhyw bŵer arall sydd gan Weinidogion Cymru eisoes i wneud rheoliadau yn Neddfau Trethi Cymru. Yn yr un modd, nid yw gallu Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau gan ddefnyddio pwerau eraill yn Neddfau Trethi Cymru yn effeithio ar y pŵer yn adran 1.
Adran 3: Datganiad polisi: rheoliadau o dan adran 1 sy’n cael effaith ôl-weithredol
22. Mae adran 3(1) yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad ynghylch eu polisi mewn cysylltiad ag arfer y pŵer i wneud rheoliadau sy’n cael effaith ôl-weithredol.
23. Mae adran 3(2) yn darparu bod rhaid cyhoeddi’r datganiad cyn diwedd y cyfnod o dri mis sy’n dechrau â’r dyddiad y caiff y Ddeddf y Cydsyniad Brenhinol.
24. Mae adran 3(3) yn caniatáu i Weinidogion Cymru ddiwygio eu datganiad polisi. Os gwnânt hynny, rhaid iddynt gyhoeddi’r datganiad diwygiedig hwn.
Adran 4: Gweithdrefn ar gyfer rheoliadau o dan adran 1
25. Mae adran 4(1) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 1 yn arferadwy drwy offeryn statudol.
26. Mae adran 4(2) yn darparu y caniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 naill ai o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft neu, pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod angen eu gwneud ar frys, o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’.
27. O dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft, ni chaniateir gwneud offeryn statudol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi.
28. O dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, caniateir gwneud offeryn statudol a chaniateir iddo ddod i rym cyn iddo gael ei gymeradwyo gan y Senedd. Pan ddefnyddir y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’, mae adran 4(4) yn darparu bod rhaid gosod yr offeryn gerbron Senedd Cymru, ac mae adran 4(5) yn darparu bod rhaid i’r Senedd gymeradwyo’r rheoliadau o fewn cyfnod o 60 niwrnod ar y mwyaf (nid yw’r cyfnod o 60 niwrnod yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod) er mwyn i’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn barhau i gael effaith ar ôl i’r cyfnod hwnnw ddod i ben. Mae adran 4(6) yn darparu, pan fo’r Senedd yn pleidleisio ar gynnig i gymeradwyo’r offeryn cyn diwedd y cyfnod o 60 niwrnod ac na chaiff yr offeryn ei gymeradwyo, y bydd y rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd y diwrnod y cynhelir y bleidlais. Mae adran 4(7) yn darparu na chaniateir gwneud unrhyw gynnig yn y Senedd i gymeradwyo’r offeryn a wneir o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ (ac felly ni chaiff y Senedd ystyried yr offeryn na phleidleisio arno) hyd nes y bydd 28 o ddiwrnodau (nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau yn cynnwys unrhyw gyfnod pan fo Senedd Cymru wedi ei diddymu na phan fo ar doriad am fwy na 4 diwrnod) wedi mynd heibio o’r dyddiad (ac yn cynnwys y dyddiad) y gwneir yr offeryn.
Adran 5: Rheoliadau’n peidio â chael effaith - atodol
29. Mae adran 5 yn nodi’r hyn sy’n digwydd os yw offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan adran 1 yn cael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ‘gwnaed’ ond yn methu â chael cymeradwyaeth y Senedd (a’r rheoliadau sydd wedi eu cynnwys yn yr offeryn hwnnw felly’n peidio â chael effaith).
30. Mae adran 5(2) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd, neu atebolrwydd uwch, i dreth trafodiadau tir neu dreth gwarediadau tirlenwi na fyddai wedi codi oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.
31. Mae adran 5(3) yn darparu bod unrhyw dynnu yn ôl hawlogaeth i gredyd treth, neu leihau hawlogaeth o’r fath (mewn perthynas â threth gwarediadau tirlenwi) na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi digwydd.
32. Mae adran 5(4) yn darparu bod unrhyw atebolrwydd i gosb, neu gynyddu swm cosb, na fyddai wedi digwydd oni bai am y rheoliadau i’w drin fel pe na bai erioed wedi codi.
33. Mae adran 5(5) yn darparu nad yw’r ffaith bod y rheoliadau wedi peidio â chael effaith yn effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth a wnaed o dan y rheoliadau neu drwy ddibynnu arnynt. Bydd hyn yn sicrhau bod camau a gymerwyd gan y trethdalwr yn unol â’r rheoliadau yn ystod y cyfnod roeddent yn cael effaith yn parhau’n ddilys, ac yn yr un modd bydd yn diogelu camau a gymerwyd gan Awdurdod Cyllid Cymru.
Adran 6: Adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf hon
34. Mae adran 6 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i adolygu gweithrediad ac effaith y Ddeddf a chyhoeddi casgliadau’r adolygiad hwnnw o fewn 4 blynedd i’r dyddiad y daw’r Ddeddf i rym. Rhaid i’r adolygiad hwnnw gynnwys asesiad o unrhyw fecanweithiau deddfwriaethol amgen ar gyfer gwneud newidiadau i Ddeddfau Trethi Cymru ac i reoliadau a wneir o dan y Deddfau hynny. At hynny, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r Senedd ac unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol wrth gynnal yr adolygiad.
Adran 7: Y pŵer o dan adran 1 yn dod i ben
35. Mae adran 7(1) yn darparu bod y pŵer i wneud rheoliadau yn adran 1 yn dod i ben bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daw’r Ddeddf i rym, oni bai bod rheoliadau o dan adran 7(2) yn darparu bod y pŵer i barhau mewn grym am gyfnod pellach. Fodd bynnag, rhaid i’r cyfnod pellach hwnnw ddod i ben ar 30 Ebrill 2031 neu cyn hynny.
36. Dim ond unwaith y caniateir arfer y pŵer yn adran 7(2) (adran 7(3)).
37. Rhaid i offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y pŵer yn adran 7(2) gael ei wneud o dan y weithdrefn gadarnhaol ddrafft (adran 7(4)).
38. Mae adran 7(5) yn darparu na chaniateir gosod rheoliadau a wneir o dan adran 7(2) gerbron y Senedd cyn i gasgliadau’r adolygiad sy’n ofynnol gan adran 6 gael eu cyhoeddi. Mae hefyd yn darparu na chaiff y Senedd gymeradwyo’r rheoliadau ar ôl i’r cyfnod cychwynnol o bum mlynedd ddod i ben.
39. Mae adran 7(6) yn darparu bod rheoliadau a wneir o dan adran 1, cyn i’r pŵer hwnnw ddod i ben, yn parhau mewn grym ar ôl iddo ddod i ben.
Adran 10: Enw byr
40. Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022.
Cofnod y trafodion yn Senedd Cymru
41. Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o hynt y Ddeddf drwy’r Senedd. Gellir cael Cofnod y Trafodion a rhagor o wybodaeth am hynt y Ddeddf hon ar wefan y Senedd yn:
Bil Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) (senedd.cymru)
Cyfnod | Dyddiad |
---|---|
Cyflwynwyd | 13 Rhagfyr 2021 |
Cyfnod 1 – Dadl | 26 Ebrill 2022 |
Cyfnod 2 Pwyllgor Craffu – ystyried y gwelliannau | 09 Mehefin 2022 |
Cyfnod 3 Cyfarfod Llawn – ystyried y gwelliannau | 05 Gorffennaf 2022 |
Cam 4 Cymeradwywyd gan y Senedd | 12 Gorffennaf 2022 |
Y Cydsyniad Brenhinol | 08 Medi 2022 |
Mynegai o ofynion y Rheolau Sefydlog
Mae’n ofynnol cynnwys y tabl isod pan fydd y Memorandwm Esboniadol yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r Bil wrth ei gyflwyno, i ddangos sut mae gofynion y Rheolau Sefydlog wedi'u cyflawni yn y Bil. Er nad yw'r Rheolau Sefydlog hyn bellach yn gymwys i'r fersiwn derfynol hon sy'n cyd-fynd â'r Ddeddf, mae'r adran hon wedi'i chynnwys at ddibenion cyfeirio ac i ddangos y rhesymeg dros brif adrannau'r Memorandwm Esboniadol.
Rheol sefydlog | Adran | Tudalennau | |
---|---|---|---|
26.6(i) | Datgan y byddai darpariaethau’r Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. | Datganiad yr Aelod | |
26.6(ii) | Nodi amcanion polisi y Bil. | Pennod 3 – Diben y ddeddfwriaeth a’r effaith y bwriedir iddi ei chael | Tud 4 para 3.1 |
26.6(iii) | Nodi a gafodd ffyrdd eraill o wireddu’r amcanion polisi eu hystyried ac, os felly, pam y cafodd yr ymagwedd a gymerir yn y Bil ei mabwysiadu. | Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol | Tud 29 para 7.1 |
26.6(iv) |
Nodi’r ymgynghori a gafwyd, os cafwyd unrhyw ymgynghori o gwbl, ar y canlynol:
|
Pennod 4 – Ymgynghori | Tud 18 para 4.1 |
26.6(v) | Nodi crynodeb o ddeilliant yr ymgynghori hwnnw, gan gynnwys sut a pham y mae unrhyw Fil drafft wedi cael ei ddiwygio. | Pennod 4 – Ymgynghori | Tud 18/19 para 4.3-4.13 |
26.6(vi) | Os na chyhoeddwyd y Bil, neu ran o'r Bil, yn flaenorol fel drafft, datgan y rhesymau dros y penderfyniad hwnnw. | Pennod 4 – Ymgynghori | Tud 19 para 4.14 |
26.6(vii) | Crynhoi yn wrthrychol yr hyn y bwriedir i bob un o ddarpariaethau’r Bil ei wneud (i’r graddau y mae angen esbonio hynny neu y mae angen cyflwyno sylwadau ar hynny) a rhoi’r wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i esbonio effaith y Bil. | Atodiad 1 – Nodiadau Esboniadol | Tud 49 |
26.6(viii) |
Nodi’r amcangyfrifon gorau o’r canlynol:
|
Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol | Tud 25 |
26.6(ix) | Nodi unrhyw fanteision ac anfanteision amgylcheddol a chymdeithasol sy'n deillio o'r Bil na ellir eu mesur yn ariannol. | Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol | Tud 33-35- |
26.6(x) |
Os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n rhoi pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, nodi mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath:
|
Pennod 5 – Pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth | Tud 21 para 5.1 |
26.6(xi) | Os yw’r Bil yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth sy’n codi gwariant ar Gronfa Gyfunol Cymru, ymgorffori adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol sy’n nodi ei farn ef neu hi ar a yw’r tâl yn briodol neu beidio. | Nid yw’r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6(xi) yn gymwys i’r Bil hwn | |
26.6(xii) | Nodi'r effaith bosibl (os o gwbl) ar y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr yn sgil darpariaethau'r Bil ("asesiad effaith ar gyfiawnder"), yn unol ag adran 110A o'r Ddeddf. | Rhan 2 – Asesiad Effaith Rheoleiddiol | Tud 47 para 10.16 |
26.6B | Pan fo darpariaethau'r Bil yn deillio o ddeddfwriaeth sylfaenol bresennol, boed at ddibenion diwygio neu gydgrynhoi, rhaid darparu tabl tarddiadau i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol er mwyn esbonio'n glir beth yw'r berthynas rhwng y Bil a'r fframwaith cyfreithiol presennol. | Nid yw'r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6B ar gyfer Tabl Deilliadau yn gymwys i'r Bil hwn gan fod y Bil yn ddarn annibynnol o ddeddfwriaeth. | |
26.6C | Pan fo'r Bil yn cynnig diwygio deddfwriaeth sylfaenol bresennol yn sylweddol, rhaid darparu atodlen i gyd-fynd â'r Memorandwm Esboniadol, yn nodi geiriad y ddeddfwriaeth bresennol sy’n cael ei diwygio gan y Bil, ac yn nodi’n eglur sut y caiff y geiriad hwnnw ei ddiwygio gan y Bil. | Nid yw’r gofyniad yn Rheol Sefydlog 26.6C yn gymwys i'r Bil hwn |