Gyrfaoedd Digidol, Data a Thechnoleg
Gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn symlach, yn gliriach ac yn haws eu defnyddio
Rydyn ni’n chwilio am unigolion ag amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau i’n helpu i ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell sy’n seiliedig ar anghenion y bobl sy’n eu defnyddio nhw.
Mae gweithio yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg yn golygu’r canlynol:
- gweithio mewn modd hyblyg a chreadigol fel rhan o dîm amlddisgyblaethol
- defnyddio technoleg a meddalwedd fodern i weithio ar y cyd
- dadansoddi data a syniadau defnyddwyr er mwyn datrys problemau cymhleth
- rhannu’r arferion gorau â’n cymunedau trawslywodraethol
- gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl yng Nghymru
- diogelu eich gyrfa ar gyfer y dyfodol drwy ddatblygu sgiliau newydd a chael profiadau newydd
Mae ein proffesiwn Digidol, Data a Thechnoleg yn cynnwys amrywiaeth o rolau cyffrous, gan gynnwys y canlynol:
- Dadansoddwyr Busnes
- Saernïwyr Technoleg
- Gwyddonwyr Data
- Ymchwilwyr Defnyddwyr
- Dylunwyr Cynnwys
- Rheolwyr Cynnyrch
- Datblygwyr Meddalwedd
- Arbenigwyr TG
- Dylunwyr Profiad Defnyddwyr
Buddion
31 ddiwrnod o wyliau blynyddol
Ynghyd ag wyth gŵyl gyhoeddus a dau ddiwrnod braint.
Gweithio’n hyblyg
Ein galluogi i gydweithio i gyflawni ein blaenoriaethau wrth reoli ymrwymiadau yn ein bywydau cartref.
Dysgu a datblygu
Mynediad i hyfforddiant a chyfleoedd datblygu sydd wedi’u teilwra i’ch rôl.
Cyflog cystadleuol
Strwythur cyflogau a gwobrau hael ar draws pob gradd.
Pensiwn y Gwasanaeth Sifil
Gyda chyfraniad cyflogwr o 27% ar gyfartaledd.
Cyllid cefnogol
Ar gyfer tocynnau teithio tymhorol, y cynlluniau Beicio i’r Gwaith a Char Gwyrdd a llawer mwy.
Absenoldeb rhiant
26 wythnos ar gyflog llawn ar gyfer cyfnod mamolaeth ac absenoldeb mabwysiadu, a thair wythnos ar gyflog llawn ar gyfer cyfnod tadolaeth – er mwyn eich cefnogi chi a’ch teulu.
Eich helpu y tu allan i’r gwaith
Hyd at bum diwrnod o absenoldeb â thâl ar gyfer gwirfoddoli, absenoldeb arbennig i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus neu i ddelio â materion domestig.
Partneriaeth ag undebau llafur
Er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal y cydbwysedd cywir rhwng ein buddiannau a buddiannau ein gweithwyr.
Dod o hyd i swydd wag yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg
Rydyn ni’n chwilio am bobl uchelgeisiol â thalent a sgiliau i ymuno â’n proffesiynau yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg.
Amdanom ni
Ni yw’r llywodraeth ddatganoledig ar gyfer Cymru, gyda chyfrifoldeb dros amrywiaeth eang o feysydd polisi fel iechyd, addysg, trafnidiaeth a’r amgylchedd.
Ymhlith ein gweithlu amrywiol o dros 5,000 o bobl mae’r cymysgedd o safbwyntiau, syniadau a phrofiadau gwahanol yn helpu i sicrhau bod ein polisïau’n adlewyrchu anghenion y cymunedau rydyn ni’n eu gwasanaethu.
Rydyn ni’n gweithio er mwyn helpu i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell, mwy diogel a gwyrddach i fyw a gweithio ynddi.
Mae parhau i ddatblygu ein galluedd yn y Gyfarwyddiaeth Ddigidol, Data a Thechnoleg yn golygu ein bod yn gallu cefnogi Gweinidogion Cymru yn effeithiol drwy gam nesaf y daith ddatganoli a chyflawni ein hymrwymiadau i bobl Cymru.