Mark Drakeford AS, Prif Weinidog
Rwy’n falch i gyhoeddi fy mhenderfyniad i benodi Efa Gruffudd Jones fel Comisiynydd y Gymraeg am gyfnod o 7 mlynedd rhwng 9 Ionawr 2023 a 8 Ionawr 2030.
Fe wnaeth Efa ymddangos gerbron Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol y Senedd fel ymgeisydd a ffafrir ar gyfer y swydd ar 13 Hydref. Roeddwn wedi fy argyhoeddi gan adroddiad y Pwyllgor yn dilyn y gwrandawiad oedd yn seiliedig ar ei hatebion ysgrifenedig i holiadur y Pwyllgor a’i hymatebion yn ystod y gwrandawiad. Ar sail hyn roedd y Pwyllgor yn eu hadroddiad yn datgan eu bod yn fodlon i gymeradwyo Efa ar gyfer rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Ar ôl ystyried argymhellion y panel dethol, a barn Pwyllgor y Senedd rwy’n ffyddiog bod gan Efa y sgiliau, y profiadau, a’r hygrededd i fod yn Gomisiynydd y Gymraeg.
Mae’r Gymraeg wedi bod yn ganolog i yrfa Efa fel Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers 2016, a chyn hynny, bu’n Brif Weithredwr yr Urdd am 11 mlynedd. Bydd hi’n dod i’r swydd felly gyda blynyddoedd o brofiad o weithio er budd y Gymraeg ac o weithio gyda siaradwyr Cymraeg a dysgwyr led led Cymru.
Wrth longyfarch Efa heddiw ar ei phenodiad, rydym wrth gwrs yn cofio am gyfraniad gwerthfawr y diweddar Aled Roberts ac yn cofio am ei gyfraniad amhrisiadwy.