Am Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid
Mae'r Bwrdd Gweithredu Strategaeth Gwaith Ieuenctid ('Bwrdd gweithredu') yn rhoi cyngor i Lywodraeth Cymru ar sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Sefydlwyd y Bwrdd Gweithredu i adeiladu ar waith y Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro a gyhoeddodd ei adroddiad terfynol 'Amser i ddarparu ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru: Sicrhau model cyflawni cynaliadwy ar gyfer gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru', ar 16 Medi 2021. Mae'r adroddiad yn cynnwys 14 o argymhellion i Lywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau gwaith ieuenctid yng Nghymru.
Bydd disgwyl i'r Bwrdd Gweithredu weithio gyda phobl ifanc, y sector gwaith ieuenctid a Llywodraeth Cymru i archwilio'r argymhellion ymhellach, a nodi camau gweithredu ac adnoddau priodol ar gyfer cyflawni. Bydd y Bwrdd yn rhedeg am ddwy flynedd yn y lle cyntaf.