Angelina Mitchell
Enillydd
Dywed Angelina Mitchell sy’n swyddog sicrhau ansawdd mewnol digidol, mai ei nod yw agor y drws i ddysgwyr feithrin y sgiliau i ddefnyddio technoleg yn hyderus.
Gweithio i'r darparwr hyfforddiant ACT yng Nghaerdydd mae Angelina, 28, a bu'n arloesi gyda'r gwaith o gyflwyno’r Fframwaith Prentisiaethau Dylunio Dysgu Digidol yng Nghymru.
Un o’r Iseldiroedd yw Angelina yn wreiddiol a bu’n dysgu ieithoedd tramor modern i ddisgyblion ysgol uwchradd. Ymunodd ag ACT gan ei bod yn chwilio am her newydd yn ei gyrfa a’i bod yn awyddus i helpu eraill i ddefnyddio’r dechnoleg ddigidol.
Er mwyn deall taith ei dysgwyr yn iawn, mae hithau wedi dilyn y prentisiaethau ac mae’n eu cyflenwi’n ddwyieithog ar ôl ennill Gwobr Dysgwr y Flwyddyn 'Cymraeg Gwaith' (canolradd).
Mae naw deg y cant o ddysgwyr Angelina’n cwblhau eu cymhwyster ac mae'n cael sgôr ymgysylltu â chyflogwyr o 88%.