Celsa Steel UK
Rownd derfynol
Mae annog gweithwyr profiadol i ‘dalu ’nôl’ trwy helpu’r genhedlaeth newydd wedi dod yn ffordd allweddol o ddatblygu gweithlu ffyddlon a medrus yn Celsa Steel UK, Caerdydd.
Sefydlodd y cwmni ei raglen brentisiaethau yn 2005 am fod y gweithlu'n heneiddio ac nad oedd eu gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n effeithiol i’r genhedlaeth ifanc.
Erbyn hyn, mae cynllun 10 mlynedd yn pontio bwlch o 50 mlynedd rhwng pobl sydd ar fin ymddeol a gweithwyr newydd. Defnyddir strategaeth cynaliadwyedd busnes i drosglwyddo gwybodaeth yn gynharach o lawer yng ngyrfa peiriannydd gan olygu bod pobl yn aros yn hirach gyda’r cwmni.
Mae TSW Training yn gweithio gyda Celsa Steel i gyflenwi prentisiaethau mewn Marchnata, Gweinyddu Busnes, Peirianneg a Chynhyrchu. Ymhlith y prentisiaethau eraill mae AAT, Rheoli Cadwyni Cyflenwi, Logisteg, Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth, a Chrefftau Mecanyddol neu Drydanol.