Albert Brennan
Rownd derfynol
Mae gyrfa Albert Brennan fel peiriannydd diriant gydag Airbus ym Mrychdyn wedi codi'n uchel diolch i'r sgiliau a'r wybodaeth a gafodd wrth wneud Prentisiaeth Radd.
Mae Albert, 29, o Gefn-y-bedd, Wrecsam, yn gweithio yng nghanolfan ragoriaeth fyd-eang y cwmni, lle cynhyrchir adenydd ar gyfer awyrennau Airbus.
Cwblhaodd Brentisiaeth Radd (Lefel 6) mewn Peirianneg Awyrenneg trwy Brifysgol Abertawe, gan ennill Gradd Baglor mewn Peirianneg Awyrenneg a Gweithgynhyrchu, ac NVQ Lefel 4 mewn Gweithgynhyrchu Peirianyddol.
Erbyn hyn, mae Albert yn gwneud Gradd Meistr mewn Peirianneg Strwythurau Ysgafn ac Ardrawiad, ar ôl cael cynnig ysgoloriaeth lawn gan y National Structural Integrity Research Centre (NSIRC).
Ac yntau’n Beiriannydd Corfforedig ac yn Aelod Cyswllt o’r Gymdeithas Awyrenegol Frenhinol, enillodd Wobr y Myfyriwr Gorau gan Brifysgol Abertawe.