Dion Evans
Rownd derfynol
Mae asiedydd dawnus o Geredigion, Dion Evans, yn mwynhau blwyddyn gofiadwy wrth iddo edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn rownd derfynol genedlaethol cystadleuaeth WorldSkills UK ym mis Tachwedd.
Enillodd Dion, 19, sy’n gweithio i Alwyn Evans Cyf ym mhentref Talgarreg, Llandysul, fedal aur i gymhwyso ar gyfer rownd derfynol y gystadleuaeth i asiedyddion yng Nghaeredin, ar ôl ennill medal efydd y llynedd.
Mae Dion, sydd wedi cwblhau Prentisiaeth City & Guilds mewn Gwaith Asiedydd o Goleg Ceredigion a Choleg Sir Gâr, yn gwneud cyfraniad sylweddol at gwmni ei gyflogwr. Mae llwyth gwaith ac elw’r busnes wedi codi 20 y cant gan fod Alwyn wedi’i rhyddhau i gymryd mwy o waith, sy’n cynnwys gwneud grisiau a chabinetau wedi'u cynllunio'n bwrpasol.