James Matthewman
Rownd derfynol
Mae James Matthewman wedi gwneud strocen feistrolgar wrth ddewis gwneud prentisiaeth yng Nghlwb Golff Maesteg.
Ar ôl cwblhau Prentisiaeth mewn Rheoli Tir Chwaraeon a Garddwriaeth, a ddarparwyd gan Goleg Pen-y-bont, mae wedi’i ddyrchafu’n ddirprwy brif ofalwr y maes.
Yn ogystal, enillodd ysgoloriaeth gan y British and International Golf and Greenkeepers Association (BIGGA) – un o ddim ond pump yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon – i gydnabod ei ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Erbyn hyn, mae James, 36, o Faesteg, yn gweithio tuag at Brentisiaeth mewn Arwain a Rheoli gyda’r Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI) ac yn gwella ei Gymraeg. Cafodd ei enwi’n Ddysgwr y Flwyddyn Dysgu Seiliedig ar Waith gan Goleg Pen-y-bont am gymwysterau cysylltiedig â'i brentisiaeth mewn Saesneg a Mathemateg.