Neidio i'r prif gynnwy

Datganiadau buddiant aelodau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Frances Duffy (Cadeirydd)

Mae Frances yn Gyfarwyddwr Frances Duffy Consulting Ltd, sy'n darparu sicrwydd a chyngor am brosiectau i'r sector cyhoeddus ledled Cymru a gweddill y DU.

Saz Willey (Is-gadeirydd)

Saz yw Cadeirydd Gofal a Thrwsio Cymru. Mae'n aelod o Sefydliad Siartredig y Gweithredwyr Cyfreithiol, Cymdeithas y Cadeiryddion, Women on Board a Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru ac yn gwirfoddoli mewn pantri bwyd lleol.

Beverley Smith

Cafodd Bev ei geni a'i magu yng Nghwm Rhondda ac mae'n was cyhoeddus profiadol ers 32 o flynyddoedd. Gan arbenigo mewn adfywio economaidd a chynllunio at argyfyngau mae ei gyrfa wedi cynnwys cyfnodau yn gweithio mewn amryw o Gynghorau Dosbarth a Bwrdeistref yn Lloegr. Mae ei rolau diweddaraf wedi cynnwys:

  • Rolau ar lefel Prif Weithredwr ym Mansfield, Swydd Nottingham a Gogledd-orllewin Swydd Gaerlŷr yn sbarduno twf economaidd a chefnogi democratiaeth leol fel swyddog canlyniadau etholiadol a swyddog canlyniadau rhanbarthol Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Cadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, prif gynghorau a chynghorau cymuned i osod ffiniau etholiadol a chyfrannu at ddemocratiaeth leol effeithiol ac effeithlon
  • Cyfarwyddwr Anweithredol yr Awdurdod Glo ym mis Ebrill 2023

Yn fwy diweddar cafodd ei phenodi yn Ddyfarnwr Annibynnol i lywodraeth leol yng Nghymru o 1 Mai 2024.

Mae hi'n credu'n gryf yng nghryfder gweithio mewn partneriaeth a'r rôl sydd gan y Panel wrth gefnogi democratiaeth amrywiol yng Nghymru ac mae'n brif adolygydd rhaglen adolygu cyrff cyhoeddus Llywodraeth y DU.

Mae Bev yn gyfarwyddwr Bev Smith Consultancy Ltd (cwmni segur).

Dianne Bevan (Aelod)

Mae Dianne yn Ymddiriedolwr Cymdeithas Hansard, Llundain (elusen sy'n hyrwyddo democratiaeth seneddol), yn Gydymaith â Global Partners Governance, Llundain (sefydliad sy'n gweithio gyda democratiaethau sy'n datblygu) ac yn Gomisiynydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.

Katherine Watkins

Dim datganiadau.