Cylch gorchwyl
Mae’n esbonio beth fydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn ei drafod.
Cynnwys
Cefndir
Priod waith y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yw gwneud argymhellion er mwyn cryfhau polisi cyhoeddus o ran cynaliadwyedd ieithyddol mewn cymunedau Cymraeg a defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol/gymdeithasol mewn meysydd gwahanol.
Mae’r Gymraeg yn iaith i Gymru gyfan, ac yn wir yn cael ei siarad y tu allan i Gymru hefyd, a bydd gwaith y Comisiwn yn digwydd yng nghyd-destun cynaliadwyedd y Gymraeg lle bynnag y caiff ei siarad.
Fodd bynnag, cred Llywodraeth Cymru fod parhad y Gymraeg fel iaith gymunedol mewn cymdogaethau lle mae’n iaith mwyafrif y boblogaeth, neu lle mae hyn wedi bod yn wir tan yn gymharol ddiweddar, yn bwysig i’r strategaeth genedlaethol o gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn ogystal â chyrraedd targed o filiwn o siaradwyr erbyn 2050. Bydd cyrraedd y miliwn yn llawer mwy anodd os oes dirywiad ieithyddol sylweddol yng nghadarnleoedd y Gymraeg.
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i sefydlu Comisiwn Cymunedau Cymraeg i’w deall felly yng nghyd-destun ei strategaeth genedlaethol o hybu’r Gymraeg.
Ni fydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn mynd ati i sefydlu Gaeltacht ar gyfer y Gymraeg – hynny yw, ni fydd yn rhannu’r wlad yn ddau barth ieithyddol. Yn hytrach, bydd yn pwysleisio fod y Gymraeg yn iaith i Gymru gyfan, ond gall fod angen mabwysiadu dulliau gwahanol o’i hybu mewn gwahanol rannau o Gymru er mwyn cyrraedd y nod yn y dull mwyaf effeithiol.
Er enghraifft, gall fod angen trafod pwysigrwydd y diwydiant amaethyddiaeth o ran dyfodol y Gymraeg mewn rhai ardaloedd, ond ni fydd hyn yn wir efallai am bob rhan o Gymru. Yn yr un modd, mae’r sefyllfa o ran tai, ail gartrefi, cyflogaeth, sylfaen yr economi, ac addysg, a’u perthynas â’r Gymraeg, yn amrywio mewn gwahanol rannau o Gymru.
Mae’r angen i ystyried effaith newidiadau cymdeithasol a sosio-economaidd ar y Gymraeg wedi cynyddu yn bennaf oherwydd effaith y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a Covid-19. O ganlyniad i hyn hefyd, mae Llywodraeth Cymru am weithredu er mwyn sicrhau cynaliadwyedd ieithyddol mewn cymunedau a ystyrir yn draddodiadol fel cadarnleoedd i’r iaith.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd am gysylltu polisi cyhoeddus ym maes ail gartrefi a thai, er enghraifft yn ei bolisi ‘Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg’, ag ystyriaethau ac amcanion sosio-economaidd a chymdeithasol eraill o fewn y cymunedau hyn.
Cylch gorchwyl
Oherwydd yr argyfwng cymdeithasol a sosio-economaidd sydd wedi codi mewn cymunedau Cymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn dymuno fod gwaith y Comisiwn yn canolbwyntio ar sefydlogi a hyrwyddo’r iaith mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad y Llywodraeth mewn meysydd fel ail gartrefi, tai, a’r sylfaen economaidd drwy waith y Bwrdd Crwn Tai, Economi ac Iaith ynghyd â rhaglen waith Arfor 2.
Gall y Comisiwn bennu rhai amcanion o’i eiddo ei hun sy’n fuddiol yn ei farn ef i ddyfodol y Gymraeg fel iaith gymunedol, ond mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i’r Comisiwn drafod yr amcanion canlynol fel rhan o’i gylch gorchwyl:
- cynnig dadansoddiad o ganlyniadau cyfrifiad 2021 wedi iddynt gael eu cyhoeddi, yn ogystal â chraffu ar ffynonellau perthnasol eraill, er mwyn archwilio i sefyllfa gyfredol y Gymraeg
- adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol lle y gall fod angen ymyrraeth bolisi er mwyn cefnogi a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol
- adnabod ymyraethau polisi posib er mwyn cynnal a chryfhau’r Gymraeg fel iaith gymunedol yn enwedig mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol a gwneud argymhellion polisi yn eu cylch
- bydd ymyraethau posib o’r fath yn perthyn i ddau ddosbarth:
- ymyraethau uniongyrchol o ran polisi iaith
- ymyraethau sy’n ymateb i gyd-destunau sosio-economaidd, cymdeithasol ac addysgol ehangach (neu unrhyw fater perthnasol arall) sydd yn effeithio ar gynaliadwyedd y Gymraeg fel iaith gymunedol
- bydd y Comisiwn yn gwneud hynny mewn dwy ffordd:
- Gall cynnig cyngor mewn perthynas â pholisi cyhoeddus sy’n cael ei ddatblygu. Yn y tymor byr, mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i glywed barn y Comisiwn o ran datblygiad y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg, ac hefyd yng nghyd-destun datblygu papur gwyn ar y Bil Addysg Gymraeg i sicrhau bod y system gynllunio addysg yn ystyried y cyd-destun cynllunio ieithyddol ehangach. Gallai fod meysydd eraill hefyd lle byddai hyn yn fuddiol; er enghraifft TAN 20.
- Gwneud argymhellion polisi cyhoeddus o ran cryfhau’r Gymraeg yn gymunedol yn fwy cyffredinol, yn enwedig mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol. Dylai hyn fod ar ffurf adroddiad. Mae Llywodraeth Cymru yn dymuno derbyn yr adroddiad hwn cyn pen dwy flynedd ers dyddiad sefydlu’r Comisiwn.
Mae Cymraeg 2050 hefyd yn arddel yr iaith fel iaith genedlaethol i Gymru gyfan. Am y rheswm hwn, byddwn yn gosod ail gam i waith y Comisiwn yn dilyn cyflwyno argymhellion i’r Llywodraeth am sefyllfa’r Gymraeg fel iaith gymunedol mewn ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol. Bydd yr ail gam yn ffocysu ar ddefnydd iaith mewn ardaloedd eraill o Gymru.