Rhaid i chi ddiweddaru eich cyfrif Cynnig Gofal Plant yng Nghymru os bydd eich amgylchiadau'n newid.
Rhaid i chi ddweud wrthym ar unwaith am unrhyw beth a allai effeithio ar eich cymhwysedd, er enghraifft:
- eich swydd neu'r oriau rydych chi’n eu gweithio fel arfer yn newid
- mae eich incwm gros yn uwch na'r disgwyl a gall fod yn fwy na £100,000 y flwyddyn
- eich bod yn cael eich diswyddo
- rydych wedi stopio astudio
Incwm gros yw cyfanswm yr incwm cyn unrhyw ddidyniadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:
- cyfraniadau pensiwn
- yswiriant iechyd
- cynlluniau aberthu cyflog
- bonysau neu difidendau blynyddol
Dywedwch wrthym am unrhyw newidiadau drwy ddiweddaru eich manylion yn eich cyfrif.
Pob tymor, byddwch hefyd yn cael e-bost a rhybudd yn eich cyfrif yn rhoi cyfarwyddyd i chi wirio a chadarnhau eich amgylchiadau. Efallai y bydd eich cyllid yn cael ei atal os na fyddwch yn gwneud hyn.
Os ydych yn dod yn anghymwys pan ydych yn cael y Cynnig Gofal Plant, rydych yn mynd i gyfnod eithrio dros dro am hyd at 8 wythnos.
Os yw eich amgylchiadau'n newid ar ôl gwneud cais a chyn i'ch cais gael ei gymeradwyo, cysylltwch â ni.