Neidio i'r prif gynnwy

Rhagor o wybodaeth am y gwaith sydd yn edrych ar newidiadau i’r flwyddyn ysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Hyd yn hyn

Rhwng 21 Tachwedd 2023 a 12 Chwefror 2024, cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar strwythur y flwyddyn ysgol o ran ysgolion a gynhelir yng Nghymru. Gofynnwyd pa opsiynau fyddai'n gweithio orau i ddysgwyr, staff ysgolion a rhieni. 

Dalier sylw: ysgolion a gynhelir yw'r ysgolion hynny a ariennir yn bennaf gan Awdurdod Lleol. Mae hyn yn cynnwys ysgolion meithrin, cynradd, canol ac uwchradd a gynhelir, ac unedau cyfeirio disgyblion a gynhelir.

Cyhoeddwyd adroddiad Crynodeb o'r Canfyddiadau (gweler y ddolen isod) ar 21 Mai 2024. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio datblygu model blwyddyn ysgol sy'n cynnig: seibiant o 5 wythnos yn yr haf; pythefnos o wyliau yn yr Hydref a'r hyblygrwydd i ddatgysylltu'r toriad ar ddiwedd tymor y Pasg oddi wrth Ŵyl y Pasg ei hun. Nid yw'r amserlen ar gyfer rhoi hyn ar waith wedi'i phennu ond bydd yn cael ei hystyried mewn trafodaeth â phartneriaid a rhanddeiliaid. 

Gwahanol ddyddiadau’r tymhorau ledled y DU

Er bod tebygrwydd yng nghalendrau ysgolion Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, nid ydynt yr un fath. Dylid nodi hefyd bod yr Alban yn gweithredu strwythur hollol wahanol ar gyfer ei thymhorau ysgol. Bydd unrhyw newidiadau i'r flwyddyn ysgol yn gymwys i Gymru yn unig.

Dogfennaeth

Archwilio Diwygio'r Flwyddyn Ysgol

Datganiad Llafar Gweinidogol

Archwilio Diwygio'r Flwyddyn Ysgol: dogfennau ymgynghori

Adroddiad crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad ac Dogfennau ymgynghori.

Manylion Cyswllt

Cysylltu â ni

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.