Mae'n pennu'r cyfeiriad strategol, lefel uchel ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y DU yn ystod y blynyddoedd nesaf.
Cynnwys
Y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd
Cafodd y Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd (JFS) ei gyhoeddi ar 23 Tachwedd 2022, ac mae'n ofynnol o dan Adran 2 o Ddeddf Pysgodfeydd 2020 ('y Ddeddf).
Mae'r JFS yn elfen allweddol o Fframwaith Pysgodfeydd y DU, ac mae'n pennu'r cyfeiriad strategol, lefel uchel ar gyfer rheoli pysgodfeydd.
Mae'r datganiad yn amlinellu'r polisïau ar gyfer cyflawni, neu helpu i gyflawni, yr wyth amcan ar gyfer pysgodfeydd yn y Ddeddf. Bydd angen i'n gwaith datblygu polisïau yn y dyfodol adlewyrchu'r polisïau yn y JFS a'r amcanon ar gyfer pysgodfeydd.
Mae hefyd yn amlinellu rhestr o Gynlluniau Rheoli Pysgodfeydd, i'w cyflawni yn ystod oes y datganiad cyntaf. Bydd y cynlluniau hyn yn allweddol wrth sicrhau pysgodfeydd cynaliadwy sy'n cael eu rheoli'n dda, gan helpu i gyflawni ymrwymiadau polisi'r JFS. Mae rhai Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd yn cael eu cyflawni ar y cyd â gweinyddiaethau eraill. Mae'r rhain yn adlewyrchu ehangder daearyddol stociau pysgod penodol. Mae eraill yn gynlluniau rhanbarthol i Gymru sy'n adlewyrchu ac yn ategu ein hamcanion polisi a'n huchelgeisiau ein hunain.
Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd
Mae’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin a’r Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid y Môr yn gynlluniau ar y cyd rhwng Cymru a Lloegr a nhw yw’r cyntaf i gael eu cyflwyno. Cyhoeddwyd y cynlluniau hyn ar 14 Rhagfyr 2023.
Cyhoeddwyd asesiad amgylcheddol ac adroddiad tystiolaeth i’r cynlluniau rheoli pysgodfeydd (FMPs) ar 8 Chwefror 2024.
Mae’r Cyd-ddatganiad ar Bysgodfeydd a rhestr o gynlluniau rheoli pysgodfeydd ar gael yma (ar gov.uk).
Mae Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Cregyn y Brenin ar gael yma nawr (ar gov.uk).
Mae Cynllun Rheoli Pysgodfeydd Draenogiaid y Môr ar gael yma nawr (ar gov.uk).
Mae asesiad amgylcheddol a thystiolaeth: FMP draenogiaid y môr ar gael yma nawr (ar gov.uk).
Mae asesiad amgylcheddol a thystiolaeth: FMP cregyn y brenin ar gael yma nawr (ar go.uk).