Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi
Rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau fy mod, fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu â Phlaid Cymru, wedi cytuno ar gynigion ar gyfer rhaglen Arfor 2.
Mae cyllideb o £11 miliwn ar gael dros y cyfnod o 3 blynedd 2022/23 – 2024/24 i gefnogi'r rhaglen a fydd, ar y cyd â’n pecyn cymorth ehangach, yn cyflawni amrywiaeth o ymyriadau economaidd i hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes, gwydnwch cymunedol a'r iaith Gymraeg.
Rydym wedi cydweithio â Cefin Campbell AS, yr Aelod Dynodedig a phartneriaid yr awdurdod lleol mewn ysbryd cydweithredol i ddatblygu cynigion sy'n adeiladu ar y dysgu o'r rhaglen Arfor wreiddiol ddwy flynedd (2019/20 – 20/21) a fu’n treialu nifer o weithgareddau. Mae canfyddiadau gwerthusiad annibynnol y rhaglen honno hefyd wedi bod yn allweddol i helpu i lunio'r rhaglen newydd hon.
Bydd rhaglen Arfor 2, a fydd yn cael ei darparu gan yr awdurdodau lleol, yn weithredol yng Ngwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Bydd yn cefnogi nifer o ymyriadau strategol, gan gynnwys canolbwyntio ar gyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd i'w galluogi i aros neu ddychwelyd i'w cymunedau genedigol ac i gyflawni eu huchelgeisiau yn lleol.
Bydd y rhaglen hon yn gwneud cyfraniad pwysig tuag at strategaeth ehangach Llywodraeth Cymru - Cymraeg 2050 sy'n ceisio cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a'i nod yw ategu gweithgarwch berthnasol sy'n bodoli eisoes neu sydd wedi'i gynllunio, er enghraifft Busnes Cymru, Syniadau Mawr, Arloesedd SMART, Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg a rhaglenni eraill.
Nod rhaglen Arfor 2 fydd:
• Creu cyfleoedd i bobl ifanc a theuluoedd (o dan 35 oed) i aros neu ddychwelyd i'w cymunedau genedigol – eu cefnogi i lwyddo'n lleol drwy gymryd rhan mewn menter neu ddatblygu gyrfa
• Creu cymunedau mentrus o fewn ardaloedd Cymraeg eu hiaith – drwy gefnogi mentrau masnachol a chymunedol sy'n ceisio cadw a chynyddu cyfoeth lleol trwy fanteisio ar hunaniaeth a rhinweddau unigryw eu hardaloedd.
• Sicrhau'r budd mwyaf posibl o weithgarwch drwy gydweithio – er mwyn sicrhau bod arferion da a gwersi a ddysgwyd yn cael eu rhannu a bod monitro parhaus i sicrhau gwelliant parhaus.
• Cryfhau hunaniaeth cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg – drwy gefnogi defnydd ac amlygrwydd y Gymraeg, annog ymdeimlad o le.
Bydd rhaglen Arfor 2 hefyd yn ceisio hyrwyddo dysgu a rhannu arferion da ac ehangu ein dealltwriaeth o'r cysylltiadau rhwng yr economi ac iaith a lle y bo’n berthnasol tai a nodi'r ymyriadau hynny sy'n gallu gwneud gwahaniaeth.
Bydd gwaith nawr yn parhau ar fanylion yr ymyriadau arfaethedig, a byddaf yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau wrth i'r rhaglen fynd rhagddi.