Roedd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn wynebu math gwahanol o groesholi yr wythnos hon pan gymerodd gwestiynau gan ddisgyblion ysgol mewn sesiwn holi ac ateb ar-lein.
Caiff sesiynau Leader Dialogue eu cynnal gan y Politics Project, sefydliad addysg democrataidd diduedd nad yw’n bodoli i wneud elw, ac sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. Mae’r sesiynau hyn yn gyfle i ysgolion gefnogi dysgwyr i wireddu un o bedwar diben Cwricwlwm i Gymru, sef tyfu i fod “yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd.”
Mae arweinwyr pob un o bedair plaid y Senedd yn cymryd rhan yn y sesiynau Leader Dialogue hyn gyda phobl ifanc 14-18 oed o naw ysgol ledled Cymru.
Mae’r sesiynau yn rhan o Deialog Ddigidol: Cymru, rhaglen ehangach o weithdai a digwyddiadau ar-lein sydd wedi bod yn cael eu cynnal ers y gwanwyn ar blatfformau digidol. Mae 40 o ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd a cholegau chweched dosbarth wedi cymryd rhan, a gwleidyddion o bob prif blaid ledled Cymru wedi bod yn siarad â phlant a phobl ifanc, gan roi’r cyfle iddynt ofyn cwestiynau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r cwestiynau wedi amrywio o sut mae rhywun yn mynd i mewn i wleidyddiaeth i sut gall Cymru fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ac a all Cymru ennill Cwpan y Byd.
Dywedodd y Prif Weinidog:
Mae wedi bod yn bleser cymryd rhan yn y rhaglen hon a thrin a thrafod gyda dysgwyr o bob rhan o Gymru. Mae ennyn diddordeb ein pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a’u helpu i ddeall eu cyfraniad nhw i Gymru a’r byd mor bwysig. Fe wnaeth eu cwestiynau meddylgar argraff arna’ i, a phwy ŵyr, mae’n bosibl bod un o Brif Weinidogion y dyfodol yn eu plith.
Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:
Dw i’n falch dros ben ein bod ni’n cynnig y sesiynau hyn i’n disgyblion, gan roi’r cyfle iddyn nhw ofyn i’r rhai sydd yng nghanol gwleidyddiaeth yng Nghymru y cwestiynau sy’n bwysig iddyn nhw.
Mae ein cwricwlwm wedi’i gynllunio mewn ffordd sy’n sicrhau bod pob disgybl yn cael addysg eang a chytbwys, ac un o’i bedwar diben yw cefnogi disgyblion i dyfu’n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd. Mae’r sesiynau hyn yn ffordd wych o ymgysylltu â disgyblion a chreu’r dymuniad ynddyn nhw i fod eisiau gwybod mwy.
Dywedodd Cyfarwyddwr y Politics Project, Hattie Andrews:
Mae’n gymaint o anrhydedd cynnal y sgyrsiau hanfodol hyn rhwng holl arweinwyr y Senedd a dysgwyr ifanc ledled Cymru. Rydyn ni’n ddiolchgar i’r holl wleidyddion, athrawon a dysgwyr sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hegni i wneud y mwyaf o’r cyfle hwn. Mae mor bwysig cefnogi pobl ifanc i ddysgu am rôl y Senedd a’u haelodau, a chreu’r cyfle i drafod y materion sy’n bwysig yng Nghymru. Mae wedi bod yn wych gweld gwleidyddion a phobl ifanc yn dysgu oddi wrth ei gilydd drwy drafod y cwestiynau sy’n bwysig i ddysgwyr Cymru.