Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Ar 15 Chwefror, cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig yn rhannu canfyddiadau ymarfer darganfod ynghylch datblygu Canolfan Ragoriaeth Caffael.
Y cam nesaf yn dilyn yr ymarfer darganfod yw treialu’r cysyniad drwy gam Alffa. Rwy’n falch o gyhoeddi ein bod wedi cwblhau’r ymarfer caffael ar gyfer penodi cyflenwr i gefnogi’r cynllun peilot, ac, yn dilyn dyfarnu’r contract ar gyfer y gwasanaethau, bydd y cynllun peilot yn dechrau. Rwyf wedi gofyn am i’r cynllun peilot ganolbwyntio yn gyntaf ar ddarparu cymorth ymarferol i dimau caffael y sector cyhoeddus yng Nghymru i’n helpu i gyrraedd ein nodau o ran sero net. Mae’r nodau hyn wedi’u hamlinellu yn Nodyn Polisi Caffael Cymru 12/21.
https://llyw.cymru/wppn-12-21-datgarboneiddio-drwy-gaffael-html
Wrth i’r cam Alffa / cynllun peilot fynd yn ei flaen ac wrth inni ddysgu am y pethau sy’n gweithio’n dda a’r rhai nad ydynt yn gweithio cystal, bydd meysydd polisi pellach yn cael eu hychwanegu at gwmpas y cynllun peilot. Bydd y cynllun peilot yn para hyd at ddeunaw mis, a byddwn yn defnyddio’r canfyddiadau i lywio ein camau gweithredu nesaf.