Canllawiau a chymorth i ddinasyddion yr UE, yr AEE a'r Swistir sydd am breswylio yng Nghymru.
Mae Cymru yn gartref i filoedd o ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir sy’n cyfoethogi ein cymunedau ac yn gwneud cyfraniad amhrisiadwy i’n gwasanaethau cyhoeddus a’n llwyddiant economaidd.
Rydyn ni’n benderfynol bod dinasyddion sydd wedi dewis gwneud eu cartref yng Nghymru’n parhau i deimlo’n aelodau gwerthfawr o’n cymunedau. Rydyn ni am iddyn nhw fod yn dawel eu meddwl bod Cymru’n wlad sy’n eu croesawu.
Rydyn ni’n ariannu Settled i roi help a chyngor am ddim ar fewnfudo i’r dinasyddion hynny sydd am wneud eu cartref yng Nghymru.
Y dyddiad cau ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog wedi mynd heibio
Dydd Mercher, 30 Mehefin 2021, oedd y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i’r Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS) ar gyfer dinasyddion yr UE, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd a'r Swistir ac aelodau o'u teuluoedd, a oedd yn byw yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020.
Os ydych wedi cyflwyno cais hwyr neu wedi cyflwyno cais i uwchraddio i statws preswylydd sefydlog , mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd eich hawliau'n cael eu diogelu hyd nes y penderfynir ar eich cais. Byddech wedi derbyn Tystysgrif Ymgeisio y gallwch ei defnyddio i ddangos tystiolaeth o'ch hawliau.
Os nad oeddech yn preswylio yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020 defnyddiwch y ddolen isod i weld rhagor o wybodaeth am y gofynion ar gyfer byw neu astudio yn y DU.
The UK’s points-based immigration system: information for EU citizens ar GOV.UK
Mae amser o hyd: Gwneud cais ar ôl y dyddiad cau
Os oeddech yn gymwys ar gyfer EUSS ond heb wneud cais cyn 30 Mehefin a bod gennych sail resymol dros golli'r dyddiad cau, mae amser o hyd i chi wneud cais hwyr.
Mae llawer o resymau gwahanol y gellir eu cynnwys fel sail resymol dros beidio â gwneud cais erbyn y dyddiad cau.
Mae canllawiau ar gael ar GOV.UK ar sut i wneud cais, ynghyd ag enghreifftiau o resymau. Os oes gennych reswm nad yw wedi'i restru, gallwch wneud cais o hyd a bydd eich rheswm yn cael ei ystyried.
Newidiadau i’r EUSS
Ar 17 Gorffennaf 2023 cyhoeddodd y Swyddfa Gartref nifer o newidiadau i Gynllun Preswylio’n Sefydlog yr UE.
Os oes gennych statws cyn-sefydlog bydd eich statws bellach yn cael ei ymestyn yn awtomatig am ddwy flynedd. Er enghraifft, os oedd disgwyl i’ch statws ddod i ben ym mis Rhagfyr 2023 bydd bellach yn parhau hyd fis Rhagfyr 2025. Os yw eich statws wedi’i ymestyn bydd y Swyddfa Gartref yn eich hysbysu a chaiff eich statws digidol ar y system Gweld a Phrofi ei ddiweddaru’n awtomatig.
Bydd y Swyddfa Gartref hefyd yn uwchraddio’n awtomatig deiliaid statws cyn-sefydlog i statws sefydlog os ydynt yn gymwys. Ni fyddwch ond yn gymwys am yr uwchraddio awtomatig yma os oes gan y Swyddfa Gartref dystiolaeth eich bod wedi byw yn y DU dros y pum mlynedd diwethaf. Os yw eich statws wedi’i uwchraddio’n awtomatig bydd y Swyddfa Gartref yn eich hysbysu.
Nid oes yn rhaid i chi aros i’ch statws gael ei uwchraddio’n awtomatig i statws sefydlog yn dilyn diwedd yr estyniad o ddwy flynedd, Gallwch gyflwyno cais i uwchraddio cyn gynted ag y byddwch yn gymwys.
Os nad ydych wedi preswylio yn y DU yn ddi-dor ers pum mlynedd ni fyddwch yn gymwys i gael eich uwchraddio’n awtomatig. Gallwch, fodd bynnag, gyflwyno cais cyn gynted ag y byddwch yn gymwys am statws sefydlog.
O 8 Awst 2023 bydd y llwybrau canlynol yn cau i ymgeiswyr newydd:
- Trwydded i Deuluoedd EUSS
- Zambrano
Ewch i GOV.UK i wybod pa lwybrau eraill y gall aelodau o deuluoedd eu dilyn.
Eich hawliau
Os ydych yn un o ddinasyddion yr UE, yr AEE neu'r Swistir a'ch bod yn preswylio'n gyfreithlon yn y DU erbyn 31 Rhagfyr 2020, bydd eich hawliau'n cael eu diogelu.
Os ydych yn berson cymwys sydd wedi gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd sefydlog drwy’r EUSS, bydd gennych yr un hawliau parhaus i weithio, astudio a chael mynediad at wasanaethau a budd-daliadau cyhoeddus ag a oedd gennych cyn i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Dyma’r hawliau dinasyddion perthnasol y bydd gennych hawl iddynt o hyd:
- Preswylio - mae hyn yn cynnwys hawliau i breswylio, gadael y wlad a dod yn ôl.
- Hawliau gweithwyr a phobl hunangyflogedig - mae hyn yn cynnwys hawliau gweithwyr, personau hunangyflogedig a gweithwyr trawsffiniol
- Cydgydnabyddiaeth i gymwysterau proffesiynol - mae hyn yn cynnwys yr hawl i gymwysterau proffesiynol cydnabyddedig barhau i gael eu cydnabod.
- Cydgysylltu systemau nawdd cymdeithasol - mae'r rhain yn cynnwys budd-daliadau, mynediad at addysg, tai a gofal iechyd.
Canllawiau ar hawliau dinasyddion yr UE ar LLYW.CYMRU
Mae rhagor o wybodaeth am Hawliau Dinasyddion yr UE ar gael ar dudalen we'r Awdurdod Monitro Annibynnol.
Cymorth pellach
Os oes angen rhagor o help arnoch chi neu'ch teulu, mae nifer o sefydliadau yng Nghymru a all roi cyngor a chymorth annibynnol am ddim i chi.
Cyflogwyr dinasyddion yr UE
Mae pecyn cymorth ar gael sy’n rhoi adnoddau a gwybodaeth i gyflogwyr er mwyn iddynt allu rhoi cymorth i ddinasyddion yr UE a’u teuluoedd ynghylch y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE.
Deall profiadau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal prosiect ymchwil i helpu gwneuthurwyr polisi i ddeall profiadau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru. Mae’r prosiect yn ceisio deall a yw profiadau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn wahanol i brofiadau dinasyddion Prydain.
Mae’r prosiect yn canolbwyntio ar:
- Iechyd (yn enwedig iechyd meddwl) dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
- Profiadau addysgol dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd
- Y ffordd y mae dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o’r gweithlu.
Bydd canfyddiadau’r prosiect ymchwil yn helpu Llywodraeth Cymru i ddeall profiadau dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru yn well er mwyn llunio a llywio polisïau yn y dyfodol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y prosiect hwn, e-bostiwch Ffion.Lloyd-Williams@gov.wales