Gwybodaeth reoli am bersonau a wedi'u rhoi mewn llety dros dro a phobl sydd yn cysgu allan ar gyfer Awst 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan
Mae'r casgliad misol hwn yn disodli'r casgliad wythnosol o wybodaeth yn ystod pandemig y coronafeirws (COVID-19).
Mae’r wybodaeth yn cynnwys llety dros dro a’r llety hirdymor a ddarperir i bobl sy’n wneud cais i’r awdurdodau lleol am gymorth tai gan eu bod mewn perygl o fod yn ddigartref.
Nid yw’r data hyn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, a gellir diwygio'r data yn y dyfodol.
Dylid trin y ffigurau ar gyfer y mis diweddaraf fel rhai dros dro. Nid yw pob awdurdod lleol wedi gallu darparu data cynhwysfawr ac adlewyrchir hynny, os yw’n berthnasol, yn y troednodiadau.
Ar gyfer yr amcangyfrifon o gysgu allan, rydym yn cyhoeddi dadansoddiad yn ôl awdurdod lleol (o fis Tachwedd 2020). Ar gyfer data ar ddefnydd llety, i ddechrau rydym yn cyhoeddi data ar lefel Cymru yn unig.
Y gallu i gymharu’r data ag ystadegau ar ddigartrefedd statudol ac y cyfrif o gysgu allan
Mae'n bwysig nodi'r gwahaniaethau dilynol rhwng y casgliad data rheoli misol hwn a'n casgliadau data a chyhoeddiadau presennol ar ddigartrefedd statudol:
- Mae'r data misol hwn yn ymwneud â nifer yr unigolion sy'n profi digartrefedd ac sy'n cael eu cefnogi gan awdurdodau lleol i lety dros dro neu lety hirdymor addas.
- Mae ein casgliadau chwarterol a blynyddol ar ddigartrefedd statudol yn casglu data ar nifer yr aelwydydd, nid unigolion. Mae'r data hynny’n ymwneud â digartrefedd fel y'i diffinnir gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014.
Yn ogystal, nid ydym yn argymell cymariaethau rhwng yr amcangyfrifon cysgu allan o'r casgliad misol hwn a'r cyfrif blynyddol o gysgu allan (hyd at fis Tachwedd 2019). Yn y casgliad misol hwn, gofynnir i awdurdodau lleol seilio eu hamcangyfrifon ar ddeallusrwydd lleol. Mae gan y cyfrif blynyddol o gysgu allan fethodoleg wahanol: ymarfer casglu gwybodaeth dwy wythnos, ac yna cyfrif ciplun un noson.
Prif bwyntiau
Cymariaethau dros amser
Ar hyn o bryd, mae'n bwysig peidio â rhoi gormod o bwyslais ar ddata ar gyfer mis unigol neu gymariaethau â misoedd blaenorol. Mae'r casgliad misol hwn o wybodaeth reoli a'r canllawiau a ddarperir yn parhau i gael eu mireinio a'u gwella.
Defnyddio llety dros dro
- Ledled Cymru, cafodd 1,480 o bobl ddigartref eu rhoi mewn llety dros dro yn ystod y mis, 163 yn fwy nag ym mis Gorffennaf 2022. O’r rhain, roedd 458 yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 66 o fis Gorffennaf 2022. [troednodyn 1] [troednodyn 2] [troednodyn 3]
- Ar 31 Awst 2022, roedd 8,545 o unigolion mewn llety dros dro, cynnydd o 77 ers 31 Gorffennaf 2022. Roedd 2,515 o’r rhain yn blant dibynnol o dan 16 oed, cynnydd o 60 ers 31 Gorffennaf 2022. [troednodyn 4]
- Rhwng dechrau’r pandemig COVID-19 a diwedd Awst 2022, mae dros 26,400 o bobl a oedd yn ddigartref ynghynt wedi cael cymorth i lety brys dros dro. [troednodyn 1] [troednodyn 2]
Unigolion digartref sydd wedi cael eu symud i lety hirdymor addas
- Symudwyd 708 o unigolion digartref i lety hirdymor addas, 164 yn fwy nag ym mis Gorffennaf 2022. O’r unigolion digartref a symudwyd i lety hirdymor addas, roedd 248 yn blant dibynnol o dan 16 oed, 65 yn fwy nag ym mis Gorffennaf 2022. [troednodyn 2]
Cysgu allan
- Ar 31 Awst 2022, amcangyfrifwyd bod 152 o unigolion yn cysgu allan ledled Cymru. Mae hyn yn gynnydd o 33 o’r 119 unigolion sy’n cysgu allan ar 31 Gorffennaf 2022. [troednodyn 5]
- Ar 31 Awst 2022, Casnewydd (33), Caerdydd (23), Sir Benfro (22), Ceredigion (13) a Sir Ddinbych (12) oedd yr awdurdodau lleol a nododd y niferau uchaf o unigolion yn cysgu allan. Nododd pob awdurdod lleol arall fod 10 neu lai unigolyn yn cysgu allan, gyda wyth awdurdod lleol yn adrodd sero. [troednodyn 5]
Troednodiadau
[1] Nid oedd un awdurdod lleol wedi cynnwys y rheini sy’n ‘ddigartref mewn cartref’.
[2] Roedd un awdurdod lleol wedi adrodd am aelwydydd, nid unigolion. Felly, bydd tangyfrif bach yng nghyfanswm y ffigur a gyflwynir.
[3] Mae'r ffigwr ar gyfer y mis blaenorol wedi cael ei ddiwygio ers y cyhoeddiad diwethaf.
[4] Nid oedd dau awdurdodau lleol wedi gallu cael data o lochesi menywod yn eu awdurdod lleol.
[5] Gofynnir i awdurdodau lleol seilio'r amcangyfrifon hyn ar wybodaeth leol, nid cyfrif un noson.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Awst 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 15 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.