Gwybodaeth am gynnyrch amaethyddol, Gwerth Ychwanegol Crynswth o amaethyddiaeth a Chyfanswm Incwm o Ffermio ar gyfer 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Allbwn ac incwm cyfun amaethyddol
Mae'r amcangyfrif cychwynnol ar gyfer allbwn amaethyddol wedi cyrraedd y lefel uchaf erioed, yn dilyn blwyddyn eithriadol lle mae prisiau wedi codi ar draws y rhan fwyaf o nwyddau sydd wedi gwrthbwyso'r cynnydd mewn prisiau mewnbwn. Disgwylir y bydd y cynnydd presennol mewn costau byw yn fwy amlwg yn yr amcangyfrif ar gyfer 2023.
Yn 2022, amcangyfrifir bod y gwerth ychwanegol gros a'r cyfanswm incwm o ffermio wedi cynyddu am y drydedd flwyddyn yn olynol (bron 40% ac ychydig dros 55% yn y drefn honno). Cynyddodd yr allbwn amaethyddol cyfun dros 20% yn 2022, ochr yn ochr â chynnydd o tua 15% mewn treuliant canolraddol.
Prif bwyntiau
- Cynyddodd gwerth yr allbwn amaethyddol cyfun (allbwn gros) ychydig dros £400 miliwn (neu 23%) i ychydig dros £2.1 biliwn yn 2022.
- Cynyddodd treuliant canolraddol (y nwyddau a'r gwasanaethau a ddefnyddir yn ystod y broses gynhyrchu) bron £180 miliwn (neu 15%) i tua £1.4 biliwn yn 2022. Mae hyn, mewn gwirionedd, yn gynnydd mewn costau.
- Cynyddodd gwerth ychwanegol gros (allbwn amaethyddol cyfun, wedi tynnu treuliant canolraddol) tua £225 miliwn (neu 38%) i ychydig dros £810 miliwn yn 2022.
- Cynyddodd Cyfanswm yr Incwm Ffermio tua £215 miliwn (ychydig dros 55%) i bron £600 miliwn yn 2022.
Adroddiadau
Allbwn ac incwm cyfun amaethyddol: 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 457 KB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Allbwn ac incwm cyfun amaethyddol: 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: ODS, maint ffeil: 22 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.