Ymwelodd y Gweinidog Cyllid Rebecca Evans ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru Cefin Campbell â safleoedd twristiaeth ym Mhortmeirion a Phenygroes heddiw i drafod cynigion i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Ddydd Mawrth, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar yr ardoll, sef swm bach o arian y byddai pobl sy'n aros mewn llety dros nos yn ei dalu er mwyn codi arian newydd i'w fuddsoddi mewn ardaloedd lleol.
Dyma'r cyntaf o nifer o ymweliadau y bwriedir eu gwneud i bob cwr o Gymru yn ystod y cyfnod ymgynghori. Cafodd y Gweinidog a'r Aelod Dynodedig gyfle i gwrdd â grŵp o gynrychiolwyr o'r gymuned a'r diwydiant twristiaeth ym Mhortmeirion yn gynharach heddiw.
Ar ôl y digwyddiad ymgynghori ym Mhortmeirion, aethant i weld Yr Orsaf ym Mhenygroes, gan gael cyfle i weld gwaith Siop Griffiths, y gymdeithas budd cymunedol.
Mae mwy na 40 o wledydd a chyrchfannau gwyliau ym mhedwar ban byd wedi cyflwyno ardoll ymwelwyr o ryw fath, gan gynnwys Gwlad Groeg, Ffrainc, Amsterdam, Barcelona a California.
Dywedodd Rebecca Evans, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:
“Rydym am i'r diwydiant twristiaeth barhau i ffynnu yng Ngogledd Cymru, ac i adfer yn dda yn sgil effeithiau COVID-19. Ein bwriad gyda'r ardoll yw creu ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd rhwng trigolion ac ymwelwyr, er mwyn gwarchod ein hardaloedd lleol, a buddsoddi ynddynt. Drwy ofyn i ymwelwyr – boed yn ymwelwyr o Gymru neu tu hwnt – i wneud cyfraniad bach tuag at gynnal a gwella'r lle y maent yn ymweld ag ef, byddwn yn ysgogi dull gweithredu mwy cynaliadwy ar gyfer twristiaeth.”
Datblygwyd cynigion ar gyfer ardoll ymwelwyr drwy Gytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru. Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru Cefin Campbell:
“Mae'n hollbwysig ein bod yn sicrhau twristiaeth gynaliadwy, gyfrifol sy'n gweithio i ymwelwr ac i'r cymunedau y maent yn ymweld â nhw. Pe bai awdurdodau lleol yn penderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr, gallai wneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau ledled Cymru o ran helpu i ddatblygu a gwarchod gwasanaethau lleol a seilwaith.
Dywedodd Ben Gregory, un o aelodau bwrdd Siop Griffiths:
“Rydym yn falch iawn i weld yr ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr yn digwydd. Fel busnes sy'n derbyn ymwelwyr, rydym o blaid y dreth. Bydd yr arian o'r dreth o fudd i ymwelwyr a thrigolion os bydd yn helpu i wella'r isadeiledd lleol, a mynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae ardaloedd twristaidd yn eu hwynebu.
I rywle fel Dyffryn Nantlle, lle mae twristiaeth yn dechrau datblygu, mae'n gyfle i gael sgwrs ehangach am fanteision ac anfanteision twristiaeth, a sut mae twristiaeth gymunedol yn gallu cael ei datblygu er budd ein hymwelwyr a phobl sy'n byw yn y Dyffryn.”
Cafodd yr ymgynghoriad ei lansio ddydd Mawrth 20 Medi.
Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol