Mae buddsoddiad sylweddol o bron i £100 miliwn yn cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru i wella argaeledd gofal plant, cryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg ac ariannu llefydd rhan-amser am ddim.
Mae’r cyllid yn cynnwys £26 miliwn ar gyfer cam nesaf ehangu gofal plant rhan-amser Dechrau’n Deg; £70 miliwn ar gyfer gwelliannau a gwaith cynnal a chadw hanfodol fydd ar gael i bob lleoliad gofal plant a £3.8 miliwn i gefnogi mwy o ddarparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg.
Mae’r buddsoddiad yn rhan o gynllun graddol i ehangu darpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais penodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg, sydd yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian y cyllid wrth ymweld â meithrinfa Cylch Meithrin yn Abergele.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
Mae ein buddsoddiad parhaus yn y sector gofal plant yn helpu i ddarparu cyfleusterau rhagorol i blant ar draws Cymru yn ogystal â chefnogi effeithiau cadarnhaol hirdymor ar fywydau plant a theuluoedd drwy’r rhaglen Dechrau’n Deg.
Mae’n amlwg bod darpariaeth o safon uchel yn ystod y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad y plentyn ac yn chwarae rôl bwysig o safbwynt sicrhau bod gan bob plentyn y dechrau gorau mewn bywyd a bod pob plentyn yn mwynhau dysgu, yn ehangu ei wybodaeth ac yn gwireddu ei botensial. Rwy’n arbennig o falch o fuddsoddi mewn darpariaeth Gymraeg er mwyn cynyddu nifer y lleoliadau cyfrwng Cymraeg a nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn y gweithlu.
Meddai Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:
Mae tystiolaeth ryngwladol yn awgrymu mai sicrhau mynediad at ofal ac addysg blynyddoedd cynnar yw un o’r camau pwysicaf y gallwn eu cymryd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant. Drwy symud ymlaen ac ehangu darpariaeth gofal plant am ddim, a’i gyflwyno’n raddol i bob plentyn dwy oed, gallwn wneud gwir wahaniaeth i flynyddoedd ffurfiannol plant ledled Cymru.
Mae plant yn dysgu ac yn elwa cymaint ar ddarpariaeth gofal plant safonol – mewn gwirionedd mae’r hyn sydd yn edrych fel chwarae syml yn brofiad addysgol pwysig lle mae plentyn yn dysgu ac yn cymdeithasu mewn amgylchedd cefnogol a gofalgar. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn darparu’r ymrwymiad pwysig hwn i’n holl gymunedau.
Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd sydd â phlant ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru ac mae’n cynnwys gofal plant safonol rhan-amser am ddim i blant rhwng dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.
Ym mis Ebrill, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai hyd at 2,500 yn fwy o blant yn gymwys ar gyfer gwasanaethau Dechrau’n Deg ar draws Cymru. Dechreuodd cam cyntaf y rhaglen ledled Cymru ddechrau mis Medi.
Bydd ail gam yr ehangu yn gwneud mwy na 3000 yn fwy o blant dwy oed yn gymwys ar gyfer gofal plant Dechrau’n Deg o fis Ebrill 2023, gyda £11.65 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer 2023/24 a £14.3 miliwn ar gyfer 2024/25. Ar hyn o bryd mae awdurdodau lleol yn ystyried pa ardaloedd fydd yn cael eu cynnwys fel rhan o gam dau, a bydd teuluoedd cymwys yn cael gwybod am hynny yn y flwyddyn newydd.
Mae’r £70 miliwn ar gyfer gwelliannau i gyfleusterau a gwaith cynnal a chadw ar gael i bob lleoliad gofal plant cofrestredig, a gallant ymgeisio drwy eu hawdurdod lleol. Bydd ceisiadau yn amrywio o wneud mân waith diweddaru i ofodau awyr agored i adeiladu cyfleusterau newydd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £3.8 miliwn o gyllid dros y tair blynedd ariannol nesaf i gynorthwyo darparwyr gofal plant i wella eu darpariaeth Gymraeg. Mae’r gefnogaeth hon yn cynnwys cynyddu nifer y clybiau ar ôl ysgol cyfrwng Cymraeg cofrestredig yn ogystal â hyfforddi a chynorthwyo ymarferwyr i wella eu Cymraeg a throsglwyddo hynny i’r plant yn eu lleoliadau.