Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ac yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut y byddwn yn defnyddio’ch gwybodaeth

Pan fydd Llywodraeth Cymru yn casglu data at ddiben penodol, byddwn yn rhoi hysbysiad preifatrwydd ichi, yn esbonio pam y mae angen yr wybodaeth arnom a sut y byddwn yn ei defnyddio.

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ac yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni. Pan fyddwch yn cysylltu â ni am y gwaith rydym yn ei wneud, byddwn yn trin eich data personol yn unol â’n hawdurdod swyddogol i gyflawni rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. Os yw'r wybodaeth a roddwch i ni mewn perthynas â'ch ymholiad yn cynnwys data categori arbennig, fel iechyd, gwybodaeth grefyddol neu ethnig y sail gyfreithlon rydym yn dibynnu arni i brosesu, mae'n ganiatâd penodol oherwydd eich bod wedi gwirfoddoli'r wybodaeth hon. Fodd bynnag, byddwn fel arfer yn cadarnhau caniatâd lle darperir gwybodaeth ar ran trydydd parti.

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth mewn amgylchedd diogel a bydd yr hawl i’w gweld yn cael ei chyfyngu yn unol ag egwyddor ‘yr angen i wybod’.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Ymwelwyr â’n gwefannau

Ar brif wefan Llywodraeth Cymru, LLYW.CYMRU, mae polisi preifatrwydd sy’n esbonio hyn yn llawnach. Mae gan holl wefannau eraill Llywodraeth Cymru bolisi preifatrwydd tebyg hefyd.

Os byddwch yn cysylltu â Llywodraeth Cymru

Mae sawl ffordd bosibl ichi gysylltu â Llywodraeth Cymru a bydd eich ymholiad yn cael ei drin yn yr un ffordd, waeth sut y byddwch wedi dewis cysylltu â ni. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg. Os byddwch yn nodi bod yn well gennych gyfathrebu naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, byddwn yn cofnodi hynny, ynghyd â’ch manylion (enw, cyfeiriad ac e-bost) ac yn eu cadw hyd nes y byddwch yn rhoi gwybod yn wahanol inni.

Bydd pob gwybodaeth yn gysylltiedig â gohebiaeth sy’n ein cyrraedd yn cael ei gweinyddu a’i chadw mewn dogfennau o fewn y systemau sydd gan Lywodraeth Cymru i reoli cofnodion yn ddiogel. Byddwn yn cadw’r ffeiliau yn unol â’r dyddiadau adolygu yn ein rhestr cadw a gwaredu. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei gwaredu mewn modd diogel pan ddaw’r cyfnod cadw i ben.

Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau penodol ar gyfer ymdrin â rhai mathau o ymholiadau: cwynion, ceisiadau rhyddid gwybodaeth, ceisiadau ynglŷn â’ch hawliau o dan y gyfraith diogelu data, rhoi gwybod am dwyll a chysylltu â Gweinidogion. Nodir yn yr adran isod sut yr ydym yn rheoli eich gwybodaeth mewn perthynas â’r math penodol o ymholiad.

Os byddwch yn cysylltu â ni gydag ymholiad cyffredinol

Mae’n bosibl y bydd angen inni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti os bydd angen eu cyfraniad er mwyn ymateb i’ch ymholiad. Mae hyn yn anochel mewn rhai achosion, er enghraifft os yw’r ymholiad yn ymwneud â gwasanaethau a ddarperir gan un o’n cyrff cyflenwi (megis y GIG neu gorff a noddir). Os nad ydych yn dymuno i wybodaeth a fyddai’n dangos pwy ydych gael ei datgelu, byddwn yn ceisio parchu hynny. Ond mae’n bosibl na fydd modd ymdrin ag ymholiad ar sail ddienw.

Yn yr un modd, pan fydd ymholiadau’n cael eu cyflwyno i ni, yr unig ddefnydd y byddwn yn ei wneud o’r wybodaeth a ddarperir i ni fydd er mwyn delio â’r ymholiad ac unrhyw faterion pellach, ac i holi ynghylch lefel y gwasanaeth a ddarparwyd gennym.

Os byddwch yn gwneud ymholiad ar ran trydydd parti (er enghraifft, ffrind neu berthynas) byddwn fel arfer yn gofyn ichi am ryw fath o dystiolaeth eu bod yn gwybod am yr ymholiad ac yn hapus ichi roi eu manylion i ni. Yn achos plant, byddwn yn gofyn am gadarnhad o’r fath ar gyfer unrhyw blentyn sy’n 13 oed neu’n hŷn. Neu, pan fo natur yr ymholiad yn golygu trin gwybodaeth sy’n arbennig o sensitif, byddwn yn gofyn am gadarnhad ar gyfer plant iau. Os byddwch wedi ysgrifennu at eich Aelod Cynulliad neu’ch Aelod Seneddol i ofyn iddynt godi mater gyda Llywodraeth Cymru, ni fyddwn fel arfer yn gofyn am gadarnhad pellach gennych chi.

Bydd ffeiliau achos ar gyfer ymholiadau y bydd Llywodraeth Cymru yn ymchwilio iddynt ac yn eu datrys yn cael eu cadw am hyd at 3 blynedd ar ôl i’ch achos gael ei ddatrys yn llawn. Fodd bynnag, yn achos ymholiadau syml y gellir ymateb iddynt yn syth, byddwn yn dileu eich data personol cyn gynted ag y byddwn wedi anfon yr ymateb atoch.

Os byddwch yn cysylltu â Gweinidogion Cymru

Os byddwch yn cysylltu a Gweinidog, byddwn yn ymdrin â’r ohebiaeth neu’r cais am gyfarfod yn yr un ffordd, yn fras, ag y byddem yn ymdrin ag ymholiad cyffredinol. Dyma’r gwahaniaethau:

  • Byddwn yn cadw’r ohebiaeth ar ffurf electonig a bydd unrhyw gopïau caled o’r ohebiaeth yn cael eu dinistrio o fewn 3 mis ar ôl inni ymateb.
  • Byddwn yn cadw eich manylion am hyd at 7 mlynedd o ddyddiad eich cyswllt mwyaf diweddar â Llywodraeth Cymru.
  • Pan fydd cyfarfod yn cael ei gynnal gyda Gweinidog neu pan fydd Gweinidog yn mynychu digwyddiad, bydd rhai manylion am y digwyddiad yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru, yn cael eu cadw’n barhaol fel cofnod hanesyddol ac, mewn rhai achosion, yn cael eu trosglwyddo i archifau cyhoeddus.

Fodd bynnag, os byddwn o’r farn y byddai’n fwy priodol ymdrin â’ch gohebiaeth drwy un o’r prosesau eraill a ddisgrifir yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn (ee os yw’n cynnwys cais rhyddid gwybodaeth), byddwn yn rhoi gwybod ichi ac yn ymdrin â hi yn unol â’r broses berthnasol isod.

Os byddwch yn gwneud cwyn

Mae sawl ffordd o gyflwyno cwyn i ni. Mae’n bosibl y byddwch yn darparu gwybodaeth bersonol yn gysylltiedig â’r gŵyn, ond fel lleiafswm bydd angen i ni ofyn i chi am eich enw a’ch manylion cyswllt (ee cyfeiriad post, cyfeiriad e-bost, rhif ffôn). Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych i brosesu eich cwyn yn unol â’n polisi cwynion cwsmeriaid.

Os byddwch yn gwneud cwyn ar ran trydydd parti (er enghraifft, ffrind neu berthynas) byddwn fel arfer yn gofyn ichi am ryw fath o dystiolaeth eu bod yn gwybod am yr ymholiad ac yn hapus ichi roi eu manylion i ni. Yn achos plant, byddwn yn gofyn am gadarnhad o’r fath ar gyfer unrhyw blentyn sy’n 13 oed neu’n hŷn. Neu, pan fo natur yr ymholiad yn golygu trin gwybodaeth sy’n arbennig o sensitif, byddwn yn gofyn am gadarnhad ar gyfer plant iau.

Mae’n bosibl y bydd angen inni ddatgelu eich gwybodaeth i drydydd parti os bydd angen eu cyfraniad er mwyn ymateb i’ch cwyn neu ble mae cyfrifoldeb arnom i’w wneud hynny fel eu bod yn gallu datrys eich pryderon. Os nad ydych yn dymuno i wybodaeth a fyddai’n dangos pwy ydych gael ei datgelu, byddwn yn ceisio parchu hynny. Ond, wrth i ymchwiliadau gael eu cynnal i’ch cwyn efallai na fydd bob amser yn bosibl ichi aros yn ddienw.

Bydd ffeiliau achos ar gyfer y cwynion hynny yr ymchwiliwyd iddynt ac a gafodd eu datrys gan Llywodraeth Cymru yn cael eu cadw am t dair blynedd ar y mwyaf ar ôl i’ch achos gael ei ddatrys yn llawn. Bydd cwynion yr ymchwiliwyd iddynt gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, Comisiynydd y Gymraeg neu Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth neu sydd wedi bod yn destun achos cyfreithiol yn cael eu cadw am hyd at ddeng mlynedd ar ôl i’ch achos gael ei ddatrys yn llawn. Os bydd angen i ni gadw gwybodaeth am gyfnodau fwy am unrhyw reswm, byddwn yn rhoi gwybod i chi.

Os nad yw’r materion rydych chi’n eu codi yn cael eu llywodraethu gan ein Polisi Cwynion gan Gwsmeriaid, byddwn ni’n trosglwyddo’r manylion i’r swyddogion priodol o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn iddynt ddarparu ymateb.

Os byddwch yn gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth

Os byddwch yn gwneud cais dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, bydd gofyn i ni gael eich enw a’ch manylion cyswllt er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol i ymateb ichi o dan y Ddeddf.

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol, ynghyd â phob gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’ch cais, am 3 blynedd o’r dyddiad y byddwn yn ymateb i’ch cais.

Os byddwch yn cysylltu â ni ynglŷn â’ch hawliau o dan y gyfraith diogelu data

Os ydych yn dymuno cysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â’ch hawliau o dan y gyfraith diogelu data, gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru:

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

E-bost: Swyddogdiogeludata@llyw.cymru 

Ond fe wnawn ni ddelio â’ch ymholiad, waeth sut y byddwch wedi cysylltu â ni.

Os byddwch yn gwneud cais o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, bydd angen eich enw a’ch manylion cyswllt arnom er mwyn bodloni ein rhwymedigaethau i ymateb ichi yn unol â’r gyfraith. Yr unig ddefnydd y byddwn yn ei gwneud o’r wybodaeth bersonol hon yw er mwyn ymdrin â’ch cais ac unrhyw faterion a allai ddeillio ohono.

Byddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol, ynghyd â phob gwybodaeth arall sy’n ymwneud â’ch cais, am 3 blynedd o’r dyddiad y byddwn yn ymateb i’ch cais.

Os byddwch yn cysylltu â ni ynglŷn â thwyll

Gallwch gysylltu â ni os ydych eisiau rhoi gwybod am dwyll a gyflawnwyd yn erbyn Llywodraeth Cymru. Os caiff eich gwybodaeth bersonol ei throsglwyddo wedyn i Uned Gwrth-dwyll Llywodraeth Cymru, a’i bod yn cynnwys eich manylion cyswllt, mae’n bosibl y cysylltir â chi i drafod yr atgyfeiriad ymhellach. Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymchwilio i’ch atgyfeiriad, a’r ymchwiliad hwn fydd yn penderfynu beth sy’n digwydd i’ch data personol:

  • os ymddengys y bydd gofyn gweithredu ar sail yr atgyfeiriad, bydd yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei chadw’n ddiogel drwy gydol cyfnod yr ymchwiliad, gan gynnwys unrhyw amser perthnasol petai’r atgyfeiriad yn arwain at erlyn. Mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu â’r heddlu a chyrff ymchwilio eraill. Bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am 2 flynedd ar ôl i’r ymchwiliad neu’r achos llys ddod i ben.
  • os bydd gofyn gweithredu ar sail yr atgyfeiriad, ond nad yw o fewn cylch gorchwyl Llywodraeth Cymru i ymchwilio i’r mater, cysylltir â chi i ofyn am eich caniatâd i drosglwyddo’ch atgyfeiriad i gorff priodol. Pan fyddwn o dan rwymedigaeth gyfreithiol i rannu’r wybodaeth, ni fyddwn yn gofyn am eich caniatâd, ee lle’r amheuir gwyngalchu arian neu derfysgaeth.
  • Os na fydd gofyn gweithredu ar sail yr atgyfeiriad, caiff y data eu dinistrio’n syth.
  • Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir ynghylch twyll posibl yn erbyn Llywodraeth Cymru yn cael ei rhannu ag aelodau o Banel Sicrwydd Allanol Llywodraeth Cymru, a fydd yna’n ymchwilio i bryderon o’r fath. Bydd yr wybodaeth a ddarparwyd gennych yn cael ei chadw’n ddiogel drwy gydol cyfnod yr ymchwiliad. 

Os byddwch yn ymweld ag un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru

Os byddwch yn ymweld â ni yn un o’n swyddfeydd bydd angen ichi roi eich enw a’ch manylion cyswllt i’r swyddogion yr ydych yn cyfarfod â nhw. Pan gyrhaeddwch, gofynnir ichi gofnodi’ch enw, os oes derbynfa yn yr adeilad, a byddwn yn cadw’r ffurflenni llofnodi am ddeufis ar y mwyaf. Os bydd gennych le parcio wedi’i neilltuo yn un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru lle caiff y llefydd parcio eu rheoli, bydd angen inni gael rhif cofrestru eich car ymlaen llaw. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei chadw am 12 mis.

Mae camerâu cylch cyfyng mewn nifer o’n swyddfeydd ac mae’n bosibl, felly, y cewch eich ffilmio yn ystod yr ymweliad. Mewn unrhyw swyddfa lle mae camerâu cylch cyfyng, bydd arwyddion clir i ddangos hynny. Er diogelwch y mae’r camerâu hyn wedi’u gosod, ac ni ddefnyddir y fideo at unrhyw ddiben arall. Ni fyddwn yn cadw’r cofnod fideo am fwy na 30 diwrnod.

Os byddwch yn cymryd rhan mewn ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru

Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol i brosesu data personol sy’n berthnasol i’r modd y maent yn arfer eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymatebion a anfonir gennych yn cael eu gweld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n ymdrin â’r materion y mae’r ymgynghoriad yn ymwneud ag ef, neu er mwyn cynllunio ymgyngoriadau at y dyfodol. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn dadansoddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad ymhellach, mae’n bosibl y gwneir y gwaith hwn gan gontractwyr trydydd parti (ee corff ymchwil neu gwmni ymgynghori). Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o’r fath yn gosod gofynion caeth o ran prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

I ddangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i bob ymgynghoriad. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) y person neu’r corff a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os dymunwch aros yn ddienw, nodwch hynny wrth anfon eich ymateb, a byddwn yn dileu eich manylion cyn cyhoeddi’r dogfennau.

Dylech fod yn ymwybodol hefyd o’n cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth.

Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau cyhoeddedig hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a ddelir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na 3 blynedd.

Os byddwch yn mynychu digwyddiad a drefnir gan Lywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn trefnu gwahanol fathau o ddigwyddiadau i’n helpu yn ein gwaith. Beth bynnag yw diben y digwyddiad, bydd angen inni gael eich data personol os byddwch yn ei fynychu. Bydd hyn yn cynnwys eich enw, eich manylion cyswllt, eich sefydliad, a’ch gofynion dietegol. Hefyd, os yw’r trefniadau parcio’n cael eu rheoli yn y lleoliad, bydd angen rhif cofrestru’ch car. Byddwn yn defnyddio’ch manylion cyswllt i anfon gwybodaeth ichi ynglŷn â mynychu’r digwyddiad, ac mae’n bosibl yr anfonwn wybodaeth ichi am y digwyddiad ar ôl iddo gael ei gynnal. Mewn rhai achosion, rydym yn defnyddio trydydd parti i drefnu ein digwyddiadau, ac mae ein contractau yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel. Os bydd angen ichi ddod at y dderbynfa mewn lleoliad, byddwn yn rhoi rhestr i’r dderbynfa o bawb sy’n mynychu’r digwyddiad, ynghyd â rhifau cofrestru eu ceir lle bo hynny’n berthnasol.

Os mai yn un o swyddfeydd Llywodraeth Cymru y mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal, mae gwybodaeth ar gael yn yr adran sy’n sôn am ymweld â swyddfeydd Llywodraeth Cymru.

Ni fyddwn yn cadw’ch gwybodaeth bersonol am fwy na blwyddyn ar ôl unrhyw ddigwyddiad a fynychir gennych. Os byddwn am ddefnyddio’ch data personol am unrhyw reswm heblaw er mwyn trefnu’r digwyddiad, byddwn yn gofyn ichi yn ystod y broses archebu.

Os ydych yn aelod o grŵp rhanddeiliaid neu weithgor

Fel rhan o’n gwaith byddwn yn aml yn gwahodd rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn gweithgorau amrywiol. Os gofynnir i chi ymuno â gweithgor neu os cynigiwch eich enw, byddwn yn rhoi disgrifiad o’r gweithgor ichi, a fydd yn cynnwys:

  • diben y grŵp
  • eich rôl yn y grŵp
  • pa mor aml y bydd y grŵp yn cyfarfod a thros pa gyfnod
  • a fydd cofnodion a phapurau’r grŵp yn cael eu cyhoeddi.

Tra byddwch yn aelod o’r grŵp, byddwn yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfodydd, i anfon papurau atoch ar gyfer y cyfarfod neu i anfon gwybodaeth arall atoch sy’n berthnasol i ddiben y grŵp. Os byddwn am ddefnyddio’ch data personol am unrhyw reswm heblaw at ddiben eich aelodaeth o’r grŵp, byddwn yn gofyn ichi i ddechrau.

Os na fyddwch yn dymuno parhau’n aelod o weithgor, cewch gysylltu ag ysgrifenyddiaeth y gweithgor i ofyn iddynt derfynu eich aelodaeth.

Byddwn yn cadw unrhyw fanylion cyswllt hyd nes daw cyfnod y gweithgor i ben neu hyd nes daw eich cyfnod chi’n aelod ohono i ben, ac yn ychwanegu 3 blynedd ar ben hynny. Bydd cofnodion a phapurau eraill sy’n crybwyll eich enw yn cael eu cadw yn unol â’r meini prawf a nodir yn rhestr cadw a gwaredu Llywodraeth Cymru, ac yn hynny o beth byddant yn cael eu cadw cyhyd ag y cedwir unrhyw ddogfennau cysylltiedig.

Os byddwch yn gwneud cais am swydd yn Llywodraeth Cymru

Yr unig ddefnydd a wnawn o’r wybodaeth y byddwch yn ei rhoi i ni yn ystod y broses recriwtio fydd er mwyn cysylltu â chi i fwrw ymlaen â’ch cais, neu i fodloni gofynion cyfreithiol neu reoleiddiol lle bo angen.

Byddwn yn defnyddio’r manylion cyswllt a roddwch i ni er mwyn cysylltu â chi i fwrw ymlaen â’ch cais. Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth arall a roddwch inni yn ystod y broses recriwtio i asesu pa mor addas yr ydych ar gyfer y swydd yr ydych wedi ymgeisio amdani.

Byddwn hefyd yn gofyn ichi am eich profiad blaenorol, eich cymwysterau a/neu eich addysg ac am fanylion canolwyr y gallem gysylltu â nhw pe baem yn gwneud cynnig amodol o swydd ichi. Yn ystod y broses recriwtio, byddwn hefyd yn gofyn ichi am atebion i gwestiynau sy’n berthnasol i’r swydd yr ydych wedi ymgeisio amdani. Bydd gan staff yn ein timau recriwtio Adnoddau Dynol fynediad at yr holl wybodaeth hon.

Gofynnir hefyd ichi roi gwybodaeth am gyfle cyfartal. Nid yw’n orfodol ichi roi’r wybodaeth hon - os na wnewch chi hynny, ni fydd yn effeithio ar eich cais. Ni fydd yr wybodaeth ar gael i unrhyw staff y tu allan i’n tîm recriwtio, gan gynnwys y rheolwyr sy’n recriwtio, mewn unrhyw ffordd a allai ddangos pwy ydych. Yr unig ddefnydd a wneir o’r wybodaeth a ddarperir gennych fydd er mwyn cynhyrchu a monitro ystadegau am gyfle cyfartal.

Os byddwn yn gwneud cynnig amodol o swydd ichi, byddwn yn gofyn ichi am wybodaeth er mwyn gallu cynnal gwiriadau cyn cyflogi. Rhaid i’r gwiriadau cyn cyflogi hyn gael eu cynnal yn llwyddiannus cyn y gallwch gael cynnig terfynol o swydd yn Llywodraeth Cymru. 

Os byddwn yn gwneud cynnig terfynol o swydd ichi, byddwn hefyd yn gofyn ichi am ragor o wybodaeth, megis manylion cyfrif banc, unwaith y byddwch wedi derbyn y cynnig.

Weithiau bydd trydydd partïon yn darparu elfennau o’n gwasanaeth recriwtio ar ein rhan. Rydym wedi sefydlu contractau gyda’n proseswyr data trydydd parti. Mae hynny’n golygu na chânt wneud dim byd â’ch gwybodaeth bersonol oni bai ein bod wedi rhoi cyfarwyddyd iddynt wneud hynny. Ni fyddant yn rhannu’ch gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad heblaw ni. Byddant yn ei storio’n ddiogel ac yn ei gadw am gyfnod penodol, yn unol â’n cyfarwyddyd ni. 

Bydd yr holl wybodaeth a ddarperir yn ystod y broses recriwtio yn cael ei chadw yn unol â’r meini prawf a nodir yn rhestr cadw a gwaredu Llywodraeth Cymru.

Mae disgrifiad llawn o’r broses recriwtio ar gael ar y dudalen recriwtio.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych hawl:

  • i gael gwybod pa ddata personol a gedwir amdanoch gan Lywodraeth Cymru a chael gafael arnynt
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’r data gael eu prosesu neu i gyfyngu ar hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu dileu
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data

Cysylltiadau

I gael gwybod rhagor am yr wybodaeth a gedwir gan Lywodraeth Cymru a’r defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Manylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Y Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Rhif ffôn: 0303 123 1113