Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Heddiw, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Datganiad Cyllidol wrth i brisiau cynyddol, costau ynni a phwysau ar gyflogau barhau i gael effaith ddifrifol ar aelwydydd, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ar draws y wlad.
Mae’r mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad y Canghellor heddiw yn hollol annheg ac yn methu â thargedu cymorth ystyrlon at yr aelwydydd sydd ei angen fwyaf. Mae Dadansoddi Cyllid Cymru wedi nodi, yng nghyd-destun Cymru, y bydd bron i 90% o’r buddion yn mynd i aelwydydd yn y 50% uchaf o’r dosbarthiad incwm, gyda 40% yn mynd i aelwydydd yn y 10% uchaf.
Ni chysylltodd Llywodraeth y DU ymlaen llaw â ni i drafod unrhyw rai o’r newidiadau hyn, gan gynnwys newidiadau i feysydd trethu sydd wedi’u datganoli i Gymru. Bydd angen inni ddadansoddi goblygiadau’r rhain.
Wrth i’r DU agosáu at ddirwasgiad, dylai Llywodraeth newydd y DU fod wedi canolbwyntio ar gyfleoedd i fuddsoddi mewn pobl a rhaglenni sy’n rhoi sefydlogrwydd economaidd. Yn hytrach, wrth i werth y bunt ostwng o’i chymharu â doler yr Unol Daleithiau i lefelau na welwyd mewn bron i 40 mlynedd, ychydig iawn o hyder sydd yna yn rheolaeth y llywodraeth newydd hon dros yr economi.
Llywodraeth y DU sydd â’r ysgogiadau ariannol allweddol i wneud gwahaniaeth a dylai fod wedi manteisio ar y cyfle i dargedu cymorth yn fwy. Drwy gael gwared ar y cap ar fudd-daliadau a’r cyfyngiad dau blentyn, gallai teuluoedd ar draws y DU gyfan fod wedi cael eu cefnogi’n well yn yr argyfwng hwn, gan roi’r dechrau gorau i fywyd i blant. Yn hytrach, mae’r Canghellor yn credu ei bod yn briodol bygwth pobl â sancsiynau i’w budd-daliadau am beidio â gwneud ail swydd ran-amser ar yr isafswm cyflog. Dylai Llywodraeth y DU hefyd fod wedi cymryd camau allweddol eraill a fyddai wedi cael effaith gadarnhaol, megis cynyddu cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a chynyddu cyllid ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai.
Yn ei ddatganiad, mae’r Canghellor wedi dewis diogelu elw helaeth cwmnïau ynni mawr, sy’n elw heb ei ennill, a thorri trethi i’r rhai sy’n ennill yr incwm mwyaf, ar draul aelwydydd incwm is. Yr aelwydydd incwm is hynny fydd nawr yn gorfod ysgwyddo effaith lefelau benthyca uwch gan y llywodraeth am flynyddoedd i ddod. Mae hyn yn hollol annheg.
Collodd Llywodraeth y DU gyfle heddiw i amlinellu gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer buddsoddi er mwyn hybu twf economaidd, diogelu ein ffynonellau ynni yn well at y dyfodol a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Methodd y datganiad â darparu’r ysgogiad cyfalaf sydd ei angen i gefnogi buddsoddi mewn ynni gwyrdd a datgarboneiddio.
Gwrthododd y Canghellor adael i’r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ddarparu rhagolwg ariannol cyn y datganiad heddiw. Mae’r rhagolygon hyn yn cynnig arwydd hanfodol o sefyllfa ariannol y DU, ac mae peidio â gadael iddynt gael eu cyhoeddi yn anghyfrifol. Yn absenoldeb hynny, ar sail gwaith gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a rhagolygon annibynnol newydd a gyhoeddwyd gan Drysorlys Ei Fawrhydi, mae gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru dros y setliad 3 blynedd presennol hyd at £4bn yn llai mewn termau real na’r disgwyl pan wnaed y setliad hwnnw.
Nid yw’r datganiad hwn wedi gwneud unrhyw beth i leddfu’r pwysau ar ein Cyllideb, nac i liniaru pwysau cyffredinol chwyddiant a chyflogau ar wasanaethau cyhoeddus hanfodol. Rydym yn debygol o orfod wynebu dewisiadau hynod o anodd wrth inni ddechrau llunio ein cyllideb sydd ar ddod.
Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn y Senedd yr wythnos nesaf i roi rhagor o fanylion am oblygiadau’r datganiad heddiw i Gymru.