Mae gwybodaeth faint o arian sydd ar gael gan unigolion yn y sector aelwydydd ar gyfer gwario neu gynilo ar ôl i fesurau dosbarthiad incwm ddod yn weithredol ar gyfer 2020.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Incwm aelwydydd crynswth i'w wario rhanbarthol
Mae’r data diweddaraf yn yr adroddiad hwn yn berthnasol i 2020. Mae’r adroddiad yn cwmpasu cyfnod cynnar y pandemig coronafeirws (COVID-19).
Prif bwyntiau
- Roedd incwm gwario gros aelwydydd (GDHI) yng Nghymru yn £17,592 y pen yn 2020, 82.1% o ffigur y DU, i fyny 0.9 pwynt canran o'i gymharu â’r DU yn 2019.
- Roedd GDHI y pen yng Nghymru yn 2020 y trydydd isaf o blith gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
- Rhwng 2019 a 2020 gwelodd Cymru’r cynnydd canrannol mwyaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, i fyny 0.9%, o'i gymharu â gostyngiad o 0.2% ar gyfer y DU. Gwelwyd yr ail gynnydd uchaf yng Ngogledd Orllewin Lloegr (i fyny 0.9%) (yn seiliedig ar ddata heb dalgrynnu).
- Ers 1999, gwelodd Cymru’r trydydd cynnydd canrannol isaf o’i GDHI y pen o wledydd y DU a rhanbarthau Lloegr, cynnydd o 77.8%, o'i gymharu â 86.5% ar draws y DU.
Mae data ar gyfer ardaloedd daearyddol is (gan gynnwys awdurdodau lleol) ar gael ar wefan y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.