Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae bron i ddwy flynedd a hanner wedi pasio ers i Sefydliad Iechyd y Byd ddatgan pandemig coronafeirws byd-eang. Er ein bod wedi symud y tu hwnt i’r ymateb argyfwng i’r pandemig yng Nghymru ac yn dechrau ymdrin â’r feirws a Covid-19 fel unrhyw salwch anadlol tymhorol arall, mae nifer fawr o bobl yn parhau i ddioddef effaith hirdymor haint Covid-19 – y cyfeirir ato’n fwy cyffredin fel Covid hir.
Rydym wedi nodi’n glir y bydd parhau i gefnogi’r bobl sy’n dioddef o effeithiau hirdymor Covid-19, ac yn gwella o’r effeithiau hyn, yn flaenoriaeth uchel i ni ac i’r GIG.
Gwnaethom lansio’r rhaglen Adferiad ym mis Mehefin 2021 ac rydym wedi rhoi £10m i fyrddau iechyd ar gyfer datblygu gwasanaethau i bobl gyda Covid hir. Ym mis Chwefror, rhoddais ddiweddariad am adolygiad chwe mis cyntaf y rhaglen a dywedais y byddwn yn adolygu’r rhaglen bob chwe mis. Heddiw mae'r adroddiad gwerthuso nesaf yn cael ei gyhoeddi (Saesneg yn unig).
Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cymryd rhan yn yr adolygiad hwn, yn enwedig y rheini sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau ac wedi elwa ohonynt.
Mae’r adolygiad wedi canfod fod y model amlbroffesiynol integredig o wasanaethau adfer a ddarperir yn lleol yn parhau i ddiwallu anghenion y mwyafrif o bobl â Covid hir sydd wedi defnyddio’r gwasanaethau hyn.
Mae’r gefnogaeth broffesiynol ac emosiynol a ddarperir gan staff yn cael ei werthfawrogi’n fawr, yn yr un modd â chyfleoedd i gael cymorth gan bobl eraill â Covid hir.
Ond mae’r adolygiad wedi nodi nad yw’r gwasanaethau hyn yn gweithio gystal ag yr hoffem ar gyfer pawb. Roedd nifer fach o bobl yn teimlo y gallai’r gwasanaethau fod wedi’u teilwra’n well i ddiwallu eu hanghenion unigol.
Bydd yr adborth gwerthfawr hwn yn helpu byrddau iechyd i gynllunio eu gwasanaethau i sicrhau bod pobl yn cael y gofal, y driniaeth a’r cymorth gorau posibl.
Rydym yn gwybod mwy am Covid hir erbyn hyn nag yr oeddem chwe mis yn ôl, ond mae llawer o gwestiynau heb eu hateb a phethau nad ydym yn eu deall yn iawn, gan gynnwys pam y mae rhai pobl yn gwella yn gyflymach na’i gilydd; pam y mae pobl yn cael Covid hir yn wahanol i’w gilydd a pham y mae pobl yn ymateb i driniaethau’n wahanol.
Fel cyflwr newydd, a llawer o gwestiynau heb eu hateb, mae Covid hir hefyd yn flaenoriaeth ar gyfer ymchwil. Rydym yn gweithio gyda’n cymheiriaid yn y DU i sicrhau y bydd y dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn gwneud gwahaniaeth i driniaethau ac i ddarpariaeth gwasanaethau. Rydym wedi buddsoddi £3m mewn Canolfan Ymchwil Covid-19 newydd i sicrhau bod y dystiolaeth orau, mwyaf cyfredol a mwyaf perthnasol ar gael i iechyd a gofal cymdeithasol i lywio eu penderfyniadau.
Mae’r dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg yn awgrymu y gallai brechlynnau roi peth amddiffyniad yn erbyn Covid hir, a lleihau nifer yr achosion newydd ohono. Wrth inni gyflwyno brechlynnau atgyfnerthu Covid-19 yr hydref, dyma un rheswm arall dros fanteisio ar y cynnig o frechlyn – ar gyfer Covid-19 a’r ffliw tymhorol – y gaeaf hwn.