Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd
Ym mis Mehefin 2021, cyhoeddais y byddai adolygiad yn cael ei gynnal o gynlluniau ffyrdd newydd a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Sefydlwyd y Panel Adolygu Ffyrdd, gyda’i aelodaeth yn cynnwys arbenigwyr annibynnol ym meysydd polisi trafnidiaeth, newid hinsawdd, peirianneg priffyrdd a’r sector cludo llwythi a logisteg. Cafodd ei gadeirio gan Dr Lynn Sloman MBE.
Mae’r panel wedi cyflwyno’i adroddiad terfynol i Lywodraeth Cymru yn cynnwys ei ganfyddiadau ar gyfer pob un o’r cynlluniau ffyrdd a adolygwyd ganddo. Mae hefyd wedi darparu argymhellion a phrofion ar yr amodau lle bernir mai adeiladu ffyrdd newydd yw’r peth iawn i’w wneud.
Mae hwn yn waith cynhwysfawr a manwl, a hoffwn ddiolch i holl aelodau’r panel am eu hamser a’u hymroddiad wrth lunio’r adolygiad sylweddol hwn.
Byddwn nawr yn ystyried cyngor ac argymhellion y panel yn ofalus, yn unol â Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, ein nodau llesiant a gofynion Cymru Sero Net.
Byddaf yn ystyried adroddiad ac argymhellion y panel ochr yn ochr â chyngor swyddogion. Rwy’n bwriadu cyhoeddi adroddiad y panel a’m penderfyniad yn ystod yr hydref, pan fydd y broses hon wedi’i chwblhau.