Cyfarfod y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol: 29 Medi 2022
Agenda ar gyfer Cyfarfod y Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol Rhif 10, 10.00am 29 Medi 2022, Siambr y Cyngor, Canolfan Ddinesig Casnewydd.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Agenda
1. Ymddiheuriadau. 10:00
2. Cyflwyniadau. 10:05
3. Datgan buddiannau. 10:10
4. Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mai 2022, a materion yn codi. 10:15
5. Cyhoeddiadau’r Cadeirydd. 10:20
6. Eitemau o’r Grwpiau Rhanbarthol. 10:25
7. Cyflwyniadau o Grŵp De-ddwyrain Cymru:
- 7.1 Asesiad Strategol Rhanbarthol o Ganlyniadau Llifogydd – Owen Jones, Rheolwr Gwasanaethau Datblygu (Polisi Cynllunio), Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf / George Baker, Cyfarwyddwr Cyswllt, JBA Consulting. 10:40
- 7.2 Cynllun Lliniaru Llifogydd Park Lane, Aberdâr – Owen Griffiths, Rheolwr Perygl Dŵr, Llifogydd a Thomenni, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. 11:00
---------Egwyl--------- 11:20
8. Adolygiad o Bolisi Gwytnwch Eiddo rhag Llifogydd Llywodraeth Cymru – Bethlyn Jones, JBA Consulting, a Sara Taylor, Is-adran Dŵr, Llifogydd a Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru. 11:30
9. Adroddiadau
- 9.1 Yr Is-bwyllgor Polisi a Deddfwriaeth – Derbyn yr adroddiad terfynol a chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mehefin 2022. 11:55
- 9.2 Yr Is-bwyllgor Adnoddau – Derbyn cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 Mehefin 2022 a 6 Medi 2022. 12:25
---------Egwyl cinio--------- 12:40
- 9.3 Yr wybodaeth ddiweddaraf gan Fforwm Grwpiau Arfordirol Cymru – David Harris. 13:20
- 9.4 Yr wybodaeth ddiweddaraf am Nodyn Cyngor Technegol 15 – Jonathan Fudge, Cyfarwyddiaeth Gynllunio, Llywodraeth Cymru. 13:45
- 9.5 Rhaglen Waith y Pwyllgor – Derbyn adroddiad cynnydd y cadeirydd ar y Rhaglen Waith, ac ystyried yr argymhelliad y dylid cymeradwyo’r Rhaglen Waith ddiweddaredig. 14:05
- 9.6 Adroddiad Blynyddol Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Cynllun Rheoli Perygl Llifogydd – Jeremy Parr a Ross Akers, Rheolwr, Buddsoddi a Chynllunio Strategol ar gyfer Perygl Llifogydd. 14:20
---------Egwyl--------- 14:50
10. Penderfyniad i wahardd aelodau o’r cyhoedd pan fyddai cyhoeddusrwydd yn niweidiol i fudd y cyhoedd oherwydd natur gyfrinachol y busnes sydd i’w drafod.
11. Gofynion Buddsoddi dros yr Hirdymor – Jeremy Parr, Ross Akers, a Dafydd Sidgwick, Cynghorydd Arbenigol Arweiniol, Buddsoddi a Chynllunio Strategol ar gyfer Perygl Llifogydd. 15:00
12. Y Sefyllfa o ran Rheoli Perygl Llifogydd yng Nghymru – Verity Winn, Arweinydd Archwilio Perfformiad, a Seth Newman, Uwch-archwilydd, Archwilio Cymru. 15:25
13. Unrhyw fusnes arall yr hysbyswyd y cadeirydd amdano yn flaenorol. 15:50
14. Dyddiad a lleoliad y cyfarfod nesaf – Dydd Iau, 26 Ionawr 2023, dros Microsoft Teams (rhithwir).
Diwedd 15:55