Diweddariad 1 argymhellion chwe mis archwiliad dwfn ynni adnewyddadwy - Arloesi
Canlyniad yr ymarfer i nodi cyfleoedd i gynyddu ynni adnewyddadwy yn sylweddol yng Nghymru.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
21. Rhanddirymiad Rheoleiddiol yng Nghymru gydag Ofgem
Argymhelliad
Byddwn yn galw ar Ofgem i ddatblygu rhanddirymiad rheoleiddiol yng Nghymru i alluogi arloesedd modelau busnes ynni i gefnogi argymhellion ehangach yr Ymchwiliad Dwfn Ynni Adnewyddadwy. Dylai amcanion y rhanddirymiad gynnwys:
- Cyflymu graddfa ynni adnewyddadwy yng Nghymru
- Galluogi arloesi modelau busnes ynni
- Gwireddu manteision a chyd-fanteision ehangach ynni adnewyddadwy (o safbwynt Cymru a systemau ynni)
- Datgloi gwerth y system ynni, fel y gwerth o hyblygrwydd galw cwsmeriaid a defnyddwyr rhwng cyfoedion i fasnachu a chyflenwi trydan lleol
- Ymgysylltu'n well a diogelu buddiannau dinasyddion Cymru.
Prif uchafbwyntiau / cerrig milltir
Mae'r argymhelliad hwn ar y gweill ac mae'n gysylltiedig ag argymhelliad 6.
Ymhlith yr uchafbwyntiau allweddol ers yr archwiliad dwfn mae:
- Ymgysylltu Gweinidogol a swyddogol ag Ofgem ynghylch arloesi ac ystyried opsiynau rheoleiddiol yng Nghymru;
- Gweithio gydag is-grŵp o aelodau yr archwiliad dwfn er mwyn cwestiynu'r rhwystrau i arloesi yng Nghymru yn ogystal ag ystyried amcanion Pensaer Systemau Ynni Cymru (argymhelliad 6).
Camau nesaf at gwblhau
Bydd yr argymhelliad hwn yn parhau i fod yn flaenoriaeth barhaus i Lywodraeth Cymru. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer y 6 mis nesaf yn cynnwys:
- Defnyddio cynlluniau ynni lleol (argymhelliad 2) i nodi cyfres o heriau i'r cyfundrefnau rheoleiddio ac ariannu fel tystiolaeth i'w cyflwyno i Ofgem am ddatrysiad credadwy;
- Llunio ymhellach amcanion Pensaer Systemau Ynni Cymru fel modd posib o brofi a hyrwyddo arloesedd yng Nghymru.