Y Prif Weinidog Mark Drakeford AS
Heddiw, rwy'n cyhoeddi fersiwn wedi’i diweddaru o’r ddogfen Cyfrifoldebau’r Gweinidogion, sy'n nodi rhai newidiadau bach i bortffolios y Gweinidogion.
Mae gennym raglen uchelgeisiol iawn o’n blaenau o ran diwygio trafnidiaeth, a llawer o waith i’w wneud yn y maes hwn dros y misoedd nesaf. Felly, bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn canolbwyntio ar drafnidiaeth am y tro.
Bydd rhai o’r cyfrifoldebau yn y portffolio newid hinsawdd yn cael eu trosglwyddo i Weinidogion eraill.
Bydd y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru a'r Trefnydd yn dod yn gyfrifol am ansawdd yr amgylchedd lleol; diogelu a rheoli bywyd gwyllt; rhandiroedd a seilwaith gwyrdd trefol; mannau gwyrdd cymunedol; mynediad i gefn gwlad, yr arfordir a hawliau tramwy; ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol a chreu parc cenedlaethol newydd ym Mryniau Clwyd, yn ychwanegol at ei chyfrifoldebau presennol.
Bydd y cyfrifoldeb am bolisi digidol a chysylltedd digidol yn symud i bortffolio Gweinidog yr Economi.
Mae copi o'r ddogfen Cyfrifoldebau’r Gweinidogion wedi'i diweddaru wedi ei atodi.