Yr aelodaeth
Bydd yr aelodaeth yn cynnwys sefydliadau sy'n adlewyrchu cwmpas a gorwelion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r agenda datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
Mae'r aelodau o'r fforwm wedi eu dewis o wahanol sectorau, gyda'r nod o ddarparu cydbwysedd rhwng sefydliadau sy'n gweithio ar draws yr agweddau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn ogystal â chydbwysedd rhwng y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.
Ymhlith yr aelodau y mae:
- Cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Lleol (gwahoddiad drwy Gydffederasiwn GIG Cymru)
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Chwaraeon Cymru
- Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (x1 cadeirydd)
- TUC Cymru
- Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru
- Rhwydwaith Canolfan Arbenigedd Rhanbarthol Cymru (Rhwydwaith prifysgol ar Ddatblygu Cynaliadwy)
- Cyswllt Amgylchedd Cymru
- Yr Eisteddfod Genedlaethol
- Anabledd Cymru
- Cynghrair Hil Cymru
- Ffederasiwn Busnesau Bach
- CBI Cymru
- Cynrychiolydd Awdurdod Lleol (drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru)
- Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
- Cyd-gynhyrchu Cymru
- Cynnal Cymru
- Un Llais Cymru
- Busnes yn y Gymuned
- Plant yng Nghymru
- Trafnidiaeth Cymru
- Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru
Aelodau ad hoc ychwanegol
Yn dibynnu ar y pwnc dan sylw, gellir estyn gwahoddiad i unigolion eraill gymryd rhan yn y fforwm neu draddodi iddo.
Gwahoddir Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru i gymryd rhan yn y fforymau hyn o ystyried eu rôl statudol mewn cysylltiad â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Estynnir gwahoddiad i Gomisiynydd y Gymraeg, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Comisiynydd Plant Cymru a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol hefyd, ond byddant yn cymryd rhan ar wahân ar ben hynny drwy drefniadau sydd eisoes ar waith.