Telerau ac amodau contract Awdurdod Cyllid Cymru am wasanaethau
Y telerau a’r amodau safonol rydym yn eu defnyddio wrth ddyfarnu contractau caffael ar gyfer y gwaith o gyflenwi nwyddau a gwasanaethau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Dehongliad
1.1. Yn y telerau ac amodau hyn:
Mae ‘cytundeb’ yn golygu’r contract rhwng:
- y Cwsmer yn gweithredu fel rhan o’r Goron, a’r
- Cyflenwr a gafodd ei benodi dan gyfarwyddyd y Cyflenwr ar gyfer y Llythyr Dyfarnu ac yn cynnwys y Llythyr Dyfarnu a’r Atodiadau.
Mae ‘Llythyr Dyfarnu’ yn cyfeirio at y llythyr gan y Cwsmer i’r Cyflenwr a argraffwyd uwchben y telerau ac amodau hyn.
Mae ‘Corff Llywodraeth Ganolog’ yn golygu corff a restrir yn un o’r is-gategorïau canlynol yng Nghanllaw Dosbarthiad y Sector Cyhoeddus, a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol sy’n ei ddiweddaru o bryd i’w gilydd:
- Adran o’r Llywodraeth
- Corff Cyhoeddus Anadrannol neu Gorff Cyhoeddus a Noddir gan y Cynulliad (ymgynghori, gweithredol neu dribiwnlys)
- Adran Anweinidogol
- Asiantaeth Weithredol
Mae ‘taliadau’ yn cyfeirio at gostau’r Gwasanaethau fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu
Mae ‘Gwybodaeth Gyfrinachol’ yn golygu gwybodaeth (sut bynnag y caiff ei chyfleu neu ym mha gyfrwng bynnag y caiff ei storio) y byddai ei datgelu yn gyfystyr ag achos o dor-cyfrinachedd y gellir dwyn achos yn ei gylch ac sydd naill ai wedi'i dynodi'n gyfrinachol gan y naill Barti neu'r llall yn ysgrifenedig neu y dylid ystyried ei bod yn destun dyletswydd cyfrinachedd ac mae'n cynnwys Data Personol ac unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â busnes, materion, eiddo, asedau, arferion masnachu, datblygiadau, cyfrinachau masnach, Hawliau Eiddo Deallusol, gwybodaeth ymarferol, personél, cwsmeriaid a chyflenwyr y naill Barti neu'r llall ond nid yw'n gyfyngedig iddynt;
Ystyr ‘Cwsmer’ yw’r person a enwir yn Gwsmer yn y Llythyr Dyfarnu.
Mae ‘Digwyddiad Colli Data’ yn golygu toriad diogelwch sy’n arwain at ddinistrio damweiniol neu anghyfreithlon, colled, addasiad, datgelu heb awdurdod, neu fynediad at, Ddata Personol sy’n cael eu trosglwyddo, eu storio neu eu prosesu.
Mae ‘Cais Gwrthrych am Ddata’ yn golygu cais a wneir gan neu ar ran Gwrthrych Data yn unol â hawliau a roddwyd yn unol â’r Ddeddfwriaeth Diogelu Data i gael mynediad at eu Data Personol.
Mae ‘DPA’ yn cyfeirio at y Ddeddf Diogelu Data 2018.
‘Rhif Cyfeirnod ESI’ yw’r rhif cyfeirnod ESI 14 digid o grynodeb y twlsyn ESI.
Y ‘twlsyn Gwirio Statws Cyflogaeth neu’r twlsyn ESI’ yw twlsyn Gwirio Statws Cyflogaeth CThEM. Mae’n rhaid defnyddio’r fersiwn ddiweddaraf. Ar adeg y drafftio, gellir dod o hyd i’r twlsyn yma: https://www.gov.uk/guidance/check-employment-status-for-tax.cy
Mae ‘Dyddiad Dod i Ben’ yn golygu’r dyddiad y mae’r Cytundeb yn dod i ben fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu.
Mae ‘FOIA’ yn cyfeirio at y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000.
Mae ‘GDPR’ yn cyfeirio at y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
Mae ystyr ‘Gwybodaeth’ wedi’i nodi o dan adran 84 y FOIA.
Gelwir ‘IR35’ yn ‘Ddeddfwriaeth Cyfryngwyr’. Mae’n gyfres o reolau sy’n effeithio ar dreth ac Yswiriant Gwladol lle mae Cyflenwr yn cael ei gontractio i weithio i Gwsmer drwy Gyfryngwr.
Mae ‘Parti’ yn cyfeirio at y Cyflenwr neu’r Cwsmer (fel y bo’n briodol) a bydd 'Partïon' yn cyfeirio at y ddau ohonynt.
Mae ‘Data Personol’ yn golygu data personol (fel y’i diffinnir yn y GDPR) a brosesir gan y Cyflenwr neu unrhyw is-gontractwr neu unrhyw Staff ar ran y Cwsmer yn unol â’r neu mewn cysylltiad â’r Cytundeb hwn.
Mae ‘Rhif yr Archeb Brynu’ yn cyfeirio at rif unigryw’r Cwsmer mewn perthynas â chyflenwi Gwasanaethau.
Mae ystyr ‘Cais am Wybodaeth’ wedi’i nodi yn y FOIA neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 fel y bo’n berthnasol (lle bydd yr ystyr a nodir ar gyfer y term ‘cais’ yn berthnasol).
Mae ‘Gwasanaethau’ yn cyfeirio at y gwasanaethau i’w darparu gan y Cyflenwr i’r Cwsmer dan amodau’r Cytundeb.
Mae ‘Manyleb’ yn cyfeirio at y fanyleb ar gyfer y Gwasanaethau (gan gynnwys maint, disgrifiad ac ansawdd) fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu.
Mae ‘Staff’ yn cyfeirio at bob cyfarwyddwr, swyddog, gweithiwr, asiant, ymghynghorwr a chontractwr y Cyflenwr a/neu unrhyw is-gontractwyr y Cyflenwr sy’n rhan o rwymedigaethau’r Cyflenwr o dan y Cytundeb.
Mae ‘Gweithdrefnau Fetio Staff’ yn cyfeirio at weithdrefnau fetio yn unol ag arferion diwydiannol da neu, lle bo hynny’n berthnasol, gweithdrefnau’r Cwsmer ar gyfer fetio personél fel y darperir i’r Cyflenwr o bryd i’w gilydd.
Mae ‘Cyflenwr’ yn cyfeirio at y person a enwir fel Cyflenwr yn y Llythyr Dyfarnu.
Mae ‘Tymor’ yn cyfeirio at y cyfnod o ddyddiad cychwyn y Cytundeb a nodir yn y Llythyr Dyfarnu i’r Dyddiad Dod i Ben fel cyfnod a all gael ei ymestyn yn unol â chymal 4.2 neu ei derfynu yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb.
Mae ‘TAW’ yn cyfeirio at y dreth ar werth yn unol â darpariaethau'r Ddeddf Treth ar Werth 1994.
Mae ‘Diwrnod Gwaith’ yn cyfeirio at ddiwrnod (oni bai am ddydd Sadwrn a dydd Sul) y mae banciau ar agor ar gyfer busnes yn Ninas Llundain.
1.2. Mae’r canlynol yn berthnasol i’r telerau ac amodau hyn, oni bai bod gofynion y cyd-destun yn wahanol:
- mae cyfeiriadau at gymalau wedi’u rhifo yn gyfeiriadau at y cymal perthnasol yn y telerau a’r amodau hyn;
- dylai unrhyw rwymedigaeth ar unrhyw Barti i beidio â gwneud neu i beidio â gwneud unrhyw beth gynnwys rhwymedigaeth i beidio â chaniatáu i’r peth hwnnw gael ei wneud neu beidio â’i wneud;
- mae’r penawdau a chymalau'r telerau ac amodau hyn er gwybodaeth yn unig ac nid ydynt yn effeithio ar ddehongliad o’r Cytundeb;
- mae unrhyw gyfeiriadaeth at ddeddfiad yn cynnwys cyfeiriad at y deddfiad hwnnw fel y’i diwygiwyd neu fel y’i disoldlwyd o bryd i’w gilydd ac at unrhyw is-ddeddfwriaeth neu is-ddeddf a wneir o dan y deddfiad hwnnw; a
- dylid deall mai ystyr ‘gan gynnwys’ yw ‘yn cynnwys heb gyfyngiad’.
2. Sail y cytundeb
2.1. Mae’r Llythyr Dyfarnu yn gynnig gan y Cwsmer i brynu’r Gwasanaethau sy’n ddarostyngedig i ac yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb.
2.2. Ystyrir bod y cynnig sy’n rhan o’r Llythyr Dyfarnu wedi’i dderbyn gan y Cyflenwr werth iddo dderbyn copi o’r Llythyr Dyfarnu gan y Cwsmer sydd wedi’i gydlofnodi gan y Cyflenwr o fewn 5 diwrnod o ddyddiad y Llythyr Dyfarnu.
3. Cyflenwi gwasanaethau
3.1. Fel ystyriaeth o gytundeb y Cwsmer i dalu’r Taliadau, bydd y Cyflenwr yn cyflenwi’r Nwyddau i’r Cwsmer am y Tymor yn ddarostyngedig i ac yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb.
3.2. Wrth gyflenwi’r Gwasanaethau, bydd y Cyflenwr yn:
- cydweithredu gyda’r Cwsmer ym mhob mater sy’n ymwneud â’r Gwasanaethau ac yn cydymffurfio gyda holl gyfarwyddiadau’r Cwsmer;
- cyflawni’r Gwasanaethau gyda phob gofal rhesymol, sgìl a diwydrwydd yn unol ag arferion diwydiannol da yn niwydiant, proffesiwn neu fasnach y Cyflenwr;
- defnyddio Staff sydd â’r sgiliau priodol a’r profiad i gwblhau’r tasgau a roddir iddyn nhw, a sicrhau bod nifer digonol ohonynt ar gael i sicrhau bod rhwymedigaethau’r Cyflenwr yn cael eu cwblhau yn unol â’r Cytundeb;
- sicrhau y bydd y Gwasanaethau’n cydymffurfio â holl ddisgrifiadau a manylebau a nodir yn y Fanyleb;
- cydymffurfio â phob deddf berthnasol; ac
- yn darparu’r holl offer, adnoddau, cerbydau ac eitemau eraill fel sy’n ofynnol i ddarparu’r Gwasanaethau.
3.3. Gall y Cwsmer, drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r Cyflenwr, ar unrhyw adeg, ofyn am amrywiad i sgôp y Gwasanaethau. Os bydd y Cyflenwr yn cytuno i amrywio sgôp y Gwasanaethau, bydd y Taliadau yn ddarostyngedig i addasiad teg a rhesymol i’r Cwsmer a’r Cyflenwr gytuno arno yn ysgrifenedig.
4. Tymor
4.1. Bydd y Cytundeb yn dod i rym ar y dyddiad a nodir yn y Llythyr Dyfarnu a bydd yn dod i ben ar y Dyddiad Dod i Ben, oni bai ei fod fel arall yn cael ei ymestyn yn unol â chymal 4.2 neu ei derfynu yn unol â thelerau ac amodau’r Cytundeb.
4.2. Gall y Cwsmer ymestyn y Cytundeb am gyfnod o hyd at 6 mis drwy roi rhybudd o ddim llai na 10 Diwrnod Gwaith i’r Cyflenwr, a hynny’n ysgrifenedig, cyn y Dyddiad Dod i Ben. Bydd telerau ac amodau’r Cytundeb yn berthnasol drwy gydol unrhyw gyfnod estynedig o’r fath.
5. Taliadau, talu ac adennill symiau sy'n ddyledus
5.1. Bydd y Taliadau am y Gwasanaethau fel y nodir yn y Llythyr Dyfarnu a bydd hyn yn gydnabyddiaeth ariannol llawn ac unigryw'r Cyflenwr mewn perthynas â chyflenwi’r Nwyddau. Oni bai bod y Cwsmer yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig, bydd y Taliadau yn cynnwys pob cost a threuliau’r Cyflenwr yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol a godwyd mewn cysylltiad â darparu’r Gwasanaethau.
5.2. Bydd y Cyflenwr, ar bob adeg, yn cydymffurfio â Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (ITEPA) ac unrhyw statudau a rheoliadau eraill sy’n ymwneud â threth incwm mewn perthynas â’r hyn sydd dan ystyriaeth.
5.3. Bydd y Cyflenwr bob amser yn cydymffurfio â Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (SSCBA) ac unrhyw statudau a rheoliadau eraill mewn perthynas â Chyfraniadau Yswiriant Gwladol mewn perthynas â’r hyn sydd dan ystyriaeth.
5.4. Caiff y Cwsmer, ar unrhyw adeg yn ystod tymor y contract, ofyn i’r Cyflenwr rhoi gwybodaeth sy’n dangos sut y mae’n cydymffurfio â Chymalau 5.2 a 5.3 uchod neu i ddangos pam nad yw’r Cymalau hynny’n berthnasol.
5.5. Gall y Cwsmer gynnal Asesiadau IR35 gan ddefnyddio twlsyn ESI CThEM er mwyn asesu a yw ymgysylltiad y Cyflenwr o dan y Contract O Dan neu’r Tu Allan i IR35. Bydd y Cwsmer yn didynnu unrhyw dreth incwm, cyfraniad yswiriant gwladol a threth, ffi neu dâl arall o’r fath arall sydd angen eu didynnu yn unol â Deddfwriaeth o unrhyw swm sy’n daladwy i’r Cyflenwr llwyddiannus. Ar ôl dewis y Cyflenwr llwyddiannus, bydd y Cwsmer yn penderfynu a fydd yn ofynnol iddo wneud didyniadau o’r fath ac yn cynghori’r cyflenwr cyn dyfarnu’r contract.
5.6. Nid yw’r symiau a nodir yn cynnwys TAW a fydd yn cael ei godi ar y gyfradd sy’n bodoli ar y pryd. Bydd y Cwsmer, ar ôl derbyn anfoneb TAW dilys, yn talu swm sy’n hafal i’r TAW sy’n daladwy mewn perthynas â’r Gwasanaethau, i’r Cyflenwr.
5.7. Bydd y Cyflenwr yn anfonebu’r Cwsmer fel y nodir yn y Cytundeb. Bydd pob anfoneb yn cynnwys y wybodaeth ategol sy’n ofynnol gan y Cwsmer er mwyn gwirio cywirdeb yr anfoneb, gan gynnwys Rhif yr Archeb Brynu ac amlinelliad o’r Gwasanaethau a gyflenwyd yn ystod cyfnod yr anfoneb.
5.8. Wrth ystyried y gwaith o gyflenwi’r Gwasanaethau gan y Cyflenwr, bydd y Cwsmer yn talu’r symiau sydd yn yr anfoneb i’r Cyflenwr o fewn 30 diwrnod ar ôl gwirio bod yr anfoneb yn ddilys ac nad yw’n cael ei herio a’i fod yn cynnwys Rhif yr Archeb Brynu cywir. Gall y Cwsmer, heb effeithio ar unrhyw hawliau a rhwymedïau eraill o dan y Cytundeb, leihau neu ddal taliadau yn ôl os nad yw’n fodlon gyda’r gwaith sydd wedi’i ddarparu.
5.9. Os nad yw’r Cwsmer yn gallu ystyried a dilysu anfoneb yn amserol, ystyrir yr anfoneb yn ddilys ac nad yw’n cael ei herio at ddiben paragraff 5.8. ar ôl i gyfnod rhesymol fynd heibio.
5.10. Os oes anghydfod rhwng y Partïon ynglŷn â'r swm a anfonebir, bydd y Cwsmer yn talu’r swm nad yw’n cael ei herio. Ni fydd y Cyflenwr yn stopio cyflenwi’r Gwasanaethau oni bai bod gan y Cyflenwr yr hawl i derfynu’r Cytundeb oherwydd methiant i dalu symiau nad ydynt yn cael ei herio yn unol â chymal 17.3. Bydd unrhyw symiau sy’n rhan o’r anghydfod yn cael eu datrys drwy’r weithdrefn datrys anghydfod a fanylir yng nghymal 19.
5.11. Os na fydd y Cwsmer yn talu’r swm nad yw’n cael ei herio erbyn y dyddiad dyledus, yna bydd y Cwsmer yn talu llog i’r Cyflenwr ar y gyfradd llog a bennir yn y Ddeddf Talu Dyledion Masnachol yn Hwyr (Llog) 1998.
5.12. Pan fydd y Cyflenwr yn llunio is-gontract, bydd y Cyflenwr yn cynnwys y canlynol yn yr is-gontract hwnnw:
- darpariaethau â’r un effeithiau â chymalau 5 y Cytundeb hwn; a
- darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r is-gontract hwnnw gynnwys unrhyw is-gontract sy’n dyfarnu darpariaethau sydd â’r un effeithiau â chymalau 5 y Cytundeb hwn.
- Yn y cymal hwn, mae ‘is-gontract’ yn golygu contract rhwng 2 neu fwy o gyflenwyr, ar unrhyw bellter oddi wrth yr Awdudod mewn cadwyn is-gontractio, a wnaed yn gyfan gwbl neu i raddau helaeth at ddiben perfformio (neu gyfrannu at y perfformiad) yn gyfan gwbl neu mewn unrhyw ran o’r Cytundeb hwn.
5.13. Os oes unrhyw swm o arian yn adenilladwy gan y Cyflenwr o dan y Cytundeb (gan gynnwys unrhyw swm y mae’r Cyflenwr yn gyfrifol am ei dalu i’r Cwsmer mewn unrhyw achos o dorri’r Cytundeb), gall y swm hwnnw gael ei ddidynnu o unrhyw swm sydd yna’n ddyledus, neu y gall ddod yn ddyledus gan y Cwsmer, i’r Cyflenwr o dan y Cytundeb neu dan unrhyw gytundeb neu gontract arall gyda’r Cwsmer. Ni fydd gan y Cyflenwr yr hawl i fynnu unrhyw gredyd, gwrthgyfrif na gwrth-hawliad yn erbyn y Cwsmer er mwyn cyfiawnhau cadw taliad o unrhyw swm yn ôl yn gyfan gwbl neu’n rhannol.
6. Safle ac offer
6.1. Os bydd angen, bydd y Cwsmer yn rhoi mynediad rhesymol ar adegau rhesymol i’r Cyflenwr i’w safle er mwyn darparu’r Gwasanaethau. Y Cyflenwr fydd yn gyfrifol am yr holl adnoddau, offer a cherbydau y mae’r Cyflenwr neu’r Staff yn eu defnyddio ar y safle.
6.2. Os yw’r Cyflenwr yn darparu’r Gwasanaethau i gyd neu unrhyw ran o’r Gwasanaethau ar neu o safle’r Cwsmer, pan fydd wedi cwblhau’r gwaith o ddarparu’r Gwasanaethau, neu’n terfynu’r Cytundeb neu pan fydd y Cytundeb wedi dod i ben (pa un sydd gynharach), bydd y Cyflenwr yn gadael safle’r Cwsmer, yn cael gwared ar gyfarpar, offer a deunydd nad yw wedi’u defnyddio a phob sbwriel sydd wedi cronni wrth ddarparu’r Gwasanaethau ac yn gadael safle’r Cwsmer yn lân, yn ddiogel ac yn daclus. Bydd y Cyflenwr yn gwbl gyfrifol am drwsio unrhyw ddifrod i safle neu wrthrychau sydd ar safle’r Cwsmer, sydd wedi’i achosi gan y Cyflenwr neu unrhyw Staff, oni bai am draul resymol.
6.3. Os yw’r Cyflenwr yn darparu’r Gwasanaethau i gyd neu unrhyw ran o’r Gwasanaethau ar neu o’i safle ei hun neu ar safle trydydd parti, gall y Cwsmer, yn ystod oriau busnes arferol neu gyda rhybudd rhesymol, arsylwi ac archwilio’r modd y mae’r Gwasanaethau perthnasol yn cael eu darparu or safle perthnasol.
6.4. Bydd y Cwsmer yn gyfrifol am gynnal diogelwch ei safle yn unol â’r gofynion diogelwch safonol. Pan fydd y Cyflenwr ar safle’r Cwsmer, bydd y Cyflenwr yn, ac yn sicrhau bod ei holl Staff yn, cydymffurfio â holl ofynion diogelwch y Cwsmer.
6.5. Os yw pob un o’r Gwasanaethau yn cael eu darparu o safle’r Cwsmer, bydd y Cyflenwr yn, ar ei gost ei hun, cydymffurfio â holl ofynion diogelwch a nodir gan y Cwsmer yn ysgrifenedig.
6.6. Heb effeithio ar gymal 3.2.6, bydd unrhyw offer a ddarperir gan y Cwsmer at ddibenion y Cytundeb yn parhau i fod yn eiddo i’r Cwsmer a dim ond er mwyn gwneud gwaith mewn perthynas â’r Cytundeb y bydd y Cyflenwr a’r Staff yn defnyddio’r offer hynny. Bydd offer o’r fath yn cael eu dychwelyd yn brydlon i’r Cwsmer pan fydd y Cytundeb yn dod i ben neu’n cael ei derfynu.
6.7. Bydd y Cyflenwr yn ad-dalu’r Cwsmer am unrhyw golled neu ddifrod i’r offer (ac eithrio dirywiad sy’n deillio o ddefnydd arferol a phriodol) a achosir gan y Cyflenwr neu unrhyw Staff. Ystyrir bod offer a ddarparwyd gan y Cwsmer mewn cyflwr da pan fydd y Cyflenwr neu Staff perthnasol yn eu derbyn oni bai bod y Cwsmer yn nodi’n wahanol yn ysgrifenedig o fewn 5 Diwrnod Gwaith.
7. Staff a phersonél allweddol
7.1. Os yw’r Cwsmer yn credu’n rhesymol bod unrhyw un o’r staff yn anaddas i ymgymryd â gwaith mewn perthynas â’r Cytundeb, gall, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r Cyflenwr wneud y canlynol:
- gwrthod mynediad i’r person(au) perthnasol i safle’r Cwsmer;
- dweud wrth y Cyflenwr i atal y person(au) perthnasol rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddarparu’r Gwasanaethau a/neu
- ei gwneud yn ofynnol bod y Cyflenwr yn llenwi lle unrhyw berson a gafodd ei atal o dan y cymal hwn gyda pherson cymwys addas arall gan sicrhau y dychwelir unrhyw bas diogelwch a roddwyd gan y Cwsmer i’r person a gafodd ei atal,
a bydd y Cyflenwr yn cydymffurfio ag unrhyw hysbysiad o’r fath.
7.2. Bydd y Cyflenwr yn:
- sicrhau bod yr holl staff yn cael eu fetio yn unol â Gweithdrefnau Fetio Staff ac os gofynnir, eu bod yn cydymffurfio â Gweithdrefnau Fetio Staff fel y’i cyflenwir o bryd i’w gilydd;
- os gofynnir iddynt, yn rhoi rhestr i’r Cwsmer yn cynnwys enwau a chyfeiriadau (ac unrhyw wybodaeth berthnasol) pob person a all fod angen mynediad i safle’r Cwsmer mewn perthynas â’r Cytundeb; ac
- yn sicrhau bod pob aelod o Staff yn cydymffurfio ag unrhyw reolau, rheoliadau a gofynion a bennir yn rhesymol gan y Cwsmer.
7.3. Ni fydd unrhyw Bersonél Allweddol yn cael ei ryddhau o ddarparu’r Gwasanaethau heb gytundeb y Cwsmer, ac eithrio oherwydd salwch tymor hir, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, terfynu cyflogaeth neu amgylchiadau eraill y gellir eu hesgusodi.
7.4. Bydd unrhyw rai sy’n dod yn lle’r Personél Allweddol yn ddarostyngedig i gytundeb ysgrifenedig y Cwsmer (i beidio â chael ei ddal yn ôl yn afresymol). Bydd unrhyw rai sy’n dod yn lle’r Personél Allweddol yn cyrraedd lefel statws cyfartal neu brofiad a sgiliau cyfartal i’r Personél Allweddol a bydd yn addas er mwyn diwallu gofynion y cyfrifoldebau’r person hwnnw mewn perthynas â’r Gwasanaethau.
8. Aseinio ac is-gontractio
8.1. Ni fydd y cyflenwr, heb ganiatâd ysgrifenedig gan y Cwsmer, yn aseinio, is-gontractio, trosglwyddo neu mewn unrhyw ffordd yn gwaredu buddion a/neu faich y Cytundeb neu unrhyw ran o’r Cytundeb. Gall y Cwsmer, wrth roi caniatâd o’r fath, ddarparu ar gyfer telerau ac amodau ychwanegol sy’n ymwneud ag eseiniad, is-gontract, trosglwyddiad neu warediad o’r fath. Bydd y Cyflenwr yn gyfrifol am weithredoedd ac esgeulustod ei is-gontractwyr fel pe bai’r gweithredoedd a’r esgeulustodau hynny’n rhai’r Cyflenwr ei hun.
8.2. Os bydd y Cwsmer wedi cytuno i osod is-gontractau, bydd y Cyflenwr yn sicrhau:
- bod is-gontractwyr ac unrhyw un o’i gyflenwyr wedi derbyn rhwymedigaethau sy’n cyfateb i’r rhai a nodir yn y Contract hwn a’u bod yn cydymffurfio â rhwymedigaethau o’r fath; a
- bod unrhyw brosesu o Ddata Personol gan yr is-gontractwyr yn cydymffurfio â’r GDPR a’r DPA.
8.3. Pan fo’r Cwsmer wedi cydsynio i osod is-gontractau, bydd y Cyflenwr yn, ar gais y Cwsmer, anfon copïau o bob is-gontract, at y Cwsmer cyn gynted ag sy’n rhesymol ymarferol.
8.4. Gall y Cwsmer aseinio, trosgwyddo, neu fel arall, gwaredu ei hawliau a’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb heb ganiatâd y Cyflenwr ar yr amod na fydd aseiniad, trosglwyddiad na gwarediad o’r fath yn ychwanegu at faich rhwymedigaethau’r Cyflenwr o dan y Cytundeb.
9. Hawliau eiddo deallusol
9.1. Bydd yr holl hawliau eiddo deallusol ar gyfer unrhyw ddeunyddiau a ddarperir gan y Cwsmer i’r Cyflenwr at ddibenion y Cytundeb hwn yn parhau i fod yn eiddo i’r Cwsmer ond mae’r Cwsmer yn rhoi trwydded di-freindal, nad yw’n gyfyngedig ac nad oes modd ei throsglwyddo i ddefnyddio deunyddiau o’r fath sydd eu hangen hyd nes bod y Cytundeb yn terfynu neu’n dod i ben er mwyn galluogi’r Cyflenwr i gyflawni’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb.
9.2. Y Cyflenwr fydd â phob hawl eiddo deallusol ar gyfer unrhyw ddeunyddiau a grëwyd neu a ddatblygwyd gan y Cyflenwr yn unol â’r Cytundeb neu sy’n codi o ganlyniad i ddarparu’r Gwasanaethau. Os, ac i’r graddau, bod gan y Cwsmer unrhyw hawliau eiddo deallusol drwy weithrediad y gyfraith, mae’r Cwsmer yn rhoi hawliau’r dyfodol i’r Cyflenwr a fydd yn dechrau ar unwaith pan fydd unrhyw hawliau eiddo deallusol o’r fath yn dechrau bodoli ar gyfer deunydd o’r fath (gyda gwarant teitl llawn ac yn rhydd o holl hawliau trydydd parti).
9.3. Mae’r Cyflenwr yn rhoi’r canlynol i’r Cwsmer:
- trwydded barhaol, di-freindal, ac anghyfyngedig na ellir ei dirymu (gan gynnwys heb gyfyngiad i hawl y Cwsmer i roi is-gontractau mewn perthynas â’r un peth) i ddefnyddio holl hawliau eiddo deallusol yn y deunyddiau a gaiff eu creu neu eu datblygu yn unol â’r Cytundeb ac unrhyw hawliau eiddo deallusol sy’n codi o ganlyniad i ddarpariaeth y Gwasanaethau, gan gynnwys unrhyw addasiadau neu fersiynau deilliadol o unrhyw hawliau eiddo deallusol o’r fath, sy’n rhesymol angenrheidiol i’r Cwsmer er mwyn arfer ei hawliau a manteisio ar y Cytundeb gan gynnwys y gwasanaethau a ddarperir.
9.4. Y Cwsmer sydd â’r holl Hawliau Eiddo Deallusol ar gyfer pob deunydd (ym mha bynnag fformat) gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, ddogfennau, manylebau, cyfarwyddiadau, data, cronfeydd data, cynlluniau, adroddiadau, lluniadau, dyfeisiau, patentau, patrymau, modelau, dyluniadau, rhaglenni neu ddeunydd eraill, sydd wedi’u paratoi neu’u casglu gan neu ar gyfer y Cyflenwr wedi i’r Cytundeb ddechrau gael ei ddefnyddio, neu fwriadu ei ddefnyddio, mewn perthynas â gweithredu ar y Cytundeb.
9.5. Bydd y Cyflenwr yn indemnio, ac yn parhau indemnio, y Cwsmer yn llawn yn erbyn pob cost, treuliant, difrod a cholled (boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol), gan gynnwys unrhyw log, cosbau a ffioedd cyfreithiol rhesymol a ffioedd proffesiynol eraill a ddyfernir yn erbyn neu sydd wedi’u codi neu eu talu gan y Cwsmer o ganlyniad i, neu mewn cysylltiad ag unrhyw hawliad a wneir yn erbyn y Cwsmer am doriad gwirioneddol neu honedig yn erbyn eiddo deallusol trydydd parti sy’n codi o, neu mewn cysylltiad â chyflenwad neu ddefnydd o’r Gwasanaethau, i’r graddau y mae modd gwneud cysylltiad rhwng yr hawliad a gweithredoedd neu esgeulustod y Cyflenwr neu unrhyw aelod o Staff.
9.6. Os wrth ddarparu’r Gwasanaethau, bod y Cyflenwr yn bwriadu defnyddio unrhyw hawliau eiddo deallusol sy’n perthyn i unrhyw drydydd parti, mae’n rhaid iddo roi manylion hawliau eiddo deallusol trywydd parti o’r fath; ynghyd â chadarnhau bod gan y Cyflenwr (neu y bydd ganddo) y caniatad a’r trwyddedau priodol i ddefnyddio hawliau eiddo deallusol trydydd parti at ddibenion darparu’r gwasanaethau. Rhaid rhoi tystiolaeth o ganiatâd a thrwyddedau o’r fath (neu sicrwydd y bydd caniatâd a thrwyddedau o’r fath yn cael eu rhoi) i’r Cwsmer ar gais.
9.7. Bydd y Cyflenwr yn hysbysu’r Cwsmer ar unwaith os gwneir unrhyw hawliad neu orchymyn neu os bydd achos yn cael ei ddwyn yn erbyn y Cyflenwr am dorri, neu dorri honedig unrhyw Hawl Eiddo Deallusol mewn cysylltiad â’r gwaith o gyflawni’r Contract. Bydd y Cyflenwr, ar ei draul ei hun, yn cymryd unrhyw gamau cyfreithiol sy’n deillio o unrhyw hawliad, gorchymyn neu weithrediad o’r fath a bydd y Cyflenwr yn ymgynghori gyda’r Cwsmer ar bob mater sylweddol sy’n codi wrth gymryd camau cyfreithiol o’r fath ac wrth negodi a bydd yn rhoi ystyriaeth briodol i fuddiannau’r Cwsmer.
9.8. Os gwneir hawliad neu orchymyn, neu os bydd achos yn cael ei dwyn yn erbyn y Cwsmer am dorri neu dorri honedig unrhyw Hawliau Eiddo Deallusol mewn perthynas â’r Contract hwn, bydd Amod 39.1.12 yn dod i rym a bydd y Cyflenwr, ar ei draul ei hun, yn rhoi pob cymorth y gall fod ei angen ar y Cwsmer mewn perthynas â gweithrediad o’r fath.
10. Llywodraethiant a chofnodion
10.1. Bydd y Cyflenwr yn:
- mynychu cyfarfodydd cynnydd gyda’r Cwsmer ar adegau a bennir gan y Cwsmer ac yn sicrhau bod ei gynrychiolwyr yn gymwys ac yn addas i fynychu cyfarfodydd o’r fath; ac
- yn cyflwyno adroddiadau cynnydd i’r Cwsmer ar adegau ac mewn fformat a bennir gan y Cwsmer.
10.2. Bydd y Cyflenwr yn cynnal a chadw hyd at 10 mlynedd ar ôl i’r Cytundeb ddod i ben, neu am gyfnod y mae’r Partïon wedi cytuno arno, cofnodion llawn a chywir o’r Cytundeb gan gynnwys y Gwasanaethau sydd wedi’u darparu yn rhan ohono, a phob taliad a wneir gan y Cwsmer. Bydd y Cyflenwr, ar gais, yn gofyn i’r Cwsmer neu gynrychiolwyr y Cwsmer am fynediad i’r cofnodion hynny am y gal y Cwsmer ofyn amdanynt mewn cysylltiad â’r Cytundeb.
11. Cyfrinachedd, tryloywder a chyhoeddusrwydd
11.1. Bydd y Cyflenwr, gan gynnwys yr holl weithwyr, cynrychiolwyr, asiantau a/neu is-gontractwyr sy’n gweithio ar ran y Cyflenwr, yn cydymffurfio â phob rhwymedigaeth ‘swyddogion perthnasol’ mewn perthynas â gwybodaeth trethdalwyr gwarchodedig o dan adrannau 17 i 19 o’r Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, gan gynnwys gwneud datganiad o gyfrynachedd os yw’r Cwsmer yn ystyried hyn yn berthnasol.
11.2. Yn amodol ar gymal 11.1, bydd pob Parti:
- yn ymdrin â’r holl Wybodaeth Gyfrinachol y mae’n ei derbyn yn gyfrinachol, yn diogelu’r wybodaeth ac yn peidio â’i datbelu i unrhyw berson arall heb gael caniatâd ysgrifenedig y Parti sy’n datgelu cyn gwneud hynny; ac
- ni fydd yn defnyddio nac yn manteisio ar Wybodaeth Gyfrinachol y Parti mewn unrhyw ffordd oni bai am at y dibenion a ragwelwyd o dan y Cytundeb.
11.3. Er gwaethaf cymal 11.1, gall Parti ddatgelu Gwybodaeth Gyfrinachol y mae’n ei derbyn gan Barti arall:
- os oes cyfraith berthnasol neu lys o awdurdodaeth gymwys sy’n ei wneud yn ofynnol i ddatgelu;
- i’w archwilwyr at ddibenion gofynion rheoleiddio;
- ar sail gyfrinachol, i’w ymgynghorwyd proffesiynol;
- i’r Swyddfa Twyll Difrifol os oes gan y Parti sail resymol i greu bod y Parti arall yn ymwneud â gweithgarwch a all fod yn drosedd o dan y Ddeddf Llwygrwobrwyo 2010;
- os mai’r Cyflenwr yw’r Parti sy’n derbyn, gall ddatgelu i’r Staff os oes angen iddynt wybod er mwyn gallu gweithredu ar rwymedigaethau’r Cyflenwr o dan y Cytundeb ar yr amod bod y Cyflenwr yn sicrhau bod unrhyw Staff sy’n cael gwybod am Wybodaeth Gyfrinachol yn unol â’r cymal hwn 11.3.5, yn cadw at rwymedigaethau’r Cyflenwr o ran cyfrinachedd o dan y Cytuneb; a
- os mai’r Cwsmer yw’r Parti sy’n derbyn;
- ar sail cyfrinachedd i’r gweithwyr, asiantau, ymgynghorwyr a chontractwyr y Cwsmer;
- ar sail cyfrinachedd i unrhyw Gorff Llywodraeth Ganolog arall, unrhyw gorff olynol i Gorff Llywodraeth Ganolog neu unrhyw gwmni y mae’r Cwsmer yn trossglwyddo neu’n bwriadu trosglwyddo’i fusnes yn gyfan gwbl, neu unrhyw ran o’i fusnes iddynt;
- i’r graddau y mae’r Cwsmer (sy’n gweithredu’n rhesymol) yn penderfynu bod datgelu gwybodaeth yn angenrheidiol neu’n briodol wrth gyflawni ei swyddogaethau cyhoeddus; neu
- yn unol â chymal 12.
11.4. At ddibenion yr uchod, bydd cyfeiriadau at ddatgelu ar sail cyfrinachedd yn golygu datgelu sy’n ddarostyngedig i gytundeb neu drefniant cyfrinachedd sy’n cynnwys telerau nad ydynt yn llai llym na’r rhai a osodwyd ar gyfer y Cwsmer o dan y cymal 11 hwn. Mae’r Partïon yn cydnabod, oni bai am unrhyw Wybodaeth sy’n esempt o’r gofynion datgelu yn unol â darpariaethau’r FOIA, nad yw cynnwys y Cytundeb yn Wybodaeth Gyfrinachol ac mae’r Cyflenwr felly yn rhoi ei ganiatâd i’r Cwsmer gyhoeddi’r Cytundeb yn ei gyfanrwydd i’r cyhoedd (ond wedi golygu unrhyw Wybodaeth sy’n esempt o’r gofynion datgelu yn unol â’r FOIA) gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r Cytundeb a gytunwyd arnynt o bryd i’w gilydd. Gall y Cwsmer ymgynghori â’r Cyflenwr i roi gwybod am ei benderfyniad mewn perthynas ag unrhyw ddiffyg gweithredu ond bydd yn rhaid iddo gadw’r penderfyniad terfynol yn ei ddisgresiwn absoliwt p’un a yw cynnwys y Cytundeb yn esempt o’r gofynion datgelu yn unol â darpariaethau’r FOIA.
11.5. Ni fydd y Cyflenwr yn gwneud unrhyw ddatganiadau i’r wasg nac yn gwneud y Cytundeb, na unrhyw ran o’r Cytundeb yn gyhoeddus, a bydd yn cymryd camau rhesymol i sicrhau nad yw unrhyw un o’i Staff yn gwneud hynny ychwaith, oni bai ei fod wedi cael caniatâd ysgrifenedig gan y Cwsmer i wneud hynny yn gyntaf.
12. Rhyddid gwybodaeth
12.1. Mae’r Cyflenwr yn cydnabod bod y Cwsmer yn ddarostyngedig i ofynion y FOIA a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a bydd:
- yn darparu’r holl gymorth a chydweithrediad angenrheidiol fel y gofynnir yn rhesymol gan y Cwsmer i alluogi’r Cwsmer i gydymffurfio â’r rhwymedigaethau o dan y FOIA a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004;
- yn trosgwyddo pob Cais am Wybodaeth i’r Cwsmer mewn perthynas â’r Cytundeb y mae’n ei dderbyn cyn gynted ag y bo’n ymarferol ac mewn unrhyw achos o fewn 2 Diwrnod Gwaith o’i dderbyn;
- yn darparu copi o’r holl Wybodaeth i’r Cwsmer y gofynnir amdano yn y Cais am Wybodaeth sydd yn ei feddiant neu ei reolaeth mewn ffurf y mae’r Cwsmer wedi gofyn amdano o fewn 5 Diwrnod Gwaith (neu gyfnod rhesymol y mae’r cwsmer wedi’i nodi) o gais y Cwsmer am Wybodaeth o’r fath; ac
- ni fydd yn ymateb yn uniongyrchol i Gais am Wybodaeth oni bai bod y Cwsmer wedi’i awdurdodi’n ysgrifenedig i wneud hynny.
12.2. Mae’r Cyflenwr yn cydnabod y gallai fod angen i’r Cwsmer, o dan y FOIA a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004, ddatgelu Gwybodaeth sy’ ymwneud â’r Cyflenwr neu’r Nwyddau (gan gynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif) heb ymgynghori na chael caniatâd gan y Cyflenwr. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd y Cwsmer, yn unol ag unrhyw ganllawiau perthnasol sydd wedi’u cyhoeddi dan y FOIA, yn cymryd camau rhesymol, lle bo hynny’n briodol, i roi hysbysiad ymlaen llaw i’r Cyflenwr, neu os na fydd yn gallu gwneud hynny, yn tynnu’r datgeliad at sylw’r Cyflenwr yn dilyn unrhyw ddatgeliad o’r fath.
12.3. Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth arall yn y Cytundeb, bydd y Cwsmer yn gyfrifol am benderfynu, drwy ddefnyddio’i ddisgresiwn absoliwt, a yw unrhyw Wybodaeth sy’n ymwneud â’r Cyflenwr neu’r Nwydau yn esempt o’r gofynion datgelu yn unol â’r FOIA a/neu Reoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.
13. Diogelu data personol a diogelwch data
13.1. Bydd y Cyflenwr yn, ac yn sicrhau bod ei holl Staff a’i is-gontractwyr yn, cydymffurfio ag unrhyw ofynion hysbysu o dan y GDPR a’r DPA a bydd y ddau Barti yn gweithredu ar eu rhwymedigaethau’n briodol o dan y GDPR a’r DPA sy’n codi mewn perthynas â’r Cytundeb hwn.
13.2. Er gwaethaf y rhwymedigaeth gyffredinol yng nghymal 13.1, lle mae’r Cyflenwr yn prosesu Data Personol ar gyfer y Cwsmer fel prosesydd data (fel y’i diffinnir gan y GDPR), bydd y Cyflenwr yn:
- sicrhau bod ganddo fesurau technegol a sefydliadol perthnasol mewn grym ar gyfer sicrhau diogelwch y Data Personol (ac i warchod rhag prosesu’r Data Personol heb awdurdod neu’n anghyfreithlon ac i warchod rhag colli neu ddinistrio’r Data Personol ar ddamwain), fel sy’n ofynnol gan y GDPR.
- rhoi gwybodaeth i’r Cwsmer am y gall y Cwsmer wneud cais rhesymol am wybodaeth i gael sicrwydd bod y Cyflenwr yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau o dan y GDPR a’r DPA.
- hysbysu’r Cwsmer ar unwaith am y canlynol:
- torri gofynion diogelwch y Cwsmer mewn unrhyw ffordd fel y cyfeirir ato yng nghymal 13.3; ac
- unrhyw gais am ddata personol, gan gynnwys cais i unioni, prosesu bloc neu ddileu unrhyw Ddata Personol;
- mae’n derbyn Cais Gwrthrych Data am Wybodaeth (neu honiad Cais Gwrthrych Data am Wybodaeth);
- mae’n cael unrhyw ohebiaeth gan y Comisiynydd Gwybodaeth neu gan unrhyw awdurdod rheoleiddio arall mewn cysylltiad â Phrosesu Data Personol o dan y Contract hwn;
- mae’n cael unrhyw gais, cwyn neu ohebiaeth arall sy’n ymwneud â rhwymedigaethau’r naill Barti neu’r llall o dan y Ddeddfwriaeth Diogelu Data;
- mae’n cael cais gan unrhyw drydydd parti i ddatgelu Data Personol lle mae angen cydymffurfio â chais o’r faith neu pan honnir bod angen gwneud hynny gan Ddeddfwriaeth; neu
- mae’n dod yn ymwybodol o Ddigwyddiad Colli Data.
- sicrhau nad yw’n fwriadol nac yn oherwydd esgeulustod yn gwneud unrhyw beth sy’n rhoi’r Cwsmer mewn safle lle mae’n mynd yn groes i rwymedigaethau’r Cwsmer o dan y GDPR a DPA.
13.3. Wrth ymdrin â data Cwsmer (boed yn Ddata Personol ai peidio), bydd y Cyflenwr yn sicrhau diogelwch y data yn unol â gofynion diogelwch y Cwsmer a gaiff eu hysbysu i’r Cyflenwr o dro i dro.
13.4. Mae’n rhaid i’r Cyflenwr wneud y canlynol cyn caniatáu i unrhyw Is-Brosesydd fynd ati i Brosesu unrhyw Ddata Personol sy’n gysylltiedig â’r Contract hwn:
- rhoi gwybod wrth y Cwsmer yn ysgrifenedig am yr Is-Brosesydd a’r Prosesydd arfaethedig;
- cael caniatâd ysgrifenedig gan y Cwsmer;
- ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig gyda’r Is-Brosesydd sy’n dod â’r telerau a nodir yn yr Amod 13 hwn i rym yn y modd y maent yn berthnasol i’r Is-Brosesydd; a
- rhoi gwybodaeth o’r fath i’w Cwsmer ynghylch yr Is-Brosesydd am y gall fod ei angen ar y Cwsmer.
14. Atebolrwydd
14.1. Ni fydd y Cyflenwr yn gyfrifol am unrhyw anaf, colled, difrod, cost neu dreuliau’r Cwsmer os ac i’r graddau y mae wedi’i achosi gan esgeulustod neu gamymddwyn bwriadol gan y Cwsmer neu sydd wedi’i achosi gan y Cwsmer yn torri’i rhwymedigaethau o dan y Cytundeb.
14.2. Yn amodol bob amser ar gymal 14.3 a 14.4:
- bydd atebolrwydd cyfanredol y Cyflogwr mewn perthynas ag unrhyw ddiffygdaliadau, hawliadau, colledion neu ddifrod a achoswyd, boed yn deillio o dorri’r Cytundeb, y cyflenwad neu fethiant i gyflenwi’r Gwasanaethau, camliwiad (boed yn anuniongyrchol neu’n statudol), camweddau (gan gynnwys esgeulustod), torri dyletswydd statudol neu fel arall, byth yn fwy na swm sy’n hafan i 125% o’r Taliadau a dalwyd neu sy’n daladwy i’r Cyflenwr;
- ac eithrio mewn achos o’r hawliadau sy’n codi o dan gymalau 9.4 ac 18.3, ni fydd y Cyflenwr yn atebol i’r Cwsmer am unrhyw un o’r canlynol:
- colledion elw;
- colli busnes;
- colli refeniw;
- colli neu niweidio ewyllys da;
- colli cynilion (boed hynny’n rhagweladwy neu fel arall); a/neu
- unrhyw golleg neu ddifrod anuniongyrchol, arbennig neu ganlyniadol.
14.3. Ni fydd unrhyw beth yn y Cytundeb yn cael ei ddehongli i gyfyngu neu eithrio atebolrwydd y naill Barti neu’r llall dros y canlynol:
- marwolaeth neu anaf personol a achodwys gan esgeulustod neu esgeulstod ei Staff;
- twyll neu gamliwio twyllodrus ganddo neu ei Staff;
- nac unrhyw fater arall na chaniateir ei eithrio na’i gyfyngu, yn ôl y gyfraith.
14.4. Bydd atebolrwydd y Cyflenwr dan yr indemniaid yng nghymalau 5 ac 18.3 yn ddiderfyn.
15. Force majeure (amgylchiadau y tu hwn i reolaeth dyn)
Ni fydd unrhyw Barti yn atebol nac yn cael eu beio am dorri’r Cytundeb am unrhyw oedi neu fethiannau yn eu gwaith o weithredu ar y Cytundeb oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i reolaeth resymol y Parti yr effeithir arnynt. Bydd pob Parti yn hysbysu’r Parti arall yn ysgrifenedig pan fydd amgylchiadau o’r fath yn achosi oedi neu fethiant a phan fyddant yn peidio â gwneud hynny. Os bydd amgylchiadau o’r fath yn parhau am gyfnod parhau o fwy na 30 diwrnod, gall y naill Barti neu’r llall derfynu’r Cytundeb drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r Parti arall.
16. Terfynu
16.1. Gall y Cwsmer derfynu’r Cytundeb ar unrhyw adeg drwy roi rhybudd ysgrifenedig i’r Cyflenwr a fydd yn dod i rym ar unrhyw ddyddiad sy’n cwympo o leiaf 1 mis (neu, os yw’r Cytundeb yn llai na 3 mis o hyd, o leiaf 10 Diwrnod Gwaith) ar ôl dyddiad y rhybudd perthnasol.
16.2 Heb effeithio ar unrhyw hawliau neu rhwymedïau y gallai fod ganddo, gall y Cwsmer derfynu’r Cytundeb yn gyfan gwbl neu’n rhannol cyn Dosbarthu neu ar ôl Dosbarth (lle mai dim ond rhan o’r Nwyddau sydd wedi’u Dosbarthu) drwy hysbysiad ysgrifenedig i’r Cyflenwr, a hynny ar unwaith, os yw’r Cyflenwr:
- (heb effeithio ar gymal 16.2.5), yn torri unrhyw rwymedigaeth berthnasol o dan y Cytundeb nad oes modd ei hunioni;
- yn torri unrhyw un o delerau ac amodau'r Cytundeb dro ar ôl tro fel ffordd o gyfiawnhau’r safbwynt bod ei ymddygiad yn anghyson â’r bwriad neu’r gallu i roi telerau ac amodau’r Cytundeb ar waith;
- yn torri unrhyw rwymedigaeth berthnasol y gellir ei hunioni, ac nad yw’r toriad hwnnw’n cael ei unioni o fewn 25 o’r Cyflenwr yn cael hysbysiad sy’n nodi’r toriad ac yn ei gwneud yn ofynnol i hyn gael ei unioni;
- yn mynd drwy’r broses o newid rheolaeth (diffinir ‘rheoli’ yn adran 1124 o Ddeddf y Dreth Gorfforaeth 2010), o fewn y Cyflenwr neu ei Riant-Gwmni ar yr amod y caniateir i’r Cleient arfer ei hawliau yn unol â’r Amod hwn 44.1.2 am chwe (6) mis calendr ar ôl newid rheolaeth o’r fath ac ni chaniateir iddynt roi’r hawliau o’r fath ar waith lle mae’r Cleient wedi cytuno ymlaen llaw yn ysgrifenedig i’r newid penodol mewn rheolaeth a bod y newid hwnnw yn digwydd fel y cynigiwyd;
- yn torri darpariaethau cymalau 7.2, 11, 12, 13 ac 17;
- yn dod yn fethdalwr, neu os gwneir gorchymyn neu fod penderfyniad yn cael ei basio ar gyfer dod â’r Cyflenwr i ben (ac eithrio’n wirfoddol at ddiben uno neu adlunio ariannol), neu os penodir gweinyddwr neu dderbynnydd gweinyddol mewn perthynas ag asedau neu fusnes llawn neu rannol y Cyflenwr, neu os yw’r Cyflenwr yn gwneud unrhyw gyfansoddiad gyda’i gredydwyr neu’n cymryd unrhyw gamau tebyg neu gyfatebol (i unrhyw un o’r gweithredoedd a fanylir arnynt yn y cymal 16.2.6 hwn) o ganlyniad i ddyled mewn unrhyw awdurdodaeth; neu
- yn methu â chydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol ym meysydd cyfraith amgylcheddol, gymdeithasol neu lafur.
16.3. Bydd y Cyflenwr yn hysbysu’r Cwsmer cyn gynted ag y bo’n ymarferol am unrhyw newid rheolaeth fel y cyfeirir ato yng nghymal 16.2.4 neu unrhyw newid rheolaeth posibl o’r fath.
16.4. Gall y Cyflenwr derfynu’r Cytundeb drwy hysbysu’r Cwsmer yn ysgrifenedig os nad yw’r Cwsmer wedi talu unrhyw symiau nad ydynt yn cael ei herio o fewn 90 ohonynt yn dod yn ddyledus.
16.5. Ni fydd terfynu na dod â’r Cytundeb i ben yn effeithio ar hawliau’r naill Barti na’r llall sy’n deillio o gyn terfynu’r Cytundeb neu cyn i’r Cytundeb ddod i ben ac ni fydd yn effeithio ar hawliau parhaus y Partïon o dan gymalau 2, 3.2, 3.3, 8, 10, 11.2, 12, 13, 14, 15, 17.5, 18.4, 19.3, 20 ac 21.7 ac unrhyw delerau ac amodau eraill yn y Cytundeb sy’n dod i effaith ar ôl terfynu naill ai yn benodol neu drwy ensyniad.
16.6. Ar ôl terfynu neu ddod â’r Cytundeb i ben, bydd y Cyflenwr yn:
- rhoi pob cymorth rhesymol i’r Cwsmer ac unrhyw gyflenwr Gwasanaethau; ac
- yn dychwelyd yr holl ddogfennau, gwybodaeth a’r data y gofynnwyd amdanynt i’r Cwsmer cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
17. Cydymffurfiaeth
17.1. Bydd y Cyflenwr yn hysbysu’r Cwsmer yn brydlon am unrhyw beryglon iechyd a diogelwch a all godi mewn cysylltiad â’r gwaith o gyflawni’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb. Bydd y Cwsmer yn hysbysu’r Cyflenwr yn brydlon am unrhyw beryglon iechyd a diogelwch a all fod yn bresennol neu a all godi ar safle’r Cwsmer ac a all effeithio ar waith y Cyflenwr o gyflawni’i rwymedigaethau o dan y Cytundeb.
17.2. Bydd y Cyflenwr yn:
- cydymffurfio â holl fesuran iechyd a diogelwch y Cwsmer pan fydd ar safle’r Cwsmer; ac
- yn hysbysu’r Cwsmer ar unwaith os bydd unrhyw ddigwyddiad yn digwydd wrth iddo gyflawni’i rwymedigaethau ar safle’r Cwsmer o dan y Cytundeb lle mae’r mater hwnnw yn achosi unrhyw anaf personol neu ddifrod i eiddo a allai achosi anaf personol
17.3. Bydd y Cyflenwr yn:
- cyflawni ei rwymedigaethau o dan y Cytundeb ac yn unol â phob Cyfraith cydraddoldeb a pholisi cydraddoldeb ac amrywiaeth y Cwsmer fel y darperir i’r Cyflenwr o bryd i’w gilydd; ac
- yn cymryd pob cam rhesymol i sicrhau cydymffurfiaeth pob aelod o Staff â chymal 17.3.1.
17.4. Bydd y Cyflenwr yn darparu’r Gwasanaethau yn unol â pholisi amgylcheddol y Cwsmer fel y rhoddir i’r Cyflenwr o bryd i’w gilydd.
17.5 Bydd y Cyflenwr yn cydymffurfio â, ac yn sicrhau bod ei Staff yn cydymffurfio â darpariaethau:
- Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1911 i 1989; ac
- adran 182 Deddf Cyllid 1989
18. Atal twyll a llygredd
18.1. Ni fydd y Cyflenwr yn cynnig, yn rhoi, nac yn cytuno i roi unrhyw beth, i unrhyw berson fel cymhelliad i wneud neu wobr am wneud, am beidio â gwneud, neu am fod wedi gwneud neu wedi peidio â gwneud, unrhyw weithred mewn perthynas â gweithredu’r Cytundeb neu am ddangos neu beidio â dangos ffafriaeth neu anffafriaeth i unrhyw berson mewn perthynas â’r Cytundeb.
18.2. Bydd y Cyflenwr yn cymryd pob cam rhesymol, yn unol ag arferion da’r diwydiant, i atal twyll gan Staff a’r Cyflenwr (gan gynnwys ei randdeiliaid, ei aelodau a’i gyfarwyddwyr) mewn perthynas â’r Cytundeb a bydd yn hysbysu’r Cwsmer ar unwaith os oes ganddo reswm i amau bod unrhyw dwyll wedi digwydd, yn digwydd neu’n debygol o ddigwydd.
18.3. Os yw’r Cyflenwr neu’r Staff yn ymgmryd ag ymddygiad a waherddir gan gymal 18.1, neu’n cyflawni twyll mewn perthynas â’r Cytundeb neu unrhyw gontract arall gyda’r Goron (gan gynnwys y Cwsmer), gall y Cwsmer wneud y canlynol:
- terfynu’r Cytundeb a hawlio ad-daliad o swm unrhyw golledion gan y Cyflenwr o ganlyniad i’r terfyniad, gan gynnwys y gost o wneud trefniadau eraill am gyflenwad o’r Nwyddau ac unrhyw dreuliau ychwanegol i’r Cwsmer drwy gydol gweddill y Cytundeb; neu
- hawlio ad-daliad llawn gan y Cyflenwr am unrhyw golledion eraill i’r Cwsmer o ganlyniad i dorri’r cymal hwn mewn unrhyw ffordd.
19. Datrys anghydfod
19.1. Bydd y Partïon yn mynd ati’n ddidwyll i geisio setlo unrhyw anghydfod rhyngddynt sy’n deillio o’r Cytundeb a bydd ymdrechion o’r fath yn cynnwys dwysáu'r anghydfod i uwch gynrychiolydd priodol o bob Parti.
19.2. Os na all y Partïon ddatrys yr anghydfod o fewn mis o gael ei ddwysáu fel y cyfeirir ato yng nghymal 19.1, gall yr anghydfod, drwy gytundeb rhwng y Partïon, gael ei gyfeirio at gynghorydd niwtral neu eiriolydd (yr ‘Eiriolwr’) a ddewiswyd drwy gytundeb rhwng y Partïon. Bydd yr holl drafodaethau sy’n gysylltiedig â’r anghydfod yn cael eu cynnal yn gyfrinachol a heb effeithio ar hawliau’r Partïon mewn unrhyw achosion pellach.
19.3. Os yw’r Partïon yn methu â phenodi Eiriolwr o fewn un mis, neu os nad ydynt yn gallu ymrwymo i gytundeb ysgrifenedig sy’n datrys yr anghydfod o fewn mis o benodi’r Eiriolwr, gall y naill Barti neu’r llall arfer unrhyw rwymedïau sydd ganddo o dan gyfraith berthnasol.
19.4. Ni fydd rhwymedigaethau pob Parti o dan y Cytundeb hwn yn dod i ben nac yn cael eu gohirio wrth agor y weithdrefn datrys anghydfod.
20. Cyffredinol
20.1. Mae pob un o’r Partïon yn cynrychioli ac yn gwarantu i’r llall bod ganddo allu ac awdurdod llawn, a’r holl gydsyniadau, trwyddedau a chaniatadau i ddechrau ar a chwblhau eu rhwymedigaethau o dan y Cytundeb, ac y gweithredir ar y Cytundeb gan ei gynrychiolydd sydd wedi’i awdurdodi’n briodol.
20.2. Ni fydd gan berson nad yw’n rhan o’r Cytundeb yr hawl i orfodi unrhyw un o’i ddarpariaethau sydd, yn benodol neu drwy ensyniad, yn rhoi budd iddo, heb gael cytundeb ysgrifenedig blaenorol gan y Partïon yn gyntaf.
20.3. Ni ellir newid y Cytundeb hwn ac eithrio’n ysgrifenedig a thrwy gael llofnod gan gynrychiolydd awdurdodedig priodol y ddau Barti.
20.4. Mae’r Cytundeb hwn yn cynnwys y cytundeb cyflawn rhwng y Partïon ac mae’n disodli ac yn cymryd lle unrhyw gytundebau, sylwadau neu ddealltwriaethau, rhyngddynt yn ysgrifenedig neu ar lafar. Mae’r Partïon yn cadarnhau nad ydynt wedi ymrwymo i’r Cytundeb ar sail unrhyw sylw nad yw wedi’i hymgorffori i’r Cytundeb yn benodol. Ni fydd unrhyw beth yn y cymal hwn yn cyfyngu atebolrwydd am dwyll neu gamliwio twyllodrus.
20.5. Bydd unrhyw lacio neu addasiadau i’r telerau ac amodau’r Cytundeb hwn yn rhannol neu’n gyfan gwbl ond yn ddilys os yw’r Parti wedi rhoi gwybod i’r Parti arall yn ysgrifenedig gan nodi’n glir bod y telerau ac amodau wedi’u llacio a’u haddasu. Ni fydd newid unrhyw hawliau neu rwymedïau sy’n deillio o dorri contract yn hepgor unrhyw hawliau neu rwymedïau sy’n deillio o dorri’r Cytundeb mewn unrhyw ffordd arall.
20.6. Ni fydd y Cytundeb yn golygu nac yn awgrymu unrhyw bartneriaeth, menter ar y cyd, asiantaeth, perthynas ymddiriedol nac unrhyw berthynas arall rhwng y Partïon ac eithrio’r berthynas gytundebol a nodir yn benodol yn y Cytundeb. Ni fydd gan unrhyw Barti, nac yn cynrychioli bod ganddo, unrhyw awdurdod i wneud unrhyw ymrwymiadau ar ran y Parti arall.
20.7. Oni nodir fel arall yn y Cytundeb, bydd rhwymedïau’r Parti am dorri’r Cytundeb (boed hynny o dan y Cytundeb, cyfraith statudol neu gyfraith gyffredin) yn cronni a gellir eu harfer yn gydamserol neu ar wahân, ac ni ystyrir arfer unrhyw un o’r rhwymedïau fel ffordd o eithrio rhwymedïau eraill.
20.8. Os bydd cyfraith yn gwahardd neu lys yn barnu bod unrhyw un o ddarpariaethau’r Cytundeb yn anghyfreithlon, yn ddirym neu na ellir ei orfodi, bydd y ddarpariaeth yn, i’r graddau gofynnol, cael ei dynnu o’r Cytundeb a’i ystyried yn aneffeithiol cyn belled ag y bo’n bosibl heb addasu gweddill darpariaethau’r Cytundeb, ac ni fydd mewn unrhyw ffordd yn effeithio ar amgylchiadau eraill nac ar ddilysrwydd na gorfodaeth y Cytundeb.
21. Hysbysiadau
21.1. Bydd unrhyw hysbysiad a roddir o dan y Cytundeb yn cael ei wneud yn ysgrifenedig a’i gyflwyno’n bersonol, yn ddosbarth cyntaf wedi’i gofnodi neu, yn ddarostyngedig i gymal 21.3, dros e-bost i gyfeiriad y Parti perthnasol a nodir yn y Llythyr Dyfarnu, neu unrhyw gyfeiriad arall y gall y Parti, o dro i dro, ei ddefnyddio i roi gwybod wrth y Parti arall yn unol â’r cymal hwn.
21.2. Bydd hysbysiadau a gyflwynir fel yr uchod yn cael eu hystyried fel hysbysiadau a gyflwynir ar Ddiwrnod Gwaith y dosbarthiad, ar yr amod bod y dosbarthiad wedi’i gwblhau cyn 5:00pm ar Ddiwrnod Gwaith. Fel arall, ystyrir bod y dosbarthiad wedi’i gwblhau ar y Diwrnod Gwaith nesaf. Ystyrir bod e-bost wedi’i ddosbarthu pan fydd wedi’i anfon oni bai y derbynnir neges gwall.
21.3. Gellir cyflwyno hysbysiadau o dan gymalau 15 (Force Majeure) ac 16 (Terfynu) ar e-bost dim ond os yw’r hysbysiad gwreiddiol yn cael ei anfon wedyn at y derbynnydd drwy ei gyflwyno’n bersonol neu drwy’r post wedi’i gofnodi yn y modd y nodir yng nghymal 21.1.
22. Cyfraith lywodraethol a barnwrol
22.1. Bydd dilysrwydd, adeiladwaith, a gweithrediad y Cytundeb, ac unrhyw faterion cytundebol ac anghytundebol, yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Lloegr a bydd yn ddarostyngedig i farnwriaeth llysoedd Lloegr y mae’r Partïon yn uffuddhau iddi.