Adroddiad sy’n cyflwyno amcangyfrifon gweithwyr a chyflogaeth yn ôl daearyddiaeth a diwydiant manwl ar gyfer 2021.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolwg y Gofrestr Busnesau a Chyflogaeth
Prif bwyntiau
- Yn 2021, roedd 1.261 miliwn o swyddi gweithwyr yng Nghymru, sydd 0.1% yn uwch na’r ffigur o 1.259 miliwn yn 2020.
- O ran y DU yn gyfan, gwelwyd gostyngiad o 3.0% rhwng 2020 a 2021.
- Cafwyd cynnydd ym mhob un o’r 12 gwlad y DU neu rhanbarthau Lloegr rhwng 2020 a 2021. Yng Nghymru cafwyd y cynnydd canrannol lleiaf (i fyny 0.1%).
- Roedd y newid yng Nghymru rhwng 2020 a 2021 wedi’i rannu ar draws nifer o sectorau diwydiannol, gyda’r cynnydd mwyaf yn y sector Gwybodaeth a Chyfathrebu (i fyny 11,300) ac yna’r sector mân-werthu (i fyny 8,100). Roedd y cwymp mwyaf yn y sector Adeiladu (i lawr 16,600).
- Yn 2021, y sector Iechyd oedd y diwydiant mwyaf yng Nghymru, gan gyfrif am 15.4% o’r holl swyddi gweithwyr, yna 10.8% yn y sector Gweithgynhyrchu, 9.7% yn y sector Manwerthu a 8.9% yn y sector Addysg.
- Yn 2021, roedd 311,900 o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus ac 948,600 o swyddi gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru. Felly roedd 24.7% yn y sector cyhoeddus a 75.3% yn y sector preifat (y ffigurau ar gyfer y DU oedd 18.2% yn y sector cyhoeddus a 81.8% yn y sector preifat).
Dylid nodi bod yr amcangyfrifon hyn o swyddi gweithwyr yn y sector cyhoeddus yn wahanol i'r amcangyfrifon swyddogol ar gyfer cyflogaeth yn y sector cyhoeddus (Swyddfa Ystadegau Gwladol). Dylai’r amcangyfrifon swyddogol gael eu hystyried fel yr amcangyfrifon sector cyhoeddus terfynol ar gyfer gwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.