Neidio i'r prif gynnwy

Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag y ffliw 2024 i 2025.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r ffliw yn feirws sy’n gallu achosi salwch difrifol a marwolaeth. Mae achosion ohono’n digwydd yn ystod bron pob gaeaf, ac mae’n feirws sy’n newid yn gyson. Bob blwyddyn, mae brechlyn y ffliw yn cael ei newid i gyfateb i’r feirysau sy’n cylchredeg.

Mae’n bwysig bod y rheini sy’n gymwys yn derbyn y cynnig i gael eu brechu rhag y ffliw, er mwyn:

  • helpu i ddiogelu unigolion
  • diogelu ein cymunedau
  • helpu ein gwasanaethau iechyd a gofal 

Cymhwystra ar gyfer y rhaglen brechu rhag y ffliw 2024 i 2025

Yr hydref a’r gaeaf hwn yn rhan o’n rhaglen frechu'r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol, rydyn ni’n cynnig brechiad rhag y ffliw i’r bobl ganlynol:

  • plant sy’n ddwy neu’n dair oed ar 31 Awst 2024
  • plant ysgol o'r dosbarth derbyn hyd at, a gan gynnwys, blwyddyn 11
  • unigolion rhwng chwe mis oed a 64 mlwydd oed sydd mewn grŵp risg clinigol
  • pobl 65 oed a hŷn (oedran ar 31 Mawrth 2025)
  • pob oedolyn sy'n preswylio yng ngharchardai Cymru
  • menywod beichiog 
  • gofalwyr unigolyn y gallai ei iechyd neu ei les fod mewn perygl pe bai’r gofalwr yn cael ei daro’n wael
  • gweithwyr iechyd a gofal rheng flaen
  • pobl sy’n profi digartrefedd
  • cysylltiadau cartref pobl â system imiwnedd wan

Os ydych chi'n oedolyn mewn grŵp risg, yn feichiog, neu'n 65 oed neu'n hŷn, gallwch gael eich brechlyn ffliw yn eich meddygfa neu mewn rhai fferyllfeydd cymunedol. Os ydych chi'n gweithio ym maes iechyd neu ofal cymdeithasol, gofynnwch i'ch cyflogwr ble gallwch chi gael eich brechiad.

Dylai staff cartrefi gofal a gofalwyr cartref siarad â'u fferyllfa gymunedol ynglŷn â chael eu brechiad ffliw.

Bydd eich meddygfa neu nyrs yr ysgol yn cysylltu â phlant sy’n gymwys i gael eu brechu rhag y ffliw. Os ydych chi’n meddwl y gallai eich plentyn fod wedi colli ei gyfle i gael y brechiad, cysylltwch â nyrs yr ysgol neu eich meddygfa.

Bydd rhai grwpiau agored i niwed yn cael cynnig brechlynnau rhag y ffliw a COVID-19 yn ystod yr un apwyntiad. Os na fydd hyn yn bosibl, byddwn ni’n sicrhau eich bod yn gwybod lle a sut i gael y ddau frechlyn hyn.

Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn rhag y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.