Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 5 Medi i 7 Hydref 2022.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir
Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol.
Yr wythnos hon rydym wedi ychwanegu dadansoddiad ychwanegol fesul awdurdod lleol, rhyw, grŵp blwyddyn, cymwys i gael prydau ysgol am ddim a’r rheswm dros absenoldeb.
Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.
Prif bwyntiau
- Roedd cyfartaledd o 90.7% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 3 i 7 Hydref 2022, i fyny o 90.3% yr wythnos flaenorol. Mae’r ffigwr dros yr wythnos 26 i 30 Medi 2022 wedi’i ddiwygio i lawr o 90.4%. Mae'r data dros dro ar gyfer y pythefnos diwethaf.
- Mae cyfartaledd presenoldeb dros y flwyddyn adacemaidd hyd yn hyn yn 91.6%.
- Roedd cyfartaledd o 6.3% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb awdurdodedig ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 3 i 7 Hydref 2022, i lawr o 6.9% yr wythnos flaenorol.
- Roedd cyfartaledd o 3.0% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb heb awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos 3 i 7 Hydref 2022, i fyny o 2.8% yr wythnos flaenorol.
- Ychydig o wahaniaeth sydd wedi bod hyd yma yn y gyfradd presenoldeb yn ôl rhyw ar gyfer y flwyddyn academaidd, gyda 91.7% ar gyfer bechgyn a 91.6% ar gyfer merched.
- Mae’r gyfradd presenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod ar ei uchaf ym mlwyddyn 7 (94.0%) ac a rei isaf ym mlwyddyn 11 (87.5%).
- Mae’r gyfradd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod yn uwch ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys am PYD (93.2%) na disgyblion sydd yn gymwys am PYD (87.4%).(r)
- Y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma yw salwch, gyda 47.0% o sesiynau wedi'u methu oherwydd y rheswm hyn.
(r) Adolygwyd fersiwn Gymraeg y pwynt bwled hwn ar 3 Tachwedd 2022.
Ansawdd
Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.
Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22.
Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau
- Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
- Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i 15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
- Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
- Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag 'absennol'.
Cymharoldeb
Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi i 7 Hydref 2022 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 32 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.