Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi ymweld ag ABER Instruments yn Aberystwyth, cwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr, sy'n mynd o nerth i nerth, a hynny diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru.
Mae ABER Instruments yn gwmni rhyngwladol llwyddiannus sy'n gweithgynhyrchu offer electronig uwch gan gyflenwi cwsmeriaid ledled y byd gyda phortffolio o systemau ardystiedig parod sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiannau Bragu, Biodechnegol, Bioadnewyddadwy a Biodanwydd.
Ffurfiwyd Aber Instruments dros 30 mlynedd yn ôl, pan wnaeth yr Athro Douglas Kell a Dr Robert Todd o Brifysgol Aberystwyth a Chanolfan y Dechnoleg Amgen ddyfeisio a phatentio dull unigryw o fonitro biomas drwy ddefnyddio tonfeddi radio.
Yn 2011, daeth ABER Instruments yn gwmni sy’n eiddo i'w weithwyr, ac mae'n parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn ymchwil a datblygu ac arloesedd. Heddiw mae ei gwsmeriaid yn cynnwys rhai o gwmnïau fferyllol a bragu mwya’r byd, gan gynnwys Glaxo Smithkline, Novartis, ABInBev, Heineken, a Pfizer.
Mae'r cwmni wedi mwy na dyblu ei drosiant a nifer ei staff yn ystod y tair i bedair blynedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae ganddo 70 o weithwyr ac mae ei ôl troed yn Aberystwyth yn tyfu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mewn cwmnïau sy’n eiddo i’w gweithwyr, mae’r gweithwyr yn cael cyfle i gymryd rhan sylweddol ac ystyrlon yn y busnes maen nhw'n gweithio iddo. Mae'n rhoi mwy o reolaeth iddyn nhw dros eu tynged eu hunain. Mae hefyd yn rhoi tawelwch meddwl i berchnogion busnes fod dyfodol eu busnes mewn dwylo diogel, a bod dyfodol eu gweithwyr gwerthfawr wedi’i ddiogelu yn y gymuned y cafodd y busnes ei fagu ynddi.
"Mae wedi bod yn ysbrydoliaeth gweld offer ABER Instruments yn cyrraedd pedwar ban byd, a gweld sut mae bod yn gwmni sy'n eiddo i'r gweithwyr yn dod â phersbectif gwahanol i'r busnes a'i ddiwylliant. Rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi twf y cwmni.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddyblu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr erbyn 2026. Er mwyn cyflawni hynny, rydym am roi mwy o help i weithwyr sydd am brynu’u busnesau. Rwy'n annog mwy o fusnesau i ystyried y buddion y gall Busnes Cymru a Busnes Cymdeithasol Cymru eu cynnig, er mwyn sicrhau bod cwmnïau sy'n gweithio yng Nghymru yn aros yn nwylo Cymry.
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Aber Instruments, Matthew Lee:
"Rydyn ni’n falch iawn bod Vaughan Gething wedi gallu ymweld â ni a dangos iddo ein portffolio o gynnyrch ardderchog ac am ein llwyddiannau wrth ei hallforio.
"Mae bod yn gwmni sy’n eiddo i’w weithwyr yn rhan allweddol o'n brand, ac rydym yn gweithio'n galed i helpu busnesau bach a chanolig eraill sydd ar eu taith i fod yn gwmni sy’n eiddo i’w weithwyr.
"Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i Aber Instruments dros y blynyddoedd ac rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i ddatblygu'r model eiddo i weithwyr ac i gynyddu nifer y busnesau sy'n eiddo i weithwyr yng Nghymru.