Gydag Ofgem yn cynyddu’r cap ar bris ynni heddiw, mae’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt wedi beirniadu Llywodraeth y DU am ei diffyg gweithredu ac am beidio â chefnogi’r mwyaf bregus yn ystod yr argyfwng costau byw.
Meddai’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt:
Mae hi’n argyfwng arnon ni. Mae cannoedd ar filoedd o deuluoedd yng Nghymru a gweddill y DU yn wynebu’r cwymp mwyaf yn eu safonau byw ers dechrau cadw cofnod. Mae rhagolygon enbyd yn wynebu’r rheini sydd ar fin cael eu taflu i bwll tlodi, hyn oll wrth i ni wynebu’r ergyd driphlyg o Lywodraeth y DU sy’n methu, cynnydd creulon yn y cap ar brisiau a’r elw mwyaf erioed yn hanes y cwmnïau olew a nwy mawr.
Wrth i’r cwmnïau olew a nwy fwynhau’r elw uchaf erioed ar ôl blingo cwsmeriaid a manteisio ar becynnau cymorth y Llywodraeth, nid yw Llywodraeth y DU yn cydnabod hyd yn oed bod angen cyllideb argyfwng.
Mae angen help ar bobl Cymru nawr. Mae angen cyllideb argyfwng arnon ni, mae angen rhewi prisiau nwy a thrydan nawr ac mae angen trethu’r cwmnïau olew a nwy a’u helw digynsail.
Wrth ddisgrifio’r pecyn cymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu, dywedodd y Gweinidog:
Ers Tachwedd 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio pob cyfrwng ariannol sydd ar gael iddi i ddarparu pecynnau cymorth i helpu teuluoedd ledled Cymru i ddelio â’r argyfwng.
Yn gynta, cyhoeddon ni’r Gronfa Gymorth i Aelwydydd oedd yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, taliad o £200 i deuluoedd ar incwm isel i’w helpu â’u biliau ynni.
Yna camodd Llywodraeth Cymru unwaith eto i’r bwlch pan gyhoeddodd Ofgem y cynnydd yn nechrau’r flwyddyn i’r cap ynni domestig, gan helpu teuluoedd â phecyn cymorth digynsail o £330 miliwn i helpu pobl gyda’u costau byw.
Roedd y pecyn yn cynnwys taliad o £150 i helpu aelwydydd â’u treth cyngor, £25 miliwn ar gyfer cronfa ddisgresiwn i helpu aelwydydd mewn trafferth a £21 miliwn i estyn prydau ysgol am ddim yn 2022.
Mae’n bleser gen i nawr allu cyhoeddi £90 miliwn arall ar gyfer Cynllun Cymorth Tanwydd newydd Llywodraeth Cymru yn 2022-23. Caiff y cynllun ei lansio ar 26 Medi ac rydyn ni wedi’i ehangu fel bod mwy o aelwydydd yn cael manteisio ar y cymorth hanfodol hwn.
Mae’r arian ar gyfer y pecyn hwn wedi dod o’n cyllideb ni, ac mae’n ychwanegol i’r cyhoeddiadau sydd wedi’u gwneud gan Lywodraeth y DU, ond mae penderfyniad Ofgem heddiw yn dangos bod gwir angen rhagor o gymorth wedi’i dargedu nawr. Rydyn ni’n sylweddoli nad yw’r hyn rydyn ni wedi’i neilltuo yn ddigon.
Gan ailadrodd yr alwad am becyn o gymorth i helpu’r mwyaf bregus, dywedodd y Gweinidog:
Mae Gweinidogion Llywodraeth Cymru wedi galw’n gyson ar San Steffan i weithredu a helpu pobl yn ystod yr argyfwng. Rydyn ni wedi gofyn am ostwng y cap ar brisiau i aelwydydd incwm isel, rydyn ni wedi galw am gynnydd sylweddol yn yr ad-daliad trwy gynlluniau fel y Gostyngiad Cartrefi Cynnes, am adfer y taliad chwyddo o £20 yn y Credyd Cynhwysol ac am godiad cyfwerth â chwyddiant ym mudd-daliadau 2022-23 yn hytrach na ffigur CPI Medi 2021 o 3.1%.
Mae’r hyn rydym wedi’i wneud yn mynd ran o’r ffordd i ddelio â’r problemau difrifol y mae’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn eu hwynebu, ond gwaetha’r modd, does dim clust i glywed ein cri.
Mae perygl go iawn y gallai’r diffyg gweithredu yn San Steffan dynghedu pobl y DU i ddegawd o dlodi. Rhaid i ni beidio â gadael i hyn ddigwydd.