Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Rwy’n ysgrifennu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag integreiddio brechlynnau a awdurdodir i’w defnyddio yn y DU (gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd), ond sydd wedi eu gweinyddu dramor a’r tu allan i Gymru, i mewn i systemau Cymru a Phàs COVID y GIG.
Rwy’n falch o allu cyhoeddi llwyddiant peilot Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, ac ar ôl imi gael ei gasgliadau a chynnal trafodaethau gyda byrddau iechyd Cymru, rwyf wedi cytuno i gyflwyno’r cynllun yn genedlaethol.
Bydd y byrddau iechyd yn dechrau diweddaru gwybodaeth gan breswylwyr yn eu hardaloedd sydd wedi cofrestru gyda meddyg teulu yng Nghymru ac sydd wedi cael un neu fwy o ddosau o frechlynnau y tu allan i Gymru. I ddechrau, bydd y dystiolaeth yn gyfyngedig i’r brechlynnau canlynol sydd wedi cael eu cymeradwyo i’w defnyddio yn y DU:
- Oxford/AstraZeneca (Vaxzevria)
- Pfizer/BioNTech (Comirnaty)
- Moderna (Spikevax)
- Novavax (Nuvaxovid)
Mae dinasyddion o Gymru, a gafodd dos neu nifer o ddosau o frechlynnau yn yr Alban, Gogledd Iwerddon, a Lloegr, wedi eu cynnwys yn y cynllun. Bydd angen i ddinasyddion roi gwybodaeth i ddilysu hunaniaeth, ynghyd â thystiolaeth ynglŷn ag unrhyw frechiadau. Dylai dinasyddion gysylltu â’u bwrdd iechyd lleol i gael rhagor o wybodaeth:
Bwrdd Iechyd |
Manylion cyswllt |
Caerdydd a’r Fro |
|
Powys |
|
Bae Abertawe |
|
Hywel Dda |
|
Betsi Cadwaladr |
|
Aneurin Bevan |
|
Cwm Taf Morgannwg |
Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu system sy’n gallu cofnodi brechiad eraill, a byddwn yn cadarnhau’r trefniadau maes o law. Mae unigolion sydd wedi cael brechlynnau nad ydynt wedi eu rhestru ar hyn o bryd, barhau i ddefnyddio’r dystiolaeth a ddarperir ar adeg eu brechiad.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.