Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU 2022 i 2024: Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru
Amlinellir ein hymrwymiadau i fod yn llywodraeth agored a chydweithredol yn ein cyfraniad at bumed Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Llywodraeth Agored y DU.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r ddogfen hon yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Agored Llywodraeth Cymru y byddwn yn eu cyflawni dros y ddwy flynedd nesaf er mwyn i’r llywodraeth fod yn fwy agored ac ymatebol i ddinasyddion, yn atebol ac yn gydweithredol.
Mae’r ymrwymiadau hyn yn rhan o Gynllun Gweithredu Cenedlaethol cyffredinol Llywodraeth Agored y DU 2022-2024, ynghyd ag ymrwymiadau gan Lywodraeth yr Alban a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon.
Wrth ddatblygu’r ymrwymiadau hyn, rydym wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr cymdeithas sifil a dinasyddion drwy Rwydwaith Llywodraeth Agored Cymru. Fodd bynnag, mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith ar i ba raddau rydym wedi ymgysylltu o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol. Byddwn yn parhau i gydweithio drwy Rwydwaith Llywodraeth Agored Cymru ar ein hymrwymiadau, a’n fersiynau ar gyfer y dyfodol.
Ein hymrwymiadau ar gyfer 2022-2024 yw:
- Byddwn yn gweithio gyda sbectrwm eang o randdeiliaid i greu atebion digidol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, i ddatblygu’r economi ac i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru.
- Byddwn yn cydweithio â’r gymuned gyfieithu i ddatblygu technolegau sy’n golygu bod modd defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau
- Byddwn yn gweithio tuag at weithlu mwy amrywiol, cydradd a chynhwysol yn Llywodraeth Cymru.
- Byddwn yn sefydlu tasglu i gydweithio i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.
- Byddwn yn cydweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac er mwyn cyrraedd ein targed carbon sero net ar gyfer 2050.
- Byddwn yn gweithio gyda dinasyddion a chymunedau i ddefnyddio, mwynhau a gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol o’u cwmpas.
- Byddwn yn gweithio’n agored ac ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogi’r gwaith o integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymhellach.
Ymrwymiad 1: Cydweithio ar agweddau Digidol a Data
Byddwn yn gweithio gyda sbectrwm eang o randdeiliaid i greu atebion digidol i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell, i ddatblygu’r economi ac i leihau anghydraddoldebau yng Nghymru.
Amcan
Cynyddu, annog a chefnogi ymgysylltu a chydweithio wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol yng Nghymru.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Y sefyllfa ar hyn o bryd Cyhoeddwyd y Strategaeth Ddigidol i Gymru ym mis Mawrth 2021 ac mae’n canolbwyntio ar gydweithio ac adeiladu partneriaethau.
Mae nifer o enghreifftiau rhagorol lle mae gweithio mewn partneriaeth yn darparu gwasanaethau digidol ar hyn o bryd, fel Banc Data SAIL. Nod yr ymrwymiad hwn yw adeiladu ar yr ethos hwn o gydweithio.
Uchelgais
Creu partneriaeth weithredol barhaus sy’n gweithio ar y cyd i ddatblygu a darparu gwasanaethau cyhoeddus digidol gwell yng Nghymru.
Sefydliad gweithredu arweiniol
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Ionawr 2022 – Ionawr 2024
Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored
Mynediad at wybodaeth, cydgynhyrchu
Ymrwymiad newydd neu barhaus
Newydd
Cyfranwyr eraill
Awdurdodau cyhoeddus, academia, cynghorau cymuned, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, partneriaethau’r trydydd sector a chymdeithasol, cymdeithas sifil, Bwrdd Adolygu Rhannu Data Cymru.
Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad | Newydd neu barhaus | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
---|---|---|---|
1: Gweithio’n agored wrth weithredu’r Strategaeth Ddigidol i Gymru, gan gynnwys cyhoeddi diweddariadau cynnydd Newydd |
Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
2: Ymgysylltu â phobl a chymunedau i ddylunio gwasanaethau digidol a data hygyrch a chynhwysol sy’n seiliedig ar eu hanghenion | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
3: Cydweithio i greu uchelgais ar y cyd ar gyfer defnyddio data’n foesegol ar draws gwasanaethau cyhoeddus Newydd | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
4: Cydweithio i ddatblygu dulliau gweithredu sy’n galluogi gwasanaethau cyhoeddus i gynnal ymchwil defnyddwyr gyda gwahanol grwpiau o’r boblogaeth | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
5: Cydweithio i ddatblygu a hwyluso cymuned ddata weithredol ar draws gwasanaethau’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector yng Nghymru | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
6: Datblygu cysondeb drwy gytuno ar ddata cyffredin a safonau digidol a’u mabwysiadu | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
7: Annog defnyddio llwyfannau, safonau a fformatau a fydd yn cefnogi ailddefnyddio data | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
8: Cyhoeddi cod sy’n addas i’w ailddefnyddio ac sydd wedi cael ei greu gan Uned Gwyddor Data Llywodraeth Cymru | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
9: Cyhoeddi gwybodaeth am waith Bwrdd Adolygu Rhannu Data Cymru gan gynnwys cofnodion cyfarfodydd | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
10: Cyhoeddi gwybodaeth yn agored am gynigion rhannu data a gymeradwywyd gan Fwrdd Adolygu Rhannu Data newydd Cymru | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
Ymrwymiad 2: Technoleg Iaith Gymraeg
Byddwn yn cydweithio â’r gymuned gyfieithu i ddatblygu technolegau sy’n golygu bod modd defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.
Amcan
Cefnogi, cynghori a chydweithio â’r gymuned gyfieithu yng Nghymru. Mae meysydd ar gyfer cydweithio’n cynnwys technoleg cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur, mabwysiadu safonau agored a rhyddhau hen gyfieithiadau i’w hailddefnyddio.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae ein cynllun gweithredu ar gyfer technoleg Cymraeg yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer y Gymraeg a ddisgrifir yn ein Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr (2017). Un o egwyddorion allweddol y cynllun gweithredu technoleg yw meithrin partneriaethau a byddwn yn parhau i gydweithio â’r gymuned gyfieithu, i ddatblygu technolegau i sicrhau y gellir defnyddio’r Gymraeg mewn amrywiaeth eang o gyd-destunau.
Mae yna gymuned gyfieithu ffyniannus yng Nghymru sy’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, o derminoleg a fforymau trafod i ddarparu pyrth meddalwedd ffynhonnell agored. Bydd yr ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y sylfeini a osodwyd eisoes gan dechnolegwyr gwirfoddol, gan fentrau mawr a chan y sector cyhoeddus.
Uchelgais
Galluogi defnyddio mwy ar y Gymraeg a chynyddu’r Gymraeg yn y dirwedd ieithyddol yng Nghymru.
Sefydliad gweithredu arweiniol
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Ionawr 2022 – Ionawr 2024
Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored
Mynediad at wybodaeth, data agored, cydgynhyrchu, gweithio gyda dinasyddion, cydweithio
Ymrwymiad newydd neu barhaus
Newydd
Cyfranwyr eraill
Cymdeithas sifil, y gymuned cyfieithu Cymraeg, cwmnïau technoleg, y sector cyhoeddus.
Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad | Newydd neu barhaus | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
---|---|---|---|
1: Parhau i gefnogi ac annog datblygiadau ar gyfer cyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur, gan gynnwys cyfieithu peirianyddol a rhannu data cyfieithu | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
2: Annog defnyddio safonau agored wrth gyfieithu drwy gymorth cyfrifiadur | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
3: Parhau i ymgysylltu â’r gymuned gyfieithu yng Nghymru | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
4: Annog rhyddhau hen gyfieithiadau Saesneg<>Cymraeg ochr yn ochr o dan drwydded ganiataol addas, er mwyn gallu eu rhyddhau i’w hailddefnyddio, gan gynyddu’r Gymraeg yn y dirwedd ieithyddol yng Nghymru | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
5: Parhau i weithio tuag at gyflwyno’r Pecynnau Gwaith a ddisgrifir yn ein Cynllun Gweithredu Technoleg Cymraeg | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
Ymrwymiad 3: Amrywiaeth ym mhrosesau Recriwtio Llywodraeth Cymru
Byddwn yn gweithio tuag at weithlu mwy amrywiol, cydradd a chynhwysol yn Llywodraeth Cymru.
Amcan
Cynyddu amrywiaeth yng ngweithlu Llywodraeth Cymru.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Rydym wedi cydnabod bod rhai grwpiau yn ein gweithlu yn cael eu tangynrychioli. Nod yr ymrwymiad hwn yw mynd i’r afael â’r sefyllfa hon.
Uchelgais
Sicrhau bod ein sefydliad ni yn sefydliad sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn llawn a’n bod yn annog gweithle cyfoethog ac amrywiol, lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu bod yn nhw eu hunain, ac nad oes unrhyw un yn teimlo bod pobl yn gwahaniaethu yn ei erbyn.
Sefydliad gweithredu arweiniol
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Ionawr 2022 – Ionawr 2024
Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored
Mynediad at wybodaeth, amrywiaeth, cynhwysiant
Ymrwymiad newydd neu barhaus
Newydd
Cyfranwyr eraill
Sefydliadau a rhwydweithiau amrywiaeth
Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad | Newydd neu barhaus | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
---|---|---|---|
1: Gweithredu ein Strategaeth cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant y gweithlu: 2021 i 2026, sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer dod yn sefydliad sy’n adlewyrchu amrywiaeth Cymru yn llawn ar bob lefel, sy’n wrth-hiliol ac yn wrth-wahaniaethol o bob math | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
2: Cyhoeddi data amrywiaeth blynyddol yn Adroddiadau Cydraddoldeb y Cyflogwr | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
Ymrwymiad 4: Hawliau anabledd a chydraddoldeb
Byddwn yn sefydlu tasglu i gydweithio i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r adroddiad Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19.
Amcan
Sefydlu tasglu a fydd yn cael ei gyd-gadeirio gan Weinidog a chynrychiolydd o fudiadau pobl anabl/cynrychiolydd pobl anabl.
Bydd y tasglu’n cydweithio i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a amlygwyd yn adroddiad Drws ar Glo, yn goruchwylio’r gwaith o roi camau gweithredu ar waith ac yn cynnwys pobl anabl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae adroddiad Drws ar Glo wedi tynnu sylw at effeithiau anghymesur a niweidiol pandemig Covid ar bobl anabl.
Uchelgais
Gwella bywydau pobl anabl yng Nghymru.
Sefydliad gweithredu arweiniol
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Rhagfyr 2022 – Mawrth 2026
Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored
Cydgynhyrchu, cydweithio, cyfranogiad dinesig, amrywiaeth
Ymrwymiad newydd neu barhaus
Newydd
Cyfranwyr eraill
Pobl anabl yng Nghymru, mudiadau pobl anabl, gwasanaethau cyhoeddus Cymru, Comisiynwyr y Gymraeg
Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad | Newydd neu barhaus | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
---|---|---|---|
1: Sefydlu Tasglu Hawliau Anabledd | Newydd | Tachwedd 2021 | Mawrth 2023 |
2: Canfod a datblygu camau gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl | Newydd | Ionawr 2022 | Mawrth 2023 |
3: Rhoi camau gweithredu ar waith i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau a chryfhau a hyrwyddo hawliau pobl anabl | Newydd | Tachwedd 2021 | Ionawr 2024 |
Ymrwymiad 5: Newid yn yr hinsawdd a lleihau carbon
Byddwn yn cydweithio i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac er mwyn cyrraedd ein targed carbon sero net ar gyfer 2050.
Amcan
Cydweithio â dinasyddion, cymunedau, busnesau, y sector cyhoeddus a rhanddeiliaid eraill i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, cyflawni ein huchelgeisiau sero net a sicrhau dyfodol gwyrddach a thecach yng Nghymru.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio i ddatblygu cynlluniau i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd yr ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y gwaith hwn.
Uchelgais
Symud tuag at gymdeithas carbon isel, sy’n hanfodol i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru ac i gyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol.
Sefydliad gweithredu arweiniol
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Ionawr 2022 – Ionawr 2026
Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored
Cyfranogiad dinesig, cydgynhyrchu, cydweithio, mynediad at wybodaeth
Ymrwymiad newydd neu barhaus
Newydd
Cyfranwyr eraill
Sefydliadau addysgol, y sector cyhoeddus, busnesau, dinasyddion, cymunedau, sefydliadau amgylcheddol
Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad | Newydd neu barhaus | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
---|---|---|---|
1: Adeiladu ar ein gweithgareddau ymgysylltu â dinasyddion, cymunedau a rhanddeiliaid a fydd yn cael eu disgrifio mewn Cynllun Ymgysylltu newydd ar sicrhau Cymru Sero Net a fydd yn cael ei gyhoeddi ddechrau 2022 | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2026 |
2: Datblygu offer ymgysylltu digidol arloesol newydd i’n helpu i gyrraedd ystod eang o randdeiliaid er mwyn helpu i gydgynhyrchu strategaethau, cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd a gwella llythrennedd carbon a chefnogi newid mewn ymddygiad. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2026 |
3: Cynnal digwyddiadau ymgysylltu parhaus â rhanddeiliaid, gan gynnwys digwyddiad blynyddol yn ystod Wythnos Hinsawdd Cymru yn 2022, 2023 a 2024. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2026 |
4: Parhau i weithio’n agos gyda phlant a phobl ifanc i ddatblygu ein strategaethau, cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer newid yn yr hinsawdd ac i greu adnoddau addysgol, sy’n galluogi dysgu am yr amgylchedd a newid yn yr hinsawdd. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2026 |
5: Ymgysylltu ar draws pob rhan o gymdeithas yng Nghymru i sicrhau bod effeithiau cadarnhaol a negyddol ein taith tuag at allyriadau carbon sero net a Chymru wyrddach, gryfach a thecach yn cael eu dosbarthu’n deg ymhlith ein dinasyddion a’n cymunedau. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2026 |
6: Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i wella dealltwriaeth o newid yn yr hinsawdd a newid ymddygiad ymysg busnesau, cymunedau a chymdeithas. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2026 |
Ymrwymiad 6: Yr Amgylchedd hanesyddol
Byddwn yn gweithio gyda dinasyddion a chymunedau i ddefnyddio, mwynhau a gwerthfawrogi’r amgylchedd hanesyddol o’u cwmpas.
Amcan
Cydweithio â dinasyddion a chymunedau i’w cysylltu â’u henebion, eu tirweddau a’u hadeiladau hanesyddol lleol ac er mwyn iddynt eu mwynhau.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae Cadw (gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) wedi sefydlu nifer o bartneriaethau â dinasyddion a chymunedau i helpu i fwynhau a gofalu am yr amgylchedd hanesyddol. Bydd yr ymrwymiad hwn yn parhau ac yn gwella’r ffordd hon o weithio.
Uchelgais
Cymru lle mae pawb yn gofalu am ein lleoedd hanesyddol, yn eu deall ac yn eu rhannu.
Sefydliad gweithredu arweiniol
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Ionawr 2022 – Ionawr 2024
Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored
Cyfranogiad dinesig, cydgynhyrchu, cydweithio ac amrywiaeth
Ymrwymiad newydd neu barhaus
Parhaus
Cyfranwyr eraill
Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, cyrff treftadaeth eraill, dinasyddion, grwpiau cymunedol.
Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad | Newydd neu barhaus | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
---|---|---|---|
1: Gweithio tuag at ehangu mynediad dinasyddion a chymunedau at dreftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
2: Gweithio gyda dinasyddion a chymunedau i ddeall eu barn, eu gwerthoedd a’u perthynas â’r amgylchedd hanesyddol ac ymgymryd â phrosiectau partneriaeth gyda nhw. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
3: Darparu cyllid ar gyfer prosiectau ledled Cymru er mwyn galluogi dinasyddion i ymgysylltu â threftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
4: Annog a galluogi safleoedd Cadw i gael eu defnyddio’n briodol, gan eu gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i ddinasyddion a chymunedau fel mannau gwerthfawr. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
Ymrwymiad 7: Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
Byddwn yn gweithio’n agored ac ar y cyd i gynyddu ymwybyddiaeth a chefnogi’r gwaith o integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ymhellach.
Amcan
Arwain y cam nesaf o wreiddio deddfwriaeth Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru.
Y sefyllfa ar hyn o bryd
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn parhau i siapio sut mae Llywodraeth a’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn diwallu anghenion cenedlaethau presennol, heb beryglu gallu cenedlaethau’r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
Mae Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus wedi bod yn integreiddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn eu gwaith ers ei chyflwyno yn 2015. Bydd yr ymrwymiad hwn yn adeiladu ar y gwaith hwn ac yn parhau â’r gwaith.
Uchelgais
Cydnabod manteision Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol o ran yr hyn y mae’r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yn ei wneud, a sut maent yn gweithio.
Sefydliad gweithredu arweiniol
Llywodraeth Cymru
Amserlen
Ionawr 2022 – Ionawr 2024
Gwerthoedd y Bartneriaeth Llywodraeth Agored
Cyfranogiad dinesig, mynediad at wybodaeth, cyfranogiad sifil, cydweithio, cydgynhyrchu
Ymrwymiad newydd neu barhaus
Newydd
Cyfranwyr eraill
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, awdurdodau lleol, academia, cynghorau cymuned, byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, darparwyr addysg, cyrff tân ac achub, cyrff hyd braich, partneriaethau’r trydydd sector a chymdeithasol, cymdeithas sifil
Cerrig milltir gwiriadwy a mesuradwy i gyflawni'r ymrwymiad | Newydd neu barhaus | Dyddiad cychwyn | Dyddiad gorffen |
---|---|---|---|
1. Parhau i ymgysylltu â fforwm rhanddeiliaid aml-sector Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol er mwyn bwrw ymlaen â’r cam nesaf o wreiddio dull Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ledled Cymru. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
2. Dod â thystiolaeth ynghyd ar dueddiadau tebygol yn y dyfodol sy’n effeithio ar lesiant Cymru o ran cefnogi’r broses o wneud penderfyniadau. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
3. Adolygu’r rhestr o gyrff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |
4. Parhau â’n gweithgareddau i godi ymwybyddiaeth o Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ac annog sefydliadau i fabwysiadu’r ‘pum ffordd o weithio’ (Egwyddor Datblygu Cynaliadwy). | Newydd | Ionawr 2022 | Ionawr 2024 |