Ailgartrefu Cyflym: canllawiau
Sut y byddwn yn helpu'r rhai sy'n profi digartrefedd i ddod o hyd i dai sefydlog yn gynt.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, sy'n ymrwymo i wneud digartrefedd yn beth prin, yn fyrhoedlog a ddim yn digwydd eto:
- Prin: Mae pobl yn cael eu hatal rhag bod yn ddigartref yn y lle cyntaf
- Byrhoedlog: Mae pobl yn cael ymateb cyflym ac effeithiol os ydyn nhw'n mynd yn ddigartref
- Ddim yn digwydd eto: Nad yw pobl yn profi sawl pennod o ddigartrefedd
Er mai'r flaenoriaeth yw atal digartrefedd i gymaint o bobl â phosib, rydym am i Ailgartrefu Cyflym ddod yn ddull diofyn pan fydd pobl yn dod yn ddigartref.
Beth yw Ailgartrefu Cyflym
Dull a gydnabyddir yn rhyngwladol yw Ailgartrefu Cyflym sy'n sicrhau bod pobl sy'n profi digartrefedd yn gallu symud i gartref sefydlog cyn gynted â phosib, yn hytrach nag aros mewn llety dros dro am gyfnodau hir.
Beth yw elfennau allweddol Ailgartrefu Cyflym?
- Tybir fod pawb yn 'barod am dŷ' gyda'r gefnogaeth gywir.
- Mae pobl yn treulio cyn lleied o amser â phosib mewn llety dros dro.
- Pan fydd pobl angen llety dros dro, mae o safon uchel.
- Mae pobl yn gallu cael mynediad i'r cartref cywir yn y lle iawn iddyn nhw.
- I'r rhan fwyaf o bobl, cartref annibynnol, prif ffrwd fydd y dull diofyn, ond gall eraill ddewis llety â chymorth.
- Mae pobl yn gallu cael mynediad at gymorth aml-asiantaethol o ansawdd uchel, wedi'i deilwra ar gyfer anghenion unigol, lle bo angen hyn.
Pwy all elwa o Ailgartrefu Cyflym?
Dylai pawb sy'n profi neu mewn perygl o fod yn ddigartref elwa o ailgartrefu cyflym a chael cymorth i ddod o hyd i gartref sefydlog cyn gynted â phosibl. Ond bydd angen lefelau gwahanol o gymorth ar wahanol bobl er mwyn cynnal eu tenantiaeth. Ni fydd angen cefnogaeth ychwanegol ar rai pobl, efallai y bydd angen cymorth tymor byr ar rai pobl, a bydd angen cefnogaeth dwyster uwch ar gyfran fach, cefnogaeth aml-asiantaeth (Tai yn Gyntaf).
Beth yw ystyr 'cartref sefydlog'?
Mae hyn yn golygu llety yn y sectorau cymdeithasol a phreifat y disgwylir iddo bara o leiaf chwe mis, ond mae ganddo'r potensial i fod ar gael cyhyd ag y mae'r tenant yn dymuno.
Beth yw rôl llety â chymorth o fewn Ailgartrefu Cyflym?
I'r rhan fwyaf o bobl, cartref annibynnol, prif ffrwd fydd y dull diofyn, ond gall eraill ddewis llety â chymorth ar sail canolig neu hirdymor. Lle defnyddir llety â chymorth ar sail trosiannol neu dymor canolig, dylid cadw hyn dan adolygiad parhaus ac ni ddylid ei ystyried yn dai sefydlog. Gallai symud at ailgartrefu cyflym olygu bod llai o ddibyniaeth ar lety â chymorth yn y dyfodol ond mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda rhanddeiliaid i ystyried yr effaith a datblygu'r sefyllfa bolisi yma.
Beth am bobl sydd ddim yn dewis byw yn annibynnol?
Mae Ailgartrefu Cyflym yn ddull sy'n gweithio i bawb. Yn y cyd-destun hwn, bydd yn golygu y byddant yn cael eu symud i'r tai a gefnogir yn briodol cyn gynted â phosibl, ond mae ffocws yn parhau ar fyw'n annibynnol yn y dyfodol.
Pam ein bod yn cyflwyno'r dull gweithredu yng Nghymru
Mae digartrefedd yn anghynaladwy ac yn symptom o farchnad dai camweithredol.
Mae Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yng Nghymru: cynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026 yn amlinellu bod rhaid i ni wneud newid radical er mwyn cyrraedd ein nod o roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.
Mae'r pandemig wedi ein galluogi i gael darlun llawer mwy cywir o wir raddfa digartrefedd ledled Cymru. Er bod yr ymateb brys wedi helpu llawer o unigolion i ymgysylltu â gwasanaethau am y tro cyntaf, mae wedi dangos lefel yr angen cudd nad yw'r system dai, iechyd a chefnogaeth ehangach yn mynd i'r afael â hi fel arfer a'r angen i ymateb i'r rhain dros y tymor hwy.
Mae Llywodraeth Cymru yn glir bod y rheiny sydd wedi cael cymorth i lety dros dro heb ddatrys eu digartrefedd. Mae Ailgartrefu Cyflym yn cynnig ateb i'r her hon. Mae'r dystiolaeth yn glir bod y mwyafrif llethol o bobl sydd wedi profi digartrefedd, hyd yn oed y rhai sydd wedi eu gwthio i'r cyrion yn ddifrifol ac yn ddigartref ers amser maith, yn gallu cynnal eu tenantiaethau mewn tai hunangynhwysol, gyda'r lefel iawn o gymorth lle mae ei angen arnynt.
Mae ein dull o weithredu yn seiliedig ar dystiolaeth ac mae'n adeiladu ar adroddiadau ac argymhellion yr arbenigwr Grŵp Gweithredu ar Ddigartrefedd, sydd wedi gweithio gyda'r sector, darparwyr gwasanaethau ac, yn bwysicaf oll, gyda defnyddwyr gwasanaethau.
Mae nifer o fanteision i Ailgartrefu Cyflym:
- Lleihau cysgu ar y stryd
- Lleihau digartrefedd dro ar ôl tro
- Lleihau gwariant cyhoeddus ar lety drud dros dro
- Lleihau effeithiau ansefydlogrwydd ac ymylu ar ddigartrefedd hir neu arosiadau hir mewn lleoliadau brys neu dros dro
- Yn gwella ansawdd bywyd a chanlyniadau iechyd pobl, gan arwain at arbedion i wasanaethau cyhoeddus
Beth yw'r dystiolaeth ar gyfer Ailgartrefu Cyflym?
- Mae pennod 7 o adroddiad dathliad 50 mlynedd Crisis: Everybody In: How to End Homelessness in Great Britain (2018) yn cynnwys crynodeb o'r dystiolaeth ar gyfer Ailgartrefu Cyflym.
- Mae Cyngor Perth a Kinross yn yr Alban wedi bod yn gweithredu Ailgartrefu Cyflym ers nifer o flynyddoedd. Mae eu Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym 2019-2024 yn manylu ar eu llwyddiannau wrth sicrhau arbedion, lleihau faint o lety dros dro sydd ei angen, gan leihau'r amser sy'n cael ei dreulio ar gyfartaledd mewn llety dros dro a'r gostyngiad yn nifer y dyddiau sy'n cael eu treulio yn aros am gynnig o dai sefydlog.
Beth yw'r amserlenni ar gyfer Ailgartrefu Cyflym?
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod na fydd y newid i Ailgartrefu Cyflym yn syml a bydd yn ddibynnol ar sawl ffactor pwysig, yn enwedig cynyddu'r cyflenwad o dai, sydd yn eu tro'n ddibynnol ar ffactorau eraill fel argaeledd deunyddiau, llafur, tir a materion amgylcheddol ehangach.
Rydym felly yn argymell amserlen o 5 mlynedd ar gyfer trawsnewidiad i Ailgartrefu Cyflym.
Beth yw'r camau allweddol i symud tuag at system o Ailgartrefu Cyflym?
Mae canllawiau'r Cynllun Pontio Ailgartrefu Cyflym yn gosod y camau allweddol i'w cymryd i'r awdurdod lleol a'r partneriaid i symud o'r sefyllfa bresennol i weledigaeth y dyfodol. Bydd hyn yn wahanol i bob awdurdod lleol ac yn dibynnu ar beth yw'r heriau allweddol.
Dyma rai o'r prif elfennau sydd i'w cael:
- Dealltwriaeth o lefel yr anghenion tai a chymorth, gan gynnwys faint o aelwydydd sy'n symud neu'n aros i symud i leoliadau dros dro; faint a pha fath o dai sydd ei angen er mwyn cartrefu pobl yn barhaol; a phwy sydd angen cefnogaeth, ac ar ba lefel, i gynnal eu tenantiaeth.
- Dull cydgysylltiedig a strategol o nodi ffynonellau tai gan awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac o fewn y Sector Rhentu Preifat;
- Rhaglenni adeiladu tai sy'n ystyried yr angen am dai, er enghraifft drwy Asesiadau'r Farchnad Dai Leol;
- Polisïau dyrannu landlordiaid ac awdurdodau lleol sy'n blaenoriaethu aelwydydd heb gartref parhaol;
- Ymrwymiad aml-asiantaethol i ddarparu cymorth, yn enwedig gan wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau;
- Ystod gynhwysfawr o weithgareddau atal, megis gwasanaethau cyfryngu a chyngor;
- Pobl sydd â phrofiad byw o ddigartrefedd yn cael rôl wrth lywio a chyd-gynhyrchu cynlluniau a gwasanaethau o fewn y newid i Ailgartrefu Cyflym.
Mae'n hanfodol bwysig bod gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau tai yn cymryd pob cyfle i atal digartrefedd. Os gwneir ailgartrefu cyflym yn effeithiol, gyda'r gefnogaeth gywir, yna byddwn yn atal digartrefedd dro ar ôl tro yn y dyfodol.
Sut mae hyn yn mynd i dderbyn adnoddau?
Mae swm sylweddol o arian eisoes wedi'i ddarparu i awdurdodau lleol, a landlordiaid ar gyfer cymorth tai a digartrefedd:
- Yn 2022-23, mae £60m wedi'i ddarparu i Awdurdodau Lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i gynyddu capasiti llety parhaol ledled Cymru'n gyflym fel rhan o'r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol
- Yn 2021-22, dyrannwyd £50m i ddechrau'r broses o drawsnewid gwasanaethau a chreu dros 500 uned o dai cynaliadwy hirdymor newydd
- Yn 2021-22, cafodd y Grant Cymorth Tai gynnydd o £40m (30%), gan gymryd cyfanswm yr arian i £166.763m. Bydd y cynnydd hwn yn cael ei gynnal hyd at o leiaf 2025
- Yn 2021-22, buddsoddwyd £250m mewn tai cymdeithasol, yn fwy nag erioed o’r blaen, a gwelwyd y ffigwr yn cynyddu i £310m yn 2022-23
- Mae cyllid refeniw craidd llywodraeth leol wedi cynyddu 9.4% yn 2022-23 ac awdurdodau lleol sydd i flaenoriaethu ble y bydd yn cael ei ddyrannu
- Rhwng 2021 a 2024, bydd awdurdodau lleol yn gallu defnyddio 2% (hyd at uchafswm o £100,000) o'u dyraniad Grant Cymorth Tai i ariannu adnodd cynllunio prosiect tymor byr a/neu strategol er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflawni Ailgartrefu Cyflym
- Yn 2021-22, darparwyd £1 miliwn o gyllid trwy Fyrddau Cynllunio Ardal i gefnogi unigolion ag anghenion cymhleth, wedi’i ddarparu drwy wasanaethau camddefnyddio sylweddau, iechyd meddwl a gwasanaethau tai. Mae cyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer 2022-23.
Sut ydyn ni'n mynd i sicrhau bod digon o gartrefi i bawb?
Mae nifer o gamau brys yr ydym yn eu cymryd ac angen eu cymryd yn y dyfodol i sicrhau bod y cyflenwad tai yn cyfateb i'r galw am dai:
- Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol rhwng 2021-2026;
- Mae angen i dimau datblygu tai a chynllunwyr weithio gyda thimau digartrefedd fel bod anghenion tai yn cael eu hadlewyrchu yn asesiad y Farchnad Dai Leol. Dylid adlewyrchu'r anghenion hyn yn Prosbectws tai awdurdodau lleol a Chynlluniau Datblygu Rhaglenni;
- Mae Cynllun Prydlesu Sector Rhent Preifat Cymru yn gynllun sy'n cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru a gafodd ei lansio yn 2021 sy'n cynnig cymhellion i berchnogion eiddo sy'n prydlesu eu heiddo i'r awdurdod lleol. Bydd gan denantiaid sy'n cael eu cartrefu o dan y cynllun lety tymor hwy, diogel a fforddiadwy yn ogystal â mynediad at lefel uchel o gefnogaeth i helpu i gynnal eu tenantiaeth.
- Adolygiad o ddeddfwriaeth digartrefedd a dyrannu tai i sicrhau nad ydym yn eithrio pobl sy'n profi digartrefedd neu mewn perygl o fod yn ddigartref drwy sicrhau 'dewis rhesymol' i bobl yn y sefyllfa hon.
- Datrysiadau arloesol fel chwilio am gyfleoedd i weithio gyda'r nifer cynyddol o landlordiaid sefydliadol megis cronfeydd pensiwn ac ymddiriedolaethau buddsoddi neu hyrwyddo modelau i rannu tai sawl ystafell sy'n bodoli eisoes.
Pwy yw ein partneriaid yn y gwaith hwn?
Nid mater tai yn unig yw digartrefedd ac mae angen rhywfaint o berchnogaeth a goruchwyliaeth wleidyddol a chorfforaethol. Ni fydd Ailgartrefu Cyflym yn llwyddo oni bai bod aliniad gweithredol llawn rhwng swyddogaeth tai strategol awdurdod, rhaglen adeiladu cyfalaf, Comisiynu Grant Cymorth Tai a'r gwasanaethau digartrefedd statudol. Bydd hefyd angen cymorth strategol a gweithredol gan ystod o wahanol bartneriaid gan gynnwys gofal sylfaenol, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau, cyfiawnder troseddol a gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Bydd digartrefedd y trydydd sector a darparwyr cymorth tai yn bartneriaid hanfodol wrth drosglwyddo i ailgartrefu'n gyflym. Bydd eu gallu i feithrin perthynas o ymddiried gyda phobl sydd wedi cael profiad negyddol yn y gorffennol, efallai hyd yn oed wedi eu methu gan y system, yn hanfodol i ddarparu gwasanaethau, a dylid defnyddio eu profiad a'u harbenigedd wrth wneud penderfyniadau ynghylch addasu gwasanaethau.
Yn ogystal â'r partneriaid lleol allweddol, dylai grwpiau partneriaeth gynnwys gweithwyr rheng flaen yn ogystal â phobl sydd â phrofiad byw.
Beth yw'r rôl i awdurdodau lleol?
Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddrafftio a gweithredu'r Cynlluniau Pontio Ailgartrefu Cyflym. Mae'n hanfodol bod y Cynllun Pontio cychwynnol hwn yn cael ei ddatblygu fel dogfen gorfforaethol. Yn ogystal â sicrhau bod swyddogaethau statudol eraill yr awdurdod, megis gofal cymdeithasol yn rhan ohono, rhaid cydweithio rhwng y tîm strategaeth, Grant Tai Cymdeithasol a thimau Grant Cymorth Tai a gwasanaethau digartrefedd er mwyn darparu cynllun sy'n bodloni nodau'r trawsnewidiad Ailgartrefu Cyflym.
Beth yw'r rôl i lywodraeth leol?
Mae llywodraeth leol yn chwaraewr allweddol i sicrhau bod y tai cywir yn cael eu codi yn y lle cywir a bod anghenion lleol yn cael eu diwallu drwy raglenni cyfalaf. Bydd aelodau etholedig yn hanfodol wrth ddangos arweiniad i fynd i'r afael ag anghenion eu cymunedau lleol sydd heb fynediad at gartref diogel. Bydd adrannau eraill fel gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau ymyrraeth gynnar hefyd yn chwarae rolau pwysig wrth gefnogi rhai pobl.
Beth yw'r rôl i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol gyda stoc tai?
Mae gan landlordiaid cymdeithasol rôl allweddol i'w chwarae o ran adeiladu mwy o gartrefi cymdeithasol a gweithio gyda thimau digartrefedd i ddyrannu tai i'r rhai sy'n ddigartref. Efallai y bydd hyn yn gofyn am newidiadau i bolisïau dyraniadau. Bydd cymdeithasau tai hefyd yn hanfodol i sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu troi allan o dai cymdeithasol i ddigartrefedd.
Beth yw rôl y sector rhentu preifat?
Mae'r sector rhentu preifat yn chwaraewr allweddol arall o ran darparu tai fforddiadwy i unigolion. Bydd Cynllun Prydlesu Cymru yn gwella mynediad i gartrefi fforddiadwy ac o ansawdd da i'r bobl hynny sydd mewn perygl o fod yn ddigartref ac sy'n derbyn budd-daliadau, gan gynnwys credyd cynhwysol.
Beth yw'r rôl i ddarparwyr cymorth digartrefedd a thai?
Mae llwyddiant ailgartrefu cyflym yn dibynnu ar y gefnogaeth gywir sydd ar waith ar yr adeg iawn. Bydd darparwyr cymorth ar gyfer digartrefedd a thai yn hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau megis cymorth lle bo’r angen, allgymorth pendant, ymyriadau amser critigol a Tai yn Gyntaf. Mae hyn yn hanfodol i helpu unigolion i fagu hyder a chysylltiad mewn cymuned. Bydd y gefnogaeth hon yn hanfodol i gefnogi pobl i adael digartrefedd, ond bydd hefyd yn hanfodol i helpu pobl i gynnal eu tenantiaethau ac osgoi ailadrodd digartrefedd.
Beth yw'r rôl ar gyfer gwasanaethau eraill fel iechyd meddwl a chymorth camddefnyddio sylweddau?
Er mwyn i unrhyw wasanaeth digartrefedd fod yn effeithiol, bydd angen asesu a llwybrau cadarn ar lawer o bobl ddigartref i gymorth priodol gan ystod o wahanol bartneriaid gan gynnwys gofal sylfaenol, iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Er mwyn i ailgartrefu'n gyflym fod yn llwyddiant, mae angen ymrwymiad strategol gan wasanaethau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i ddarparu mynediad amserol i gefnogaeth sy'n galluogi pobl i adael digartrefedd ac osgoi ailadrodd digartrefedd yn y dyfodol.
A fydd symud i Ailgartrefu Cyflym yn effeithio ar bobl eraill yn y system dai?
Lle bynnag y bo'n bosib, rydym am osgoi cartrefi ac unigolion yn gweld digartrefedd fel llwybr i dai. Rydym yn gweithio i sicrhau bod cyflenwad priodol o dai yng Nghymru i ddiwallu anghenion y boblogaeth, a phan fydd aelwydydd angen tai gallant fynd at eu hawdurdod lleol a fydd yn eu cefnogi i ddatrys eu problemau tai. I rai pobl, bydd hyn yn cynnwys cymorth i gael mynediad at dai yn y sector rhentu cymdeithasol neu breifat.
Os cawn ni Ailgartrefu Cyflym yn iawn yng Nghymru, byddwn yn atal ailadrodd achosion o ddigartrefedd yn y dyfodol, boed hynny ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn oedolion neu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol a fydd yn cael eu gwarchod rhag profi digartrefedd yn ifanc.
Yn y pen draw, ni ddylid goddef digartrefedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod ag ef i ben. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni newid ein dull o weithio gydag aelwydydd sy'n ddigartref neu'n wynebu digartrefedd.
A allwn ni ddefnyddio tai a rennir fel opsiwn?
Y sefyllfa ddiofyn ddylai fod i anelu at opsiwn sefydlog annibynnol. Fodd bynnag, ni ddylai hyn ddiystyru'r opsiwn o dai a rennir o dan yr amgylchiadau cywir a lle mai dyma ddewis y person. Gall hyn gynnwys achosion lle mae cyfeillgarwch wedi ffurfio tra'n ddigartref neu lle mae tai a rennir yn ddewis datganedig yr unigolyn.
Beth yw'r safonau ar gyfer llety dros dro/ cartrefi sefydlog?
Mae'r pandemig wedi amlygu'r angen i sicrhau bod pobl yn gallu cael mynediad at lety addas o safon sy'n cynnal ymdeimlad o urddas a pharch. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir bod llety dros dro yn hunangynhwysol gydag o leiaf gyfleusterau en-suite. Bydd lle ar y llawr yn parhau i beidio â chael ei oddef o dan unrhyw amgylchiadau.
Mae Pennod 19 o'r Cod Canllawiau ar gyfer Awdurdodau Lleol ynghylch Dyrannu Llety a Digartrefedd yn darparu canllawiau manwl ynghylch yr hyn a ystyrir yn addas mewn perthynas â llety a ddarperir / at ddibenion atal / interim / helpu i sicrhau / dyletswyddau i sicrhau dyletswydd.
Beth sydd ei angen i wireddu cynllun Ailgartrefu Cyflym yng Nghymru
- Mwy o dai fforddiadwy – tai cymdeithasol a thai rhent preifat
- Dealltwriaeth dda o anghenion cymorth pobl sy'n profi digartrefedd
- Gwell mynediad at gefnogaeth aml-asiantaeth (fel gwasanaethau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau) ar gyfer pobl sydd ei angen
- Gweithio mewn partneriaeth a rhannu cyfrifoldeb – ni ellir cyflawni Ailgartrefu Cyflym drwy wasanaethau tai yn unig