Categori cymhwystra newydd ar gyfer gwladolion Wcreinaidd ac aelodau o'u teuluoedd sydd i’w gynnwys yng Nghynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru: blwyddyn academaidd 2022 i 2023
Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion am y categori cymhwystra newydd ar gyfer gwladolion Wcreinaidd ac aelodau o'u teulu.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn rhoi manylion am y categori cymhwystra newydd ar gyfer gwladolion Wcreinaidd ac aelodau o'u teulu, a fydd yn cael ei gynnwys yn y cynlluniau Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA) a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru a asesir ar sail incwm ar gyfer y flwyddyn academaidd 2022 i 2023.
Sicrhewch fod yr Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn cael ei ddosbarthu i'r holl staff a chydweithwyr sy'n helpu i weinyddu'r cynlluniau.
Bydd copi o'r cynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022 i 2023 ar gael i'w gweld ar dudalen we cyllid i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru cyn hir.
Categori preswyliaeth newydd i wladolion Wcreinaidd ac aelodau o'u teulu
Bydd darpariaeth yn cael ei gynnwys yng nghynlluniau LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 i'r rhai y rhoddir caniatâd iddynt aros gan y Swyddfa Gartref o dan Gynlluniau perthnasol Wcráin, neu y rhoddir caniatâd iddynt aros y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo am reswm sy'n gysylltiedig â'r gwrthdaro yn Wcráin. Mae'r categori newydd yn debyg i'r hyn sy'n cael ei gynnwys ar gyfer cyllid i fyfyrwyr addysg uwch ac y rhoddwyd gwybod amdano eisoes drwy Hysbysiad Gwybodaeth 06/2022.
Bydd y categori newydd yn unol â chategorïau eraill sy'n seiliedig ar amddiffyn. Mae hyn yn golygu na fydd angen i'r person fodloni gofyniad y cyfnod preswylio tair blynedd arferol yn y DU.
Bydd person yn gymwys os yw:
- wedi cael caniatâd i aros o dan y Cynlluniau Wcráin
- wedi cael caniatâd i aros y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo am reswm sy’n gysylltiedig â’r gwrthdaro yn Wcráin
- yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a’r Ynysoedd ac nad yw wedi peidio â phreswylio felly er pan roddwyd caniatâd iddo aros o dan y Cynllun Wcráin neu y tu allan i’r Rheolau Mewnfudo
- yn preswylio fel arfer yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs
Bydd person yn gymwys i gael cymorth os yw'n bodloni meini prawf y categori cymhwystra newydd a'r holl feini prawf perthnasol eraill.
Ffurflenni cais
Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru wedi diweddaru'r ffurflen gais a'r nodiadau canllaw ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023, ac maent ar gael o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dim ond ar ôl gweld cais wedi'i gwblhau'n llawn gyda'r dystiolaeth ategol briodol y bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gallu penderfynu ar gymhwystra hawl.
Dylai myfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion a nodir uchod, ac sy'n ceisio gwneud cais am LCA a Grant Dysgu (Addysg Bellach) Llywodraeth Cymru, ddefnyddio'r ffurflen gais a'r nodiadau canllaw ar gyfer blwyddyn academaidd 2022 i 2023 sydd ar gael i'w lawrlwytho o wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Dylai myfyrwyr sydd eisoes wedi cael pecyn cais gan eu hysgol neu eu coleg cyn 1 Awst 2022, neu sydd wedi ymgeisio o'r blaen ac wedi cael eu gwneud yn anghymwys ar sail eu statws preswylio, ddarllen y diweddariad diweddaraf ar wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael cyngor ar sut i wneud cais.
Gellir cysylltu â gwasanaeth cwsmeriaid dwyieithog Cyllid Myfyrwyr Cymru hefyd ar 0300 200 4050.
Ymholiadau
Os oes gennych gwestiynau, cysylltwch â Thîm Addysg Uwch Llywodraeth Cymru drwy e-bostio isadrancyllidmyfyrwyr@llyw.cymru. Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg neu’n Saesneg.
Gellir lawrlwytho copi o'r Hysbysiad Gwybodaeth hwn yn Gymraeg neu’n Saesneg o dudalen we cyllid a chyllid i fyfyrwyr Llywodraeth Cymru.
Gellir gofyn am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.