Heddiw mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan wedi lansio ymgynghoriad ar wella profiadau nifer o bobl sy’n defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Bydd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar ddeddfwriaeth arfaethedig i gefnogi’r ymrwymiad i ddileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Mae hyn yn elfen allweddol o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Mae’r cynigion yn canolbwyntio, i ddechrau, ar ddarpariaeth gofal preswyl preifat i blant, ochr yn ochr â gofal maeth yn y sector annibynnol.
Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn rhannu gweledigaeth y bydd gofal plant sy’n derbyn gofal yng Nghymru yn y dyfodol yn cael ei ddarparu gan sefydliadau’r sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu sefydliadau nid-er-elw ac y bydd arian cyhoeddus sy’n cael ei fuddsoddi yng ngofal plant sy’n derbyn gofal yn cael ei wario ar sicrhau profiadau a chanlyniadau gwell.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Ein huchelgais yw ailgynllunio sut rydym yn gofalu am blant a phobl ifanc ac mae dileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal yn rhan allweddol o hyn. Mae plant wth wraidd popeth a wnawn, ac maent wedi dweud wrthym nad ydynt am gael gofal gan sefydliadau preifat sy’n gwneud elw o’u profiad o fod mewn gofal. Ni ddylid gwneud elw o ofalu am blant sy’n wynebu heriau yn eu bywydau.”
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:
“Rwy’n credu bod dileu elw o ofal plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn hanfodol i wella bywydau rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed. Wrth weithio gyda Llywodraeth Cymru, mae Plaid Cymru yn edrych ymlaen at weld fframwaith newydd ar waith a fydd yn dileu elw o ofal plant sy’n derbyn gofal, fel rhan o’n cred y dylid, pan fo’n bosib’, wrthdroi’r duedd yn y sector cyhoeddus o roi gwaith allan.”
Mae meysydd eraill dan sylw yn yr ymgynghoriad yn cynnwys:
- Galluogi mynediad at Daliadau Uniongyrchol i oedolion sy’n gymwys ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG, i’w galluogi i benderfynu sut, pryd a chan bwy y mae eu hanghenion am ofal yn cael eu diwallu.
- Ystyried a ddylid estyn y dyletswyddau i hysbysu am blant ac oedolion sy’n wynebu risg o niwed, o gael eu cam-drin, neu eu hesgeuluso i fod yn berthnasol yn uniongyrchol i unigolion o fewn cyrff perthnasol.
- Cynigion i ehangu’r diffiniad o ‘weithiwr gofal cymdeithasol’ i gynnwys pob gweithiwr gofal plant a chwarae, i atgyfnerthu cymorth Gofal Cymdeithasol Cymru i’r sector.
- Newidiadau i wella sut mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi ac yn rheoleiddio’r gweithlu gofal cymdeithasol a sut mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn rheoleiddio ac yn arolygu gwasanaethau.
Aeth Ms Morgan yn ei blaen i ddweud:
“Rwy’n benderfynol ein bod yn parhau i wella ansawdd profiadau pawb sy’n defnyddio ein gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi sut y bydd ein cynigion yn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth ehangach ar gyfer y gofal a’r cymorth sydd ar gael i deuluoedd, plant a phobl ifanc. Bydd hefyd yn cryfhau llais a rheolaeth pobl anabl a difrifol sâl, â’u gofalwyr, ymhellach, gan gefnogi pobl i gynnal eu hannibyniaeth. Edrychaf ymlaen at ymwneud â phawb sydd â diddordeb mewn parhau i wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol.”
Dywedodd Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney:
“Rydym am wrando ar leisiau’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru er mwyn siapio ein deddfwriaeth a’n gwasanaethau o amgylch eu hanghenion gofal a chymorth. Bydd yr ymatebion i’r ymgynghoriad hwn yn ein helpu i gryfhau gofal a chymorth, gan sicrhau bod lleisiau ein dinasyddion, pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a'u gofalwyr, yn cael eu clywed.
“Drwy gydweithio gallwn wella ein system iechyd a gofal cymdeithasol i bawb nawr ac yn y dyfodol a chefnogi pobl yn well i gynnal eu hannibyniaeth.”
Cynhelir yr ymgynghoriad tan 7 Tachwedd 2022.