Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi rhoi datganiad gyda chyngor ar gynhyrchion brechlyn ar gyfer rhaglen frechu COVID-19 yr hydref.
Yn sgil ymddangosiad amrywiolion, datblygwyd brechlynnau ar gyfer amrywiolion penodol, gyda'r amcan o gyflawni cydweddiad gwell o safbwynt imiwnedd a ysgogir gan frechlyn yn erbyn straeniau sy'n cylchredeg. Mae brechlynnau sy'n cynnwys dau antigen gwahanol, gyda’r ddau yn seiliedig ar straeniau gwahanol o SARS-CoV2, yn cael eu galw'n frechlynnau deufalent. Felly, gall brechlynnau deufalent o bosibl wella amddiffyniad yn erbyn rhai amrywiolion o SARS-CoV2.
Cymeradwywyd y brechlyn deufalent Moderna mRNA gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn ddiweddar, ar 15 Awst. Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu yn awr yn argymell y dylid, i gychwyn, ddefnyddio'r brechlyn deufalent hwn sy’n targedu’r straen Wuhan gwreiddiol a’r amrywiolyn Omicron fel un dos atgyfnerthu yn ystod ymgyrch yr hydref. Argymhellir hefyd y dylid defnyddio brechlynnau deufalent mRNA eraill, os a phan gaiff y brechlynnau hynny eu cymeradwyo. Caiff y cyngor hwn ei grynhoi fel a ganlyn:
- Mae amseroldeb a symlrwydd yn agweddau allweddol wrth roi rhaglen yr hydref ar waith.
- Canfuwyd bod gan frechlynnau deufalent ychydig o fantais dros y brechlyn arferol ac felly dylid eu defnyddio yn ystod ymgyrch hydref 2022.
- Pe bai cyfyngiadau sylweddol yn codi ynghylch cyflenwad y brechlyn, neu wrth ei roi, dylid rhoi blaenoriaeth wrth frechu i’r grwpiau hynny sydd â risg glinigol uwch.
- Dylai brechlyn atgyfnerthu'r hydref gael ei gynnig o leiaf 3 mis ar ôl y dos blaenorol
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gael ei harwain gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol a gwyddonol diweddaraf. Felly, ynghyd â'm cyd-Weinidogion Iechyd yn y DU, rwyf wedi derbyn y cyngor hwn a bydd y rhaglen frechu COVID-19 yn cael ei chyflwyno o ddechrau mis Medi 2022.
Bydd ein Strategaeth Frechu’r Gaeaf yn Erbyn Feirysau Anadlol yn sicrhau bod pobl sy'n gymwys hefyd yn cael eu diogelu rhag y ffliw tymhorol, ac rydym yn annog pobl i fanteisio ar frechiad rhag y ffliw hefyd pan fyddant yn cael ei gynnig.
Bydd y rhaglen hon yn helpu i hybu imiwnedd y rhai hynny sydd mewn mwy o berygl o COVID-19, gan wella eu hamddiffyniad rhag salwch difrifol, a diogelu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros y gaeaf yn 2022-23.
Gan ddechrau o’r wythnos hon, bydd apwyntiadau yn dechrau cael eu hanfon at y sawl sy’n gymwys, ac rwy'n annog pawb i fanteisio ar y cynnig o frechlyn atgyfnerthu COVID-19 pan fyddant yn ei dderbyn. Dyma'r ffordd orau o’ch amddiffyn chi eich hunain a'ch teuluoedd a diogelu Cymru y gaeaf hwn.
Rwy'n hynod ddiolchgar i'r Gwasanaeth Iechyd ac i bawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.
Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.