Heddiw, mae adroddiad newydd gan Cyfoeth Naturiol Cymru yn tynnu sylw at sut y llwyddwyd i adfer mawndir diraddiedig Cymru yn gynt nag erioed o’r blaen yn ystod 2021/22 – gan hyd yn oed ragori ar y disgwyliadau.
Mae mawndiroedd Cymru – sydd hefyd ag enwau deniadol fel mawnogydd, mignenni neu rosdioredd – yn arwyr annisgwyl gan fod eu hiechyd yn hanfodol i ddiogelwch o ran dŵr, wrth inni baratoi am ddyfodol o hafau poethach a gaeafau gwlypach wrth i’r hinsawdd newid.
Yn ôl yr adroddiad, rhagorwyd ar darged blynyddol Llywodraeth Cymru i adfer 650 hectar o fewndiroedd, gan lwyddo i adfer dros 1000 o hectarau, sy'n cyfateb i 1400 o gaeau pêl-droed.
O ystyried bod 70% o ddŵr yfed y DU yn dod o ardaloedd o fawndir ar yr ucheldir, mae'r angen i'w hadfer yn glir ar ôl mis [Gorffennaf] pan na welwyd ond 56% o'r glaw a ddisgwylir fel arfer yma yng Nghymru.
Hefyd, mae hyd at 90% o gorsydd gwlyb yn ddŵr, sy'n golygu eu bod yn rhwystr naturiol sy’n atal tanau gwyllt rhag ymledu ac yn lleihau'r risg o lifogydd yn bellach i lawr yr afon.
Maent hefyd yn storfa garbon hynod effeithlon, gan gadw mwy o garbon yn y pridd na choedwig o’r un faint. Mae'r 4% o dir Cymru sy’n fawndir yn storio hyd at 30% o’r carbon sydd ym mhridd Cymru. Ond mae mawndiroedd sydd wedi'u difrodi yn rhyddhau'r carbon hwn i'r atmosffer, gan gyfrannu at gyflymu’r newid yn yr hinsawdd.
Rhagwelir y bydd sychder, tanau gwyllt a llifogydd yn gwaethygu dros y blynyddoedd sydd i ddod, felly mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd ar ôl cydnabod y rôl hanfodol y mae mawndiroedd yn ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
"Efallai nad yw corsydd yn swnio'n bethau deniadol iawn, ond maen nhw’n arwyr sy’ ddim yn cael y clod maen nhw’n ei haeddu – yn enwedig yn ystod cyfnodau hir o dywydd sych neu wlyb, fel y gwelson ni’n ddiweddar.
"Pan fydd mawnogydd mewn cyflwr da, nhw yw'r dalfeydd carbon mwyaf effeithlon sydd gennym ar y tir; maen nhw’n gartref i amrywiaeth eang o fywyd gwyllt a phlanhigion, ac maen nhw hyd yn oed yn helpu i buro’n dŵr yfed a’r dŵr byddwn ni’n ymdrochi ynddo.
"Mae adfer y mewndiroedd hyn yn rhan hanfodol o'n hymateb i'r argyfwng natur a’r argyfwng hinsawdd, felly mae’r adroddiad hwn gan CNC yn newyddion derbyniol iawn. Dw i am ddiolch iddo am ei waith caled ac am ailddyblu ei ymdrechion i fwrw’r targed!
"Rhaid inni sicrhau ein bod yn parhau i warchod ac i goleddu’r ecosystem werthfawr sydd gennym ar ein mawndiroedd."
Esboniodd rheolwr prosiect y Rhaglen Weithredu Genedlaethol ar Fawndiroedd, Dr Rhoswen Leonard:
"Mae’r llwyddiant a gafwyd wrth adfer dros 1000 hectar o fawndiroedd mewn blwyddyn yn tystio i frwdfrydedd tîm y Rhaglen a'n partneriaid dros gyrraedd targedau uchel o ran gwarchod natur a lleihau carbon er budd pobl Cymru.
"Er mwyn helpu i gyrraedd y nod, mae Llywodraeth Cymru yn ysbrydoli pobl i weithredu ar fyrder ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru a'n partneriaid yn darparu'r momentwm a'r gallu i sicrhau bod y Rhaglen hon yn llwyddo.
"Mae adfer mawndir yn faes twf o bwys sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, felly rydyn ni’n ddiolchgar iawn i'n partneriaid am y llwyddiant rhyfeddol maen nhw wedi’i gael wrth ailwlychu mawn, ac i'r contractwyr arloesol fu'n addasu technegau ac offer er mwyn ymdopi â'r heriau ar y safleoedd."
Un o'r rhesymau dros lwyddiant y gwaith adfer yw hyblygrwydd o ran cytundebau a chyllid er mwyn sicrhau bod gwaith i adfer mawndiroedd yn mynd rhagddo beth bynnag yw’r sefyllfa o ran perchenogaeth ar y tir.
I weld sut mae’r gwaith i adfer mawndiroedd yn dod yn ei flaen, a'r rôl y maen nhw'n ei chwarae wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur, ewch i Porth Data Mawndiroedd Cymru.