Absenoldeb oherwydd salwch y GIG: Ionawr i Fawrth 2022
Data ar gyfraddau absenoldeb salwch y staff a gyflogir yn uniongyrchol gan y GIG ar gyfer Ionawr i Fawrth 2022.
Bydd PDF o'r ddogfen hon wedi'i lawrlwytho'n fuan
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Dangosir gwybodaeth newydd ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 ac mae data ar gyfer mis Hydref i fis Rhagfyr 2021 wedi'i ddiwygio.
Mewn ymateb i’r pandemig coronafeirws (COVID-19), sefydlwyd casgliad data ar wahân o wybodaeth reoli (StatsCymru) ar absenoldeb oherwydd salwch staff y GIG. Mae’r wybodaeth reoli yn rhoi syniad mwy amserol o gyfraddau absenoldeb oherwydd salwch, ond nid yw'n cael ei gasglu ar yr un sail â data yn y datganiad ystadegol hwn ac nid yw wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd. Am y rhesymau hyn, bydd y data yn y ddau gasgliad yn wahanol a dylai’r ystadegau swyddogol yn y datganiad hwn barhau i gael eu hystyried y ffynhonnell awdurdodol o ddata ar absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG yng Nghymru.
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Cyhoeddir yr holl ddata sydd wedi’i gynnwys yn y datganiad hwn ar StatsCymru.
Prif bwyntiau
Tueddiadau tymor hir
Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch cyfartalog 12 mis wedi cynyddu’n raddol o agos i 5.0% trwy gydol 2017 i agos at 6.0% trwy gydol 2020. Gostyngodd y gyfradd ychydig yng ngwanwyn 2021 cyn cynyddu’n fwy sydyn yn y misoedd canlynol, gan gyrraedd 6.7% ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. Dyma’r gyfradd uchaf ers cyhoeddwyd data am y tro cyntaf yn 2009.
Chwarter yn dod i ben ar 31 Mawrth 2022
- Roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn 7.2%, i fyny 1.5 pwynt canran o gymharu â’r chwarter yn dod i ben 31 Mawrth 2021. Dyma’r gyfradd chwarterol ail uchaf ar gofnod.
- Ar lefel sefydliad y GIG, roedd y gyfradd yn amrywio o 11.7% yn Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i 2.2% yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
- Ar lefel grŵp staff, roedd y gyfradd yn amrywio o 13.5% ar gyfer staff ambiwlans i 2.3% ar gyfer staff meddygol a deintyddol.
Mae’r canrannau yn y datganiad hwn wedi’u talgrynnu i’r 0.1 agosaf. Cyfrifir newidiadau pwyntiau canran gan ddefnyddio’r rhifau heb eu talgrynnu.
Tueddiadau yn y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch
Absenoldeb oherwydd salwch ar StatsCymru
Mae absenoldeb oherwydd salwch yn dangos amrywiad tymhorol eang drwy gydol y flwyddyn gyda chyfraddau is yn yr haf a chyfraddau uwch yn y gaeaf. Er mwyn darparu gwybodaeth gliriach am newidiadau hirdymor i gyfradd absenoldeb oherwydd salwch dangosir cyfartaledd symudol 12 mis yn Siart 1.
Mae’r siart yn dangos bod y cyfartaledd symudol 12 mis ar ei uchaf ar gyfer y 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022. Mae’r siart hefyd yn dangos mai cyfradd absenoldeb oherwydd salwch mis Ionawr 2022 yw’r gyfradd fisol uchaf a gofnodwyd (7.7%) wedi ei ddilyn gan fis Ebrill 2020 (7.5%) sydd yn cyd-fynd â thonnau’r pandemig COVID-19.
Nid yw staff y GIG sy'n hunanynysu, sy’n cynnwys staff sy’n gwarchod (cafodd cyngor gwarchod ei ohirio o 1 Ebrill 2021), yn cael eu cyfrif fel rhai sy'n sâl ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys yn y cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch hyn. Cyhoeddir cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch misol yn ôl sefydliad y GIG (StatsCymru) a grŵp staff (StatsCymru) ar StatsCymru.
Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl sefydliad y GIG
Canran a oedd yn absennol yn ôl sefydliad a dyddiad ar StatsCymru
Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru oedd â’r gyfradd oherwydd salwch uchaf (11.7%) o holl sefydliadau’r GIG y chwarter hwn, gyda’r gyfradd isaf yn Addysg a Gwella Iechyd Cymru (2.2%).
Bae Abertawe oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf (8.6%) o’r holl fyrddau iechyd lleol ar gyfer y chwarter hwn, gyda’r gyfradd isaf ym Mhowys (6.3%).
O gymharu â’r un chwarter yn 2021, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022 yn uwch ym mhob un o sefydliadau’r GIG yng Nghymru.
Mae data ar gyfer pob sefydliad ar gael ar StatsCymru.
Cyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn ôl grŵp staff
Canran a oedd yn absennol yn ôl grŵp staff a dyddiad ar StatsCymru
O’r chwe grŵp staff, y staff ambiwlans oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch uchaf y chwarter hwn (13.5%).
Staff meddygol a deintyddol oedd â’r gyfradd absenoldeb oherwydd salwch isaf y chwarter hwn (2.3%) fel sydd wedi bod yn wir ers dechrau casglu data yn 2009.
Yn y chwarter a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2022, roedd y gyfradd absenoldeb oherwydd salwch yn uwch o gymharu â’r flwyddyn flaenorol ym mhob grŵp staff.
Mae data ar gyfer pob grŵp staff ar gael ar StatsCymru.
Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg
Daw'r data o Gofnod Staff Electronig y GIG a ddarperir gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.
Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.
Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.
Manylion cyswllt
Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
SFR 183/2022