Bydd y Gorchymyn hwn yn cau priffyrdd er mwyn caniatáu gwaith datblygu arnynt yn unol â chaniatâd cynllunio a roddir gan yr awdurdod lleol.
Dogfennau
Gorchymyn Cau Priffyrdd (yr A4119 Llantrisant Road, Caerdydd, datblygiad Plasdŵr) 2022 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 202 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (yr A4119 Llantrisant Road, Caerdydd, datblygiad Plasdŵr) 2022: hysbysiad cyhoeddus , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 140 KB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (yr A4119 Llantrisant Road, Caerdydd, datblygiad Plasdŵr) 2022: cynllun a , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Gorchymyn Cau Priffyrdd (yr A4119 Llantrisant Road, Caerdydd, datblygiad Plasdŵr) 2022: cynllun b , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Manylion
Bydd y Gorchymyn hwn yn cau rhan o briffordd er mwyn adeiladu hyd at 5,970 o unedau preswyl (gan gynnwys cartrefi fforddiadwy); 3 chanolfan leol yn darparu unedau preswyl, siopau cyfleustra a chyfleusterau/gwasanaethau ac 1 ganolfan ardal yn darparu unedau preswyl, gan gynnwys hyd at ddwy siop fwyd gyda lleoedd parcio cysylltiedig, cyfleusterau cymunedol a gofal iechyd yn y ganolfan ardal a’r canolfannau lleol, darpariaeth ar gyfer 3 ysgol gynradd ac 1 ysgol uwchradd; tir agored gan gynnwys rhandiroedd; parciau; mannau gwyrdd naturiol a lled naturiol; mannau gwyrdd amwynder; cyfleusterau i blant a phobl ifanc; darpariaeth ar gyfer chwaraeon awyr agored gan gynnwys meysydd chwarae; gwaith seilwaith a pheirianneg cysylltiedig gan gynnwys mynedfeydd newydd i gerbydau, gwelliannau i’r rhwydwaith priffyrdd presennol, ffyrdd newydd, llwybrau troed/beicio, coridor trafnidiaeth strategol neilltuedig; hyd at 1 brif is-orsaf trydan a gwaith tirlunio.
Ystyrir bod angen cau rhan o’r briffordd bresennol er mwyn hwyluso’r datblygiad hwn.