Canllawiau ar gyfer llenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir - Ynglŷn â'r asiant
Canllawiau ar sut i lenwi ffurflen Treth Trafodiadau Tir (TTT) gan ddefnyddio gwasanaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Enw a chyfeiriad yr asiant (sefydliad)
Mae hwn wedi’i lenwi’n barod gyda'r wybodaeth a ddarparoch chi wrth gofrestru. I newid hyn, cysylltwch â ni.
Cyfeirnod yr asiant
Dyma eich cyfeirnod chi. Os yw'r cyfeirnod yn hirach na'r lle sydd ar gael defnyddiwch dalfyriadau.
Enw a manylion cyswllt yr asiant
Rhowch fanylion yr asiant y byddem yn cysylltu â nhw petai gennym unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r ffurflen hon.
Gyda'r manylion hyn, gallwn sicrhau bod ein data'n gywir. Gallwn gysylltu'n gyflym gyda'r person cywir ar yr adeg iawn er mwyn datrys ymholiadau gan osgoi uwchgyfeirio a allai arwain at godi cosbau a llog ar y trethdalwr.
Rhowch eu henw, eu rhif ffôn uniongyrchol, a'u cyfeiriad e-bost (dewisol).